Mae CDPS a Chwaraeon Cymru wedi bod yn ymchwilio i’r broses o roi grantiau er mwyn ceisio dod i hyd i ffyrdd mwy cynhwysol o ddyfarnu arian – gyda chanlyniadau addawol 

10 Mawrth 2022

Mae CDPS wedi bod yn gweithio gyda Chwaraeon Cymru i gynyddu cyrhaeddiad ac effaith grantiau cymunedol © Lars Bo Nielsen/Unsplash

Yn ystod y chwe mis diwethaf, mae Chwaraeon Cymru, mewn partneriaeth â’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS), wedi bod yn archwilio sut i gynyddu cyrhaeddiad ac effaith grantiau cymunedol y sefydliad. Mae ein tîm cyfunol wedi siarad â mwy na 50 o ymgeiswyr go iawn a phosibl am grantiau, sefydliadau chwaraeon sy’n dibynnu ar grantiau a darparwyr grantiau eraill.

Gallai’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu hyd yma fod o ddiddordeb i unrhyw sefydliad sy’n darparu grantiau.

Siaradwch â’ch holl ddefnyddwyr – gan gynnwys defnyddwyr posibl 

Y peth pwysicaf a ganfu’r tîm oedd bod angen siarad, nid yn unig â phobl sydd eisoes yn defnyddio system grantiau, ond hefyd â’r rhai nad ydynt yn ei defnyddio – ond a allai. Mae siarad â’r ddau grŵp hyn wedi ein helpu i feddwl yn feirniadol am systemau grantiau Chwaraeon Cymru yn llawn.

Fe ganfuon ni nad dim ond cymhwysedd oedd yn effeithio ar b’un a oedd rhywun yn gwneud cais am grant, ond natur y system ymgeisio ei hun. Roedd cyfyngiadau technegol y system hefyd yn effeithio ar effeithlonrwydd gweinyddu grantiau, gan gynnwys pa mor dda y gallai gweinyddwyr ddefnyddio data i wneud penderfyniadau ynghylch rhoi grantiau.

Yn olaf, roedd y cyfyngiadau technegol hynny’n creu rhwystrau hygyrchedd – i bobl anabl, er enghraifft – gan gyfyngu ymhellach ar ystod y darpar ymgeiswyr am grantiau.

Pwy nad ydych chi’n ei gyrraedd?

Roedd cyfweld â phobl a oedd wedi gwneud cais am grantiau, yn llwyddiannus neu’n aflwyddiannus, wedi rhoi syniad i ni o gryfderau a gwendidau’r system bresennol. Ond, wrth gwrs, ni ddywedodd lawer wrthym am brofiad pobl a benderfynodd beidio â gwneud cais. Y cam cyntaf i gael gwybod mwy am y profiadau hynny oedd diffinio pwy yn union nad yw Chwaraeon Cymru yn ei gyrraedd, o bosibl.

Mae ein tîm wedi cynnal sgyrsiau â sefydliadau ledled y Deyrnas Unedig sydd wedi mynd i’r afael â’r cwestiwn hwnnw eu hunain. Un peth rydyn ni wedi’i ddysgu yw bod defnyddio rhwydweithiau sydd eisoes yn bodoli yn gallu bod yn fwy effeithiol nag ymestyn cyrhaeddiad eich rhwydwaith eich hun. Mae hynny’n golygu ffurfio partneriaethau â sefydliadau sydd â chylch gwaith gwahanol i roi grantiau er mwyn cyrraedd ystod ehangach o bobl.

Mae hefyd angen i chi ddiffinio’r effaith y gallai grant ei chael ar sefydliad i fesur effeithiolrwydd rhoi grantiau yn gyffredinol. Gall diffinio’r effaith honno wneud cymhwysedd ar gyfer grant yn fwy clir. Blaenoriaethau Chwaraeon Cymru ar gyfer rhoi grantiau yw annog cydraddoldeb, arloesedd a chynaliadwyedd. Mae gwybod hynny’n gallu rhoi dealltwriaeth gliriach i ddefnyddwyr o’u cymhwysedd ar gyfer grant.

Lleiafswm data hyfyw

Yr adborth a gafwyd gan ddefnyddwyr system grantiau bresennol Chwaraeon Cymru oedd bod y ffurflen gais yn rhy hir ac ailadroddus. Mae Chwaraeon Cymru wedi ymateb trwy ddechrau penderfynu ar y lleiafswm data y mae ei angen ar y sefydliad i wneud penderfyniadau grant effeithiol neu gyflawni gofynion goruchwylio. Fe ystyrion ni hefyd ble i ofyn am y wybodaeth honno – er enghraifft, roedd angen i Chwaraeon Cymru gael manylion banc ymgeisydd dim ond os oeddent yn dyfarnu grant. O ganlyniad, y nod yw gallu lleihau nifer y cwestiynau y mae Chwaraeon Cymru yn eu gofyn i ymgeiswyr o gryn dipyn.

Roedd rhai sefydliadau, mewn ffordd arloesol, yn cyd-ddylunio eu prosesau ymgeisio am grantiau gyda grwpiau a oedd yn gymwys i ymgeisio ond nad oeddent yn gwneud hynny (oherwydd sgiliau Saesneg gwael, er enghraifft). O ganlyniad, roedd y sefydliadau’n caniatáu i grwpiau anfon ceisiadau fideo neu sain, yn ogystal â rhai ysgrifenedig.

Un cam yn unig yw hyn tuag at ddylunio prosesau mwy cynhwysol ar gyfer ymgeisio am grantiau, er mwyn sicrhau mai’r unig rwystr rhag ymgeisio am grant yw p’un a ydych yn gymwys ai peidio.

I gael gwybod mwy am y prosiect hwn, neu os ydych yn rhoddwr grantiau a hoffai rannu eich profiadau, rhowch sylw isod neu anfonwch neges e-bost CDPS