29 Tachwedd 2021

Yr wythnos diweddaf cefais y cyfle i hwyluso sesiwn fel rhan o’n Cymuned Arfer Cyfathrebu Digidol.  

Giles Turnbull oedd y siaradwr gwadd. Giles ydi awdur ‘The Agile Comms Handbook’; llyfr di-flewyn ar dafod a di-lol am sut i weithio’n glir, yn greadigol ac yn agored. 

Gan mai ym mis Medi wnes i ddechrau gweithio gyda CDPS Cymru mae gweithio yn agored yn gysyniad eithaf newydd i mi.  

Mae’n un o’r Safonau Gwasanaeth Digidol sy’n deud y dylai timoedd gyfathrebu’n agored am y penderfyniadau maen nhw’n eu gwneud a beth maen nhw wedi ddysgu ar hyd y daith. 

Mae’n deimlad braf i gael y rhyddid yma!  

Rydw i wedi crynhoi tri pheth o gyflwyniad Giles i egluro pam. 

Ysgrifennwch ddraft cyntaf gwael.  

‘Rhowch y rhyddid i chi’n hunan i ysgrifennu rhywbeth ofnadwy a peidiwch a phoeni os fydd eich cydweithwyr ac aelodau o’ch tîm hefyd yn ysgrifennu drafft cyntaf gwael.'

Fel rhywun sydd wedi gweithio ym maes cyfathrebu ers blynyddoedd, mae hyn yn anodd, ond eto mae’n ryddhad i beidio a gadael i’r nod o greu rhywbeth perffaith fynd ar draws cyflawni rhywbeth sydd go iawn yn dda. 

Dydi  darllen drafft gwael cyntaf pobl eraill ddim ynglŷn â mynd a beiro goch ato chwaith, mae am ddechrau sgwrs am yr hyn rydych wedi hoffi neu ddeall, yr hyn nad oedd mor glir, yw’r negeseuon yn gywir, a sut i wella’r darn o waith. 

Fe soniodd rhywun yn y sesiwn am bwysigrwydd cael diwylliant warchodol a diogel i ganiatáu pobl i weithio yn y ffordd yma ac i annog pobl i rannu gwaith yn gynnar yn y broses. 

Torri ar draws rhywun pan maen nhw’n addo  “anfon y slediau draw” 

Rydan ni yn defnyddio sleidiau yn aml yn CDPS. Roedd y cyngor yma felly yn amserol o ran fy atgoffa fi o sesiwn wnes i gynnal yn gynharach yn yr wythnos. Roedd fy sesiwn i yn edrych ar beth sydd angen i ni wneud i gydymffurfio gyda safonau’r Gymraeg a hygyrchedd, tra hefyd yn cyfathrebu’r pwyntiau perthnasol mewn ffordd ddiddorol.  

Fe wnes i son am faint ffont, defnydd o ddelweddau, dyfyniadau ac yn bwysicach na dim, strwythur y cyflwyniad. Y prif beth roeddwn i am i staff ddeall yn y sesiwn oedd  bod cadw pethau’n syml wastad yn well a bod yr hyn sydd ar y sleidiau yn atgyfnerthu’r neges nid ail adrodd pob gair. 

Fe wnaeth Giles gyfeirio at y safle yma www.doingpresentations.com yn ei sesiwn o ac mi wnes innau ei defnyddio fel rhan o fy ymchwil. 

Mae ychydig bach o greadigrwydd yn mynd yn bell ac yn ddigon i wneud i chi sefyll allan 

Mae bod yn greadigol yn anodd weithiau, yn enwedig pan mae rhywun yn brysur yng nghanol y manylder! Mae gwneud amser am ychydig o feddwl agored mor bwysig ac rydw i yn benderfynol o gyfleu hyn i’r tîm. 

Rydw i yn aelod o raglen gyswllt Gwasanaeth Cyfathrebu Llywodraeth, ble mae pobl sy’n gweithio ym maes cyfathrebu yn cael eu paru i gael paned a sgwrs. Yr wythnos diwethaf fe wnes i gyfarfod yr hyfryd Anisha Chandar, rheolwr cyfryngau cymdeithasol Defra.  

Mae ei thîm hi yn cynnal sesiynau i drafod cynnwys yn rheolaidd. Maen nhw’n dod at ei gilydd i siarad am gynnwys sydd wedi eu hysbrydoli nhw neu wedi dal eu llygaid ac yn trafod ffyrdd o lunio eu negeseuon a’u cyfathrebu eu hunain. 

Rydw i am ddechrau gwneud hyn efo’r tîm ehangach yn CPDS. 

Ar sefyll allan - fe wnaeth Giles blannu ei hun yn ei slediau pan oedd yn cyflwyno trwy ddefnyddio ap https://www.mmhmm.app/ - roedd yn effeithiol iawn! 

Oeddech chi yn y sesiwn? Pa negeseuon wnaeth sefyll allan i chi? 

Gallwch gofrestru ar gyfer Cymuned Arfer Cyfathrebu Digidol yma: https://gwasanaethaucyhoeddusdigidol.llyw.cymru/cyfathrebu-digidol/

Gallwch wylio recordiad o gyflwyniad Giles ar ein sianel YouTube: https://www.youtube.com/watch?v=uVLQ9QxvyLU  

Mae cynnwys delweddau’r blog yma yn Saesneg gan bod y cyflwyniad gwreiddiol yn Saesneg. 

 

Post blog gan Edwina O'Hart - Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu