Cyhoeddi Jack Rigby fel ein Pennaeth Technoleg newydd

Mae ein Pennaeth Technoleg newydd yma’n CDPS, Jack Rigby, yn dweud wrthym am ei brofiadau a’i uchelgeisiau digidol ar gyfer Cymru.

21 Ebrill 2023

Helo, Jack ydw i, Pennaeth Technoleg newydd CDPS. 

O le dwi’n dod 

Rydw i’n wreiddiol o ogledd-orllewin Lloegr ac wedi astudio ym Mhrifysgol Leeds.  

Fel rhan o gynllun graddedigion Cyngor Dinas Leeds, darganfyddais fy angerdd am y tro cyntaf dros ddod â safbwyntiau defnyddwyr i dechnoleg gyhoeddus. Drwy redeg labordai arloesi sydd â’r nod o greu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr ac yn eiriol dros ddull data agored ar draws y gwasanaethau presennol, gwelais yn uniongyrchol yr amrywiaeth o bwysau a wynebir gan lywodraeth leol a heriau a wynebir wrth ddefnyddio dulliau caffael TG traddodiadol. Gellir lleihau’r pwysau hwn yn rhannol o leiaf drwy ddulliau sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr. 

Roeddwn eisiau gweithio’n fwy uniongyrchol ar yr heriau hyn, felly symudais i reoli perthynas fusnes TG. Yma cefais y fraint o weithio gydag arbenigwyr angerddol ac roeddwn yn cydnabod bod galluogi eraill i gyrraedd eu potensial drwy weithio’n ddigidol yn rhywbeth oedd yn fy nghyffroi. Datblygais berthynas gadarnhaol gyda chydweithwyr o feysydd amrywiol, gan weithio ar brosiectau megis amddiffynfeydd llifogydd a goleuadau traffig, gan sicrhau bod TG yn cyfrannu at lwyddiant busnes fel arfer, a phrosiectau seilwaith mawr. 

Cyn gweithio ym maes TG, treuliais amser yn darparu gwasanaethau’r cyngor; gweithio mewn hyfforddiant iechyd a gofal cymdeithasol ac mewn timau pen blaen a dylunio gwe eraill, felly rwy’n gwybod yn uniongyrchol yr effaith y gall offer digidol ei chael ar allu staff i ddarparu ar gyfer anghenion defnyddwyr.  

Yn fwy diweddar rwyf wedi treulio amser o fewn Cyllid a Thollau EF fel pensaer TG; dylunio newidiadau i system cwsmeriaid treth newydd ac etifeddol i gydbwyso anghenion cwsmeriaid, strategaeth TG a chyfleoedd technegol. Rwyf hefyd wedi bod yn ddigon ffodus i weithio yn ein gofod arloesi, sy’n gyffrous fel rhywun sydd â llygad ar dechnoleg newydd ac sy’n herio ffyrdd sefydledig o weithio. 

Pam ymunais â CDPS 

Mae uchelgeisiau digidol Cymru a CDPS wir yn fy nghyffroi. Mae cyfle yma i osod y safon ar gyfer dod at ein gilydd fel ecosystem gyhoeddus a dwi methu aros i chwarae fy rhan. Mae gwerth gweithio gyda’n gilydd yn rhywbeth y mae llawer o lefydd yn dechrau dod i ddeall, ond nid wyf wedi gweld ymrwymiad mor glir i roi defnyddwyr wrth graidd gwasanaethau ag wyf wedi gweld yma’n CDPS. Yn y pen draw, mae newid sylweddol yn rhywbeth y mae’n rhaid i bobl dymuno, a gallaf weld eisoes fod  CDPS yn dod â phobl ynghyd o bob cornel o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru sydd eisiau’r newid hwnnw. 

Blaenoriaethau yn y rôl 

Byddaf yn ymwreiddio fy hun yn bennaf yn y sector cyhoeddus presennol yng Nghymru ac yn ymgysylltu â llawer o sefydliadau i ddeall eu heriau a’r pwysau sy’n unigryw i Gymru. Byddaf hefyd yn defnyddio fy mhrofiad i fynd i’r afael â blaenoriaethau’r CDPS; cyfrannu at drafodaethau ar sut i wneud i hunaniaeth ddigidol weithio i’r wlad, cyfleoedd a gyflwynir gan awtomeiddio a manteision posibl i fabwysiadu ymagwedd “Unwaith i Gymru” at rai gwasanaethau cyhoeddus. 

Diddordebau personol 

Yn fy amser fy hun, rwy’n tueddu i fod ag obsesiwn dros lawer o wahanol hobïau yn dibynnu ar yr hyn sy’n dal fy sylw neu ba dwll syrthiais i lawr yn ddiweddar. Unrhyw beth o goginio, pobi, cerdded neu ffotograffiaeth – yn enwedig lle mae teclyn neu syniad newydd i’w brofi. 

Y rhan fwyaf o’r amser gallwch chi fy nal i gyda rhyw fath o nofel neu’n gwylio cyfresi Sci-Fi neu ffantasi, ond mae’n bosib fy annog i estyn allan os oes gennych unrhyw argymhellion. 

Rwy’n mwynhau mynd allan a gweld llefydd newydd, fel arfer yn y Dales a’r Ucheldiroedd; mae cefn gwlad hardd Cymru yn siŵr o chwarae mwy o ran yn y teithiau hyn!  

Cysylltu â ni 

Os hoffech chi gysylltu a thrafod technoleg yng Nghymru, anfonwch e-bost at jack.rigby@digitalpublicservices.gov.wales 

Gadael Sylw

Ni chyhoeddir eich cyfeiriad ebost. Mae'r meysydd gofynnol wedi eu marcio ag *