Cyrsiau newydd ar gyfer arweinwyr a staff digidol ym maes iechyd yng Nghymru yn rhoi cleifion yn gyntaf
Mae hyfforddiant ar gyfer swyddogion gweithredol ac arbenigwyr digidol GIG Cymru yn dangos sut mae dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn arwain at wasanaethau mwy effeithlon ac effeithiol
16 Chwefror 2022
Rydym yn gwybod na fydd gweddnewid gofal iechyd yn ddigidol yng Nghymru yn llwyddo heb gyfraniad a chefnogaeth defnyddwyr rheng flaen – cleifion a chlinigwyr. Ond mae angen i swyddogion gweithredol sy’n gwneud penderfyniadau ac arbenigwyr digidol gefnogi’r broses hefyd, a dyma’r rhanddeiliaid sydd gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) mewn golwg ar gyfer ei hyfforddiant diweddaraf.
Dangosodd y pandemig ba mor allweddol yw gwasanaethau digidol ym maes iechyd, ac mae Llywodraeth Cymru wedi amlygu dylunio gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr fel blaenoriaeth benodol i’w datblygu. Gyda hynny mewn golwg, mae CDPS yn cynnig dau gwrs newydd o fis Chwefror eleni: dosbarth meistr dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, “Canlyniadau iechyd gwell trwy wasanaethau sy’n canolbwyntio ar y claf”, ar gyfer aelodau bwrdd iechyd ac uwch benderfynwyr eraill yn y sector iechyd yng Nghymru; a Chyflwyniad i ymchwil defnyddwyr (Archebwch nawr), ar gyfer arbenigwyr digidol ledled GIG Cymru.

Mae’r dosbarth meistr “Canlyniadau iechyd gwell trwy wasanaethau sy’n canolbwyntio ar y claf”, a gynhelir gan Lou Downe, cyn Gyfarwyddwr Dylunio ar gyfer Llywodraeth y Deyrnas Unedig a sylfaenydd yr Ysgol Gwasanaethau Da, yn ceisio rhoi dealltwriaeth sylfaenol dda i arweinwyr iechyd y cyhoedd yng Nghymru o sut i greu gwasanaethau o amgylch anghenion y bobl sy’n eu defnyddio (clinigwyr a chleifion, yn yr achos hwn). Mae hefyd yn ceisio annog penderfynwyr i hyrwyddo’r dull hwn – sy’n ddull gwahanol iawn i’r hen ffordd o ddylunio gwasanaethau a oedd yn adlewyrchu gofynion sefydliadol ac yn gobeithio y byddai’n addas i bobl yn y pen draw.
Mae ein cwrs cyflwyniadol i ymchwil defnyddwyr, a gynhelir gan yr asiantaeth dylunio gwasanaethau o Gymru Perago a’r ymgynghoriaeth Ystwyth Basis, wedi’i fwriadu ar gyfer arbenigwyr digidol ledled GIG Cymru: y bobl sy’n creu’r gwasanaethau ar-lein, er enghraifft, sy’n cadw system iechyd Cymru i fynd nawr. Bydd yr arbenigwyr hyn, sy’n cyflawni swyddogaethau allweddol mewn sector sy’n cael ei sbarduno fwyfwy gan dechnoleg, yn elwa o’r cwrs a fydd yn rhoi gwybodaeth sylfaenol am sut i amlygu anghenion defnyddwyr trwy gyfweliadau a gwaith ymchwil arall. Byddant hefyd yn deall sut mae ymchwil defnyddwyr yn wahanol i ymgysylltu clinigol (deall pryderon a nodau staff clinigol, ac fel arall) y gallent fod yn ei wneud nawr.
Isod, mae’r trefnwyr yn rhoi mwy o fanylion am y cyrsiau maen nhw’n eu cynnal.

Nod cyrsiau newydd CDPS yw dangos sut y gall dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr arwain at well gwasanaethau iechyd yng Nghymru, gyda chleifion yn ganolog iddynt.
Canlyniadau iechyd gwell trwy wasanaethau sy’n canolbwyntio ar y claf
Lou Downe: Mewn byd lle mae adnoddau’n gyfyngedig, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn cynyddu effaith yr ymyriadau iechyd a wnawn i’r eithaf. Ffordd syml o wneud hynny yw trwy sicrhau nad yw ein bwriadau gorau yn mynd yn wastraff trwy brofiadau a ddyluniwyd yn wael i gleifion. Rydym yn gwybod bod biliynau’n cael eu gwastraffu oherwydd colli apwyntiadau, oherwydd nad yw cleifion yn gallu dilyn canllawiau neu oherwydd prosesau aneffeithlon nad ydynt yn helpu ein defnyddwyr i gyrraedd eu nod. Fodd bynnag, gall yr ateb ymddangos yn ddiangen o gymhleth yn aml.
Bydd y cwrs 2 awr hwn yn helpu arweinwyr gofal iechyd i ddeall pwysigrwydd dylunio gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar gleifion a staff ac effaith hynny ar gleifion, staff a’u sefydliad. Bydd yn dangos sut i ymestyn effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gwasanaethau trwy wella elfennau anghlinigol teithiau gofal iechyd yn syml ac yn rhwydd.
Cyflwyniad i ymchwil defnyddwyr
Perago a Basis: Mae gwreiddiau Perago ym maes darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Rydym yn cynorthwyo sefydliadau yng Nghymru i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell, gan gyd-fynd â’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae Basis yn helpu gwasanaethau cyhoeddus i fynd i’r afael â phroblemau cymhleth trwy ymgynghori a hyfforddi; fe’i henwyd yn un o’r ymgyngoriaethau rheoli gorau yn y Deyrnas Unedig am dair blynedd yn olynol.
Bydd eich cwrs 3 awr yn cael ei gyflwyno gan ymarferwyr sy’n brofiadol ym maes ymchwil defnyddwyr a dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Bydd yn ymdrin â phrofiad ymarferol o ddarparu gwasanaethau ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig ehangach, gan gynnwys ym maes iechyd.
I ymuno â’r rhestr aros ar gyfer y cyrsiau hyn neu gael gwybod mwy, anfonwch neges e-bost at learning@digitalpublicservices.gov.wales