Cymunedau Arfer

21 Mehefin 2021

Yn CDPS, rydym yn sylweddoli cryfder cymuned. Rydym wedi gweld yn ein bywyd bob dydd yr hyn y gellir ei gyflawni trwy weithio gyda’n gilydd, a rhannu’r hyn sydd gennym, yn fwy nag erioed dros y flwyddyn ddiwethaf.

Ac mae’r un peth yn wir yn y gweithle. Dyna pam rydyn ni am greu cymunedau arfer deinamig ac ymarferol, fydd yn cryfhau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Y gymuned gyntaf a sefydlodd CDPS oedd ‘Adeiladu gwasanaethau digidol dwyieithog’ yn dilyn gweminar ar yr un thema.

Fe wnaethon ni gynnal y cyfarfod cyntaf yn ôl ym mis Chwefror ac rydyn ni wedi cyfarfod bob yn ail fore Iau ers hynny.

Mae’n ddiddorol sut rydyn ni wedi dod o hyd i’n traed erbyn hyn ac wedi ehangu sbectrwm y pynciau. Yn yr ychydig gyfarfodydd cyntaf, buom yn siarad llawer am yr iaith a ddefnyddir, pwysigrwydd defnyddio iaith glir ac yr effaith y gall tôn y testun Saesneg ei gael ar gyfieithiad.

Ers hynny, rydym wedi cael llawer o sesiynau diddorol eraill gan gynnwys creu personas sy’n siarad Cymraeg ar gyfer timau digidol ledled y DU, arfer gorau wrth gaffael gwasanaethau digidol dwyieithog a’r arbedion ariannol (ac o ran amser) y gellir eu cyflawni trwy adeiladu gwasanaeth dwyieithog o’r dechrau, yn hytrach nag ‘ychwanegiad’ ar y diwedd.

Mae gennym hefyd sesiynau wedi’u cynllunio i edrych ar heriau cyffredin wrth adeiladu gwasanaethau dwyieithog a allai arwain at ymchwiliad gan Gomisiynydd y Gymraeg a chyflwyniad gan gwmni yng ngogledd Cymru sy’n creu platfform cyfarfod sydd â’r potensial i gynnig cyfieithu byw.

Mae gennym ni grŵp llywio nawr, a fydd yn rhannu’r rôl o gadeirio’r sesiynau a chydweithio ar gynllunio sesiynau yn y dyfodol. Beth mae hyn yn ei olygu yw bod aelodau’r gymuned wedi cymryd rheolaeth, a’i fod bellach bron yn hunangynhaliol. A dyna fydd y gobaith ar gyfer ein holl gymunedau.

Yr ail gymuned arfer a sefydlwyd yn ddiweddar, gyfarfu am y tro cyntaf ddechrau Mehefin, yw’r gymuned ‘Cyfathrebu Digidol’.

Yn y cyfarfodydd cychwynnol, rhannwyd heriau presennol a beth ydym ni’n gobeithio ei gael o’r gymuned. Roedd rhai themâu clir, ond hefyd clywsom am y gwaith gwych sydd eisoes yn digwydd.

Nod y grŵp fydd cefnogi aelodau eraill yn eu heriau trwy ddatblygu calendr o gyfarfodydd rheolaidd a hefyd rhai sianelau ychwanegol ar gyfer sgwrs o ddydd i ddydd er mwyn galluogi rhannu cefnogaeth, syniadau, atebion yn ogystal â darparu ‘lle diogel’ i rannu’r hyn efallai sydd heb fynd cystal. Byddwn yn edrych ar sut i weithio’n agored, sut i ddysgu o hynny a dod yn well ac yn well o ganlyniad.

Diolch i bawb sydd eisoes yn rhan o’r ddwy gymuned.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth neu os hoffech ymuno â’r naill gymuned neu’r llall, e-bostiwch info@digitalpublicservices.gov.wales

Gadael Sylw

Ni chyhoeddir eich cyfeiriad ebost. Mae'r meysydd gofynnol wedi eu marcio ag *