Creu hyb gwybodaeth

7 Hydref 2020

Pan wnaethon ni gyflwyno ein hunain y diwrnod o’r blaen, fe ddywedon ni y byddem yn dechrau 3 darn o waith. Un ohonyn nhw yw “hyb gwybodaeth”. Y nod yw dod o hyd i ffyrdd o helpu i egluro safonau technegol a dylunio gwasanaeth a’u rhannu’n rhwydd ar draws sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Bydd ein gwaith yn cael ei ffurfio gan anghenion defnyddwyr

Wrth i ni archwilio sut gall datblygiadau digidol wella gwasanaethau cyhoeddus i ddefnyddwyr yng Nghymru, rydyn ni eisiau helpu pobl sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i wneud eu swyddi mor effeithiol ac effeithlon â phosibl. Rydyn ni hefyd eisiau iddyn nhw gael eu cefnogi a chael gafael ar y wybodaeth y mae arnyn nhw ei hangen, pan fydd arnyn nhw ei hangen.

Er mwyn creu rhywbeth defnyddiol, mae angen i ni ddechrau trwy siarad â’r bobl sy’n gweithio ar weddnewid digidol yng Nghymru, i gael gwybod beth fydd yn eu helpu nhw.

Ein defnyddwyr yw’r bobl sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru

Os ydych chi’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, chi yw ein defnyddwyr. Chi yw’r bobl rydyn ni eisiau eu helpu a’u cefnogi trwy’r darn hwn o waith. Mae angen eich help arnon ni. Os ydych chi’n gweithio i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ar unrhyw beth sy’n ymwneud â gweddnewid digidol, ni waeth pa mor annelwig yw’r cysylltiad, neu os hoffech chi wybod sut gall gweddnewid digidol eich helpu i ddarparu gwasanaethau gwell, fe hoffen ni siarad â chi.

Hoffen ni siarad â phobl sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn:

Does dim ots p’un a yw’ch rôl yn amser llawn neu’n rhan-amser, yn barhaol neu am gyfnod penodol, rydyn ni eisiau deall mwy am yr hyn mae ei angen arnoch chi.

Os yw hynny’n berthnasol i chi, cysylltwch â ni

Rydyn ni’n gwybod bod pawb yn brysur, felly fe geisiwn ni ei gadw’n fyr: dim mwy nag awr. Bydd y cyfweliad gydag un o’n hymchwilwyr defnyddwyr a bydd yn anffurfiol ac yn hamddenol. Ac rydyn ni’n hyblyg iawn o ran amseru — byddwn yn cynnal y cyfweliad pan fydd yn gyfleus i chi.

Does dim angen i chi baratoi — cyfweliadau ymchwil defnyddwyr yw’r rhain, nid profion. Does dim atebion cywir nac anghywir, dim ond eich safbwyntiau a’ch profiadau. Dyna beth rydyn ni eisiau ei gasglu. Mae pob cyfweliad yn gwbl gyfrinachol a dienw, felly gallwch fod yn agored ac yn onest.

Os hoffech ein helpu, anfonwch neges e-bost atom yn info@digitalpublicservices.gov.wales Rhowch eich enw, eich rôl, eich sefydliad a’ch rhif ffôn a byddwn yn cysylltu â chi.

Gadael Sylw

Ni chyhoeddir eich cyfeiriad ebost. Mae'r meysydd gofynnol wedi eu marcio ag *