Creu Cymru ddigidol — rhannu gwybodaeth
3 Rhagfyr 2020
Roedd ein gweminarau diweddar ar y safonau gwasanaethau digidol drafft rydyn ni’n eu datblygu ar gyfer Cymru yn ffordd wych o rannu rhai syniadau, ymgysylltu â’r rhai ohonoch sy’n gweithio i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a llywio ein gwaith. Mae gweithio’n agored a rhannu meddyliau, syniadau ac arfer da yn egwyddorion allweddol ar gyfer y ffordd rydyn ni’n gweithio yn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS). Rydyn ni eisiau cynorthwyo ac ymgysylltu â chynifer o bobl â phosibl wrth i ni helpu i wella’r ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu yng Nghymru.
Byddem wrth ein bodd yn gwneud mwy o hyn trwy ddigwyddiadau a chyfarfodydd wyneb yn wyneb, ond ni fydd hynny’n bosibl am y tro, felly heddiw rydyn ni’n lansio cyfres o weminarau fel dewis ail orau! Mae ein cyfres rhannu gwybodaeth yn gyfres o weminarau misol lle y byddwn yn rhannu datblygiadau diweddaraf CDPS, ynghyd â gwersi a ddysgwyd o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. O ddylunio dan arweiniad defnyddwyr, cynhwysiant digidol a gweithio’n ystwyth i gyfathrebu ac ymgysylltu, byddwn yn archwilio’r hyn sy’n gweithio nawr, beth yw’r heriau a sut gall CDPS ychwanegu gwerth a chefnogi newid gwirioneddol.
Wrth i ni ddatblygu, byddwn yn edrych ar ffyrdd o greu rhwydweithiau a chymunedau diddordeb yn gysylltiedig â’r pynciau y byddwn ni’n eu trafod. Gobeithiwn y bydd y sesiynau hyn yn gweithio, beth bynnag fo lefel eich gwybodaeth. Os ydych yn arbenigwr, gobeithiwn y byddwch yn cymryd rhan, ac os ydych yn newydd i’r maes, gobeithiwn y gallwch ddechrau dysgu. Maen nhw’n agored i bawb, p’un a ydych yn darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ar hyn o bryd neu’n awyddus i wybod sut gall Cymru ddod yn genedl ddigidol hyderus. Gallwch gofrestru nawr trwy ddilyn y ddolen isod. Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni ar gyfer y weminar gyntaf yn y gyfres ar Ddylunio Gwasanaethau dan Arweiniad Defnyddwyr, ddydd Mercher 9 Rhagfyr am 1pm.
Cyfres rhannu gwybodaeth creu Cymru ddigidol
Dylunio gwasanaethau dan arweiniad defnyddwyr, gweddnewid darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru
Ymunwch â CDPS a’r siaradwyr gwadd Jess Neely, Ian Vaughan a Darius Pocha am 1pm ddydd Mercher 9 Rhagfyr, pan fyddwn yn siarad am sut gall ymagwedd dylunio sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr helpu i greu gwasanaethau cyhoeddus gwell, ac yn archwilio buddion cymuned dylunio gwasanaethau yng Nghymru.
Gallwch gofrestru nawr fan hyn:
https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZwufuqrrzwuH9P9zRZs6o_fTutxM0ecIpnb
Bydd pynciau yn y dyfodol yn cynnwys y Gymraeg a gwasanaethau digidol, cynhwysiant digidol, digidol ac addysg, ymgysylltu digidol, mynd i’r afael â thechnoleg etifeddol, a newid o feddwl am brosiectau a rhaglenni i gynhyrchion a gwasanaethau.
Os oes gennych syniadau ar gyfer pynciau yr hoffech i ni eu cynnwys yn y gyfres hon neu os hoffech chi gymryd rhan fel siaradwr, cysylltwch â ni info@digitalpublicservices.gov.wales