Cyfuno data a gwneud penderfyniadau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru
1 Chwefror 2022
Yng ngweminar rhannu gwybodaeth ddiweddaraf y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS), fe edrychon ni ar sut gall data sbarduno penderfyniadau gwell yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt, ar sail 12fed Safon Gwasanaeth Digidol Llywodraeth Cymru.
Yn ôl y safon: ‘Dylem fesur pa mor dda mae gwasanaethau’n gweithio i ddefnyddwyr yn gyson. Dylai timau ddefnyddio data am berfformiad i ganfod a blaenoriaethu gwelliannau.’
‘Dylai data fod yn hawdd ei ddehongli’
Fe glywson ni gan John Morris, Pennaeth Data a Daearyddiaeth yn Llywodraeth Cymru. Fe bwysleisiodd y dylai data fod yn hawdd ei ddehongli, bod angen gwybod pwy rydych chi’n ei dargedu a phwysigrwydd gallu herio data. Rhoddodd enghreifftiau o sut roedd Llywodraeth Cymru wedi defnyddio data i fapio amserau gyrru, gweithgarwch tref a pherygl llifogydd.
Yna, fe glywson ni gan Jeremy Griffith, Prif Swyddog Gweithredu ar Gyfer COVID Vaccine Wales. Disgrifiodd sut roedd ef a’i dîm wedi defnyddio data i ragfynegi capasiti gwelyau ysbytai ac effaith brechiadau yn ystod y pandemig COVID-19 yn 2020.
Yn olaf, trafododd Suzanne Draper, Pennaeth Mewnwelediad ac Ymgysylltu, Data Cymru, y cymorth a’r hyfforddiant maen nhw’n eu cynnig trwy eu rhaglenni DataBasic Cymru a Hysbysu ac Ysbrydoli.
Trafodaeth a chwestiynau
Ymdriniodd y drafodaeth a ddilynodd â’r canlynol:
- y sgiliau ffurfiol ac anffurfiol sy’n angenrheidiol i ddadansoddi data
- datblygu rhwydweithiau cymorth
- moeseg data
Gwyliwch recordiad o’r weminar.
Bydd ein gweminar rhannu gwybodaeth nesaf yn cael ei chynnal ar 15 Chwefror a’r thema fydd dylunio cynnwys. Bydd dolen i neilltuo lle ar y sesiwn hon yn cael ei dosbarthu’n fuan. Ein cylchlythyr yw’r ffordd orau o gael gwybod am ein digwyddiadau a’n recordiadau diweddaraf, cofrestrwch yma.