7 Rhagfyr 2021

Mae Rhwydwaith Arweinwyr Data Cymru yn cynnwys arweinwyr data o adrannau Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol, y sector iechyd a chyrff cyhoeddus datganoledig gan gynnwys ein hunain. Nod y grŵp yw gwella sut mae data'n cael ei reoli, ei ddefnyddio a'i rannu er mwyn cyflawni'r nod o ran data a chydweithio sydd yn y Strategaeth Ddigidol i Gymru.

Er bod y grŵp hwn yn gyfrifol am ddatblygu strategaeth, mae hefyd angen dod â phobl o bob rhan o'r cyhoedd at e gilydd i drafod y materion data cyffredin hynny rydym i gyd yn eu hwynebu.

Mae Data Cymru yn arwain ar hyn ac yn edrych ar y posibilrwydd o sefydlu nifer o gymunedau a allai ganolbwyntio ar feysydd penodol fel moeseg, delweddu a rhannu data.

Ydych chi'n gweithio gyda data? Allwch chi helpu i lunio'r cymunedau hyn? Mae tîm Data Cymru eisiau clywed gennych chi  ar y cwestiynau canlynol:

  • a oes unrhyw gymunedau data penodol rydych chi'n meddwl sydd eu hangen?
  • pa grwpiau neu gymunedau data ydych chi'n ymwybodol ohonynt sydd eisoes bodoli?
  • pa gymunedau data y dylai ni ganolbwyntio ar eu sefydlu yn gyntaf - nodwch eich tair prif gymuned, efallai?
  • a fyddech chi'n fodlon hwyluso cymuned ddata? Os felly, pa un?

Anfonwch eich ymatebion at suzanne.draper@data.cymru

Mae mwy o wybodaeth ar Blog Data Digidol Llywodraeth Cymru: Mae tîm da yn gwneud data da