Mae datblygu gwasanaeth mewn ffordd Ystwyth yn dod â phobl sydd â sgiliau swyddogaethol gwahanol at ei gilydd mewn timau sy'n addasu yn ôl yr angen - fel mae cydweithrediad rhwng Chwaraeon Cymru a CDPS yn ei ddangos

5 Gorffennaf 2022

Defnyddiodd y tîm ddylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr i greu gwasanaeth ymgeisio am grant oedd yn addas ar gyfer anghenion cymunedau ar lawr gwlad © Unsplash

Gweithio gyda Chwaraeon Cymru

Mae pob gwasanaeth digidol yn dibynnu ar dîm sy’n dod ynghyd i ddeall a datrys problem. Gyda dealltwriaeth a rennir, gall y tîm ddechrau darparu datrysiad sydd wedi cael ei ymchwilio, ei ddylunio, ei brofi a’i ailadrodd.

Mae un tîm o’r fath wedi bod yn gweithio ar ailddylunio buddsoddiad cymunedol (gwasanaeth rhoi grantiau) Chwaraeon Cymru er mwyn cynyddu cyrhaeddiad ac effaith ei gyllid. Mae’r tîm yn cyfuno gweithwyr proffesiynol o’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) – sy’n cefnogi’r broses o ddylunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus digidol yng Nghymru – ac o Chwaraeon Cymru ei hun.  

Un o nodau’r bartneriaeth honno yw trosglwyddo sgiliau. Byddai CDPS yn helpu Chwaraeon Cymru i gynyddu ei wybodaeth Ystwyth a digidol trwy aelodau o’r tîm craidd. Byddai’r wybodaeth honno, yn ei thro, yn treiddio’n ddyfnach trwy’r sefydliad.

Ar ddechrau’r bartneriaeth, cytunodd CDPS gyda Chwaraeon Cymru y byddem yn gweithio mewn ffordd gynhwysol a thryloyw, gan ddefnyddio ffyrdd Ystwyth o weithio. Yn unol â’r dull hwnnw, byddai’r tîm yn amlygu’r broblem ac yna’n dylunio, profi ac ailadrodd datrysiadau posibl.

Creu tîm amlddisgyblaethol

Mae defnyddio Ystwyth yn golygu creu tîm amlddisgyblaethol, hyblyg: grŵp o bobl ag arbenigedd swyddogaethol gwahanol sy’n gweithio tuag at nod cyffredin. Gall y tîm dyfu, lleihau ac addasu fel arall, fel y bo’r angen, yn ystod pob un o’r pedwar prif gam – darganfod, alffa, beta a byw.

Mae’r camau hyn yn hyblyg, gan ein galluogi i newid y cylch datblygu yn dibynnu ar yr hyn a ganfyddwn mewn gwaith ymchwil parhaus. Er enghraifft, efallai na fydd cam alffa’n mynd yn syth i gam beta, ond yn lle hynny’n cynhyrchu cwestiynau y mae angen eu harchwilio ymhellach mewn cam alffa arall, cysylltiedig.

Sicrhau’r sgiliau iawn ar yr adeg iawn

Mae’r sgiliau craidd y mae eu hangen i ymchwilio ac ailddylunio buddsoddiad cymunedol Chwaraeon Cymru yn cynnwys:

Mae datblygu gwasanaeth ystwyth yn hyblyg, nid yw bob amser yn dilyn cylch parhaus © Unsplash
  • arweinydd cyflawni a hyfforddwr Ystwyth – sy’n cefnogi’r tîm, yn dileu rhwystrau rhag cynnydd ac yn annog ffyrdd Ystwyth o weithio
  • rheolwr cynnyrch – sy’n sicrhau bod y gwasanaeth yn cyd-fynd â blaenoriaethau Chwaraeon Cymru, yn diffinio nodau’r gwasanaeth ac yn sicrhau ei fod yn bodloni anghenion defnyddwyr
  • arbenigwyr pwnc – sy’n deall y system grantiau bresennol a sut mae ymgeiswyr a derbynyddion grantiau yn rhyngweithio â Chwaraeon Cymru
  • dylunydd rhyngweithio – sy’n penderfynu ar y ffordd orau i ganiatáu i ddefnyddwyr ryngweithio â’r gwasanaeth, o ran y llif cyffredinol ac elfennau dylunio unigol
  • dylunydd cynnwys – sy’n penderfynu ar y ffordd orau i gyflwyno cynnwys o fewn y gwasanaeth, yn y lle iawn ac yn y fformat mwyaf addas
  • ymchwilydd defnyddwyr – sy’n helpu’r tîm i ddeall sut mae pobl yn defnyddio’r gwasanaeth, yn ogystal ag amlygu anawsterau i ddefnyddwyr a sut gellir gwneud y gwasanaeth yn haws ei ddefnyddio

Mae tua hanner y tîm yn dod o CDPS ac mae’r hanner arall yn dod o Chwaraeon Cymru. Yn ystod y cam darganfod, roedd y tîm yn cynnwys rheolwr cynnyrch o CDPS. Yn y cam alffa diweddaraf, mae’r rôl honno’n cael ei chyflawni gan arbenigwr pwnc o Chwaraeon Cymru, sy’n cael ei gynorthwyo i drosglwyddo i’r rôl gan gydweithwyr o CDPS.

Er mwyn rhoi enghraifft o sut rydym wedi addasu i anghenion sy’n newid, fe gynyddon ni ein tîm ymchwil defnyddwyr yn ddiweddar i helpu i gael gwybodaeth am sut mae ein prototeip yn bodloni anghenion defnyddwyr.

Cyflawni fel tîm

Mae gan y tîm a ddaeth at ei gilydd y sgiliau a’r profiad sy’n angenrheidiol i amlygu a dadansoddi anghenion defnyddwyr, ymgysylltu â rhanddeiliaid a rheoli disgwyliadau yn ystod pob cam. Rydyn ni wedi blogio am ein cynnydd â’r gwasanaeth hwn, sy’n dangos beth mae’r tîm rydyn ni wedi’i ffurfio wedi’i gyflawni.