Cydweithio a dysgu – sut brofiad ydoedd i ni!

6 Hydref 2020

Croeso i’n postiad cyntaf ar gyfer blog y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS). Ni yw’r tri rheolwr prosiect o @CyngorCnPT, @BlaenauGwentCBC, @torfaencouncil sy’n gweithio gyda sgwad gweddnewid digidol gyntaf y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol. Rydyn ni’n edrych ar sut gallwn ni wella gwasanaethau i’r defnyddiwr mewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion.

Pam rydyn ni wedi cymryd rhan

Rydyn ni’n gyffrous i fod yn rhan o’r prosiect hwn, sy’n torri tir newydd. Rydyn ni i gyd yn byw yng Nghymru ac yn frwd ynglŷn â dylunio gwasanaethau cyhoeddus sy’n bodloni anghenion defnyddwyr ac eisiau hyrwyddo newid. Rydyn ni’n gwybod bod hwn yn gyfle i ni gael ein harwain mewn ffordd newydd o weithio a fydd yn mynd at wraidd y broblem, gan gynnwys pawb sy’n gysylltiedig o’r defnyddiwr gwasanaeth i’r gwasanaeth ei hun.

Rydyn ni eisiau i Gymru arwain y ffordd wrth ddefnyddio ffyrdd arloesol o weithio a fydd nid yn unig yn gwella’r ffordd y mae defnyddwyr yn ymgysylltu â’n gwasanaethau, ond hefyd yn gwneud Cymru’n rhywle gwych lle y mae ein plant eisiau gweithio. Rydyn ni eisiau bod yn rhan o rywbeth sy’n gyffrous ac yn flaengar. Ni all y sefyllfa sydd ohoni barhau.

Mae hwn hefyd yn gyfle gwych i weithio ar draws Awdurdodau Lleol na fyddent yn tueddu i gydweithio fel arfer oherwydd eu daearyddiaeth.

Camu’n ôl

Mae’r prosiect hwn yn caniatáu i ni gamu’n ôl a gweld pa rannau o’n gwasanaethau sy’n achosi problemau i’r defnyddiwr yn hytrach nag i ni. Rydyn ni wedi gofyn i’n hunain ar gyfer pwy rydyn ni’n dylunio gwasanaethau mewn gwirionedd, ac wedi bod yn hyderus i herio’r drefn os nad yw’n iawn. Dydyn ni ddim bob amser yn ei gwneud yn hawdd i’n defnyddwyr gael at ein gwasanaethau. Mae toreth o wybodaeth ar gael ac nid yw rhai pobl yn gallu ei chyrraedd, gan fod rhywfaint ohoni ar gael ar-lein yn unig. Ni allwn dybio bod gan bawb ffôn clyfar neu liniadur.

Mae hefyd wedi caniatáu i ni ddysgu ffordd newydd o weithio sy’n canolbwyntio ar gydweithio a darparu. Rydyn ni’n dysgu sgiliau newydd i’n galluogi i weithio mewn ffordd wahanol a deall sut gallwn ddylunio gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar anghenion defnyddwyr!

Gweithio’n ‘Ystwyth’

Rydyn ni’n defnyddio methodoleg Ystwyth am y tro cyntaf, sy’n golygu iaith newydd a therminoleg newydd. Mae rhai agweddau ar hyn wedi bod yn heriol i ni i gyd (byddwn ni’n sôn am hynny mewn postiad yn y dyfodol) ac mae agweddau eraill arno wedi bod yn gyffrous wrth i ddulliau o ddatrys problemau ar-lein ddangos bod modd, ym myd gwaith COVID-19, dod o hyd i ddewisiadau amgen yn lle gweithdai sy’n gweithio! Mae’n wych pa mor gyflym y gellir newid ac addasu os nad yw rhywbeth yn gweithio cystal â’r disgwyl.

Mae’r ffaith ein bod ni’n gweithio gyda grŵp arbennig o bobl sy’n canolbwyntio ar gyflawni pethau wedi bod yn fuddiol iawn hefyd. Mae’n wych cael eu cymorth a’u profiadau cyfunol i’n helpu ni i ddeall y sefyllfa bresennol a chael gwybod am bethau sy’n gallu gwneud bywyd yn fwy anodd nag y mae angen iddo fod. Mae’r adborth gan y sgwad arbenigol o CDPS ar bob cam wedi cynnal momentwm y prosiect, gan ein cadw ni i gyd ar y trywydd iawn.

Beth rydyn ni wedi’i ddysgu hyd yma

Dim ond ers tua 6 wythnos rydyn ni wedi bod yn ymwneud â’r prosiect ac yn gweithio gyda’n gilydd, ond rydyn ni wedi dysgu cymaint yn barod. Roedden ni eisiau rhannu rhai o’r prif bwyntiau gyda chi a gobeithiwn barhau i rannu’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu mewn postiadau yn y dyfodol.

Hyd yma, mae’r profiad wedi bod yn amhrisiadwy o ran helpu i gyrraedd craidd y problemau sy’n wynebu preswylwyr a staff wrth ddefnyddio gwasanaethau’r Cyngor. Bydd y wybodaeth a gafwyd o waith ymchwil defnyddwyr a staff yn allweddol i’n camau nesaf, gan helpu i sicrhau bod y preswyliwr yn ganolog i unrhyw broses.

Byddwn yn parhau i bostio am y profiad, yr hyn rydyn ni’n ei ddysgu a sut mae’r gwasanaeth yn datblygu, a gobeithiwn y bydd rhannu ein profiadau yn helpu eraill sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Gan:

Nita Sparkes @CyngorCNPT

Mandy Butcher @BlaenauGwentCBC

Mark Sharwood @torfaencouncil

Gadael Sylw

Ni chyhoeddir eich cyfeiriad ebost. Mae'r meysydd gofynnol wedi eu marcio ag *