Datblygu sgiliau a gallu yng Nghymru
1 Chwefror 2021
Cefndir
I wir weddnewid y ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu yng Nghymru, mae angen i ni sicrhau bod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn meddu ar y sgiliau, y gallu a’r hyder i ddarparu gwasanaethau digidol sy’n bodloni anghenion a disgwyliadau pobl Cymru.
Mae datblygu sgiliau a gallu yn rhan allweddol o’n gwaith yn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) ac mae angen i ni wybod beth sydd ei angen a pham.
Deall anghenion hyfforddi
Yn rhan o’r cam darganfod a gynhalion ni yn 2019, fe ganfuon ni nad oedd dealltwriaeth gyffredin, bendant o’r hyn y mae ‘digidol’ yn ei olygu ac nad yw pob arweinydd yn meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau i roi strategaeth ddigidol ar waith.
Mae arolygon yn wych am roi gwybod i ni beth sy’n digwydd, ond anaml iawn maen nhw’n dweud pam, gan fod pobl a sefyllfaoedd yn aml yn fwy cymhleth. Fe gomisiynon ni Gnos-tec i gynnal gwaith ymchwil darganfod i balu’n ddyfnach er mwyn deall y broblem, amlygu pa sgiliau a galluoedd y mae eu hangen mewn amryw sectorau yng Nghymru a pha rôl y gallai’r Ganolfan ei chwarae wrth gefnogi sefydliadau.
Pwy y siaradon ni â nhw
Fe siaradon ni â phobl mewn ystod eang o rolau o arweinwyr i weithwyr rheng flaen. Roedden nhw’n gweithio i lywodraeth ganolog Cymru, llywodraeth leol mewn gwasanaethau fel addysg, cyrff hyd braich y sector cyhoeddus ehangach, y trydydd sector, elusennau a sefydliadau annibynnol.
Yr hyn a ganfuon ni
Mae’r canfyddiadau o’r gwaith hwn yn ychwanegu at yr hyn a ddysgon ni o’n gwaith yn ôl yn 2019 ac maen nhw hefyd wedi cael eu hadlewyrchu yn rhywfaint o’n gwaith ymchwil o gam darganfod ein sgwad ddigidol.
- roedd rhywfaint o ofn ynglŷn â newid i ddigidol sy’n rhwystro newid diwylliannol. Heb bobl hyderus a thra medrus, ni fydd y gweddnewidiad yn llwyddo
- nid oes gan y rhan fwyaf o sefydliadau strategaeth weithredol ar waith i ddatblygu sgiliau a gallu. Ataliwyd strategaeth un sefydliad o ganlyniad i doriadau i’r gyllideb gan nad oedd yn gallu darparu map trywydd o welliannau
- mae diffyg dealltwriaeth o fethodolegau digidol a’u manteision posibl i ddarparu gwasanaethau a chanlyniadau i bobl yng Nghymru yn atal cynnydd
- ystyrir bod yr ymagwedd at amlygu anghenion hyfforddi a mynd i’r afael â nhw yn dadol ac aneffeithiol. Mae hyn yn golygu bod sefydliadau’n penderfynu pwy sydd angen pa hyfforddiant heb werthuso anghenion. Er enghraifft, mae rhai sefydliadau’n pennu anghenion hyfforddi gan ddefnyddio holiadur ‘hunanasesu’ goddrychol. Mae’r ddibyniaeth ar ddulliau goddrychol yn arwain at berygl bod lefelau cymhwysedd yn cael eu gorbwysleisio neu eu tanbwysleisio ac nad yw staff yn cael yr hyfforddiant y mae arnynt ei angen. O ran eraill, nid yw hyfforddiant ar gymhwysedd a sgiliau digidol yn cyrraedd yr agenda o gwbl gan fod blaenoriaethau uwch bob amser
- mynegodd y cyfranogwyr yn glir er bod angen i hyfforddiant gyd-fynd â’r weledigaeth gyffredinol ar gyfer Cymru, bod angen iddo gyfateb i gyd-destun yr hyn maen nhw’n ei wneud ar y rheng flaen
- mae’n rhaid i’r bobl sy’n dylunio gwasanaethau cyhoeddus feddu ar ddigon o sgiliau a hyder i addasu i amgylcheddau sy’n newid drwy’r amser. Mae hyn yn gofyn am hyfforddiant a chymorth parhaus i’w helpu i symud o fod yn ddechreuwyr i arbenigwyr, lle byddan nhw’n hyfforddi pobl eraill
Beth yw rôl CDPS?
Ein nod yw darparu cyngor a chymorth ymarferol sy’n cyrraedd sefydliadau’r sector cyhoeddus ledled Cymru. Rydym yn gwybod o’n gwaith darganfod fod angen y cymorth hwn a rhannu arfer da yn ehangach. Gallai hyn gynnwys:
- canllawiau ac offer
- cymorth i lunio a gweithredu strategaethau
- helpu sefydliadau i gadw cynhwysiant wrth wraidd dylunio gwasanaethau
- mentora a hyfforddi
- sut i ennyn cefnogaeth a newid diwylliant
- darparu cyfleoedd hyfforddi a dysgu
- cyngor ar ddod o hyd i’r hyfforddiant iawn
- cymorth i greu cyfleoedd i bobl ifanc
- syniadau ar sut i fanteisio ar ffyrdd digidol o weithio
Sut byddwn yn gwneud hyn
Rydyn ni bellach yn asesu ein canfyddiadau ac yn edrych ar waith ymchwil presennol a wnaed yn y maes hwn i benderfynu ar opsiynau a blaenoriaethau. Er mwyn i Gymru wireddu’r weledigaeth a amlinellir yn ei Strategaeth Ddigidol, mae angen i bobl allu troi’r strategaeth yn gamau gweithredu, ac mae angen i ni eu cynorthwyo. Drwy gydol y gwaith hwn, byddwn yn ymgysylltu â’r gwahanol sectorau i sicrhau bod ein cynlluniau’n gweithio iddynt.
Rydyn ni eisoes wedi dechrau ein hyfforddiant arweinyddiaeth, sydd bellach yn cael ei gyflwyno ledled awdurdodau lleol yng Nghymru a thimau Llywodraeth Cymru fel Cyfoeth Naturiol Cymru.
Rydyn ni hefyd yn bwriadu cynnal un o’n gweminarau rhannu gwybodaeth ar ddatblygu sgiliau a galluoedd yn y dyfodol agos, felly cadwch lygad am fwy o fanylion a gobeithiwn y byddwch yn cymryd rhan yn y sgwrs.