Mae tîm o fewn CDPS yn edrych ar sut mae’r sector gyhoeddus yng Nghymru yn defnyddio technoleg i leihau allyriant carbon

29 Mehefin 2022

Technoleg werdd: sut all y sector cyhoeddus ddefnyddio technoleg i helpu cyrraedd targedau allyriant carbon Cymru? © Unsplash

Mae cyfnod darganfod wrth weithio mewn ffordd ystwyth fel arfer yn dechrau gyda thybiaethau neu dystiolaeth am faes sy’n peri pryder. Yn ystod y cyfnod ymchwil hwn, rydym yn mireinio ein barn am y broblem i benderfynu a yw’n werth cymryd camau pellach – er enghraifft, dylunio gwasanaeth i ddiwallu angen defnyddiwr os oes tystiolaeth o hynny.

Yn ystod y cam darganfod Tech Net Zero, rydym wedi bod yn egluro ac yn dogfennu ein barn ar sut y gall technoleg helpu i gyrraedd targed allyriadau hinsawdd net sero Cymru erbyn 2050.

Cwmpas gwaith y cam darganfod

Mae'n ymddangos bod gan dechnoleg ddigidol fwy o ran i'w chwarae yn y sector cyhoeddus er mwyn cefnogi targedau sero net Cymru.

Rydym yn amau ​​nad yw technoleg o’r fath yn cyflawni’i rôl i’w llawn botensial, yn rhannol oherwydd diffyg dealltwriaeth mewn dau faes:

  1. sut mae ‘da’ yn edrych wrth ddefnyddio neu ddewis technoleg amgylcheddol gynaliadwy
  2. y cyfleoedd sydd yna i dechnoleg gefnogi nodau hinsawdd a faint y gallai gyfrannu

A dyma’r ddau gwestiwn y byddwn yn canolbwyntio arnynt yn ein darganfyddiad.

Sut all technoleg gyfrannu?

Nid oes dealltwriaeth gyffredin o sut y gallai technoleg ddigidol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru gyfrannu at ymrwymiadau sero net Cymru.

Mae angen inni ddiffinio cwmpas y cyfraniad hwnnw trwy ddechrau yn diffinio arfer da.

Mae ‘na ymchwil a chanllawiau yn y sector cyhoeddus yn barod ynghylch sut y gall technoleg ddigidol leihau allyriadau carbon – er enghraifft, y canllawiau cynaliadwyedd yng Nghod Ymarfer Technoleg Llywodraeth y DU a’r gwaith a wneir gan y tîm Cyngor ac Adrodd ar Dechnoleg Gynaliadwy.

Fodd bynnag, mae angen inni gasglu mwy o dystiolaeth, ynghyd â chanllawiau presennol ac arferion da’r diwydiant, i benderfynu ble i ganolbwyntio ein hymdrechion. Mae angen inni wirio hefyd a yw’r dystiolaeth a’r canllawiau hyn yn berthnasol i’r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Cefnogaeth i sector cyhoeddus Cymru

Mae’r tîm darganfod yn damcaniaethu nad oes gan bobl sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru gefnogaeth i gyrraedd nodau sero net gyda thechnoleg ddigidol yn y ffyrdd mwyaf effeithiol. Mae angen inni gael gwell dealltwriaeth o’r anghenion sydd heb eu diwallu a’r rhwystrau sydd gan bobl wrth wneud dewisiadau am dechnoleg ddigidol a fydd yn lleihau allyriadau.

Mae angen inni hefyd fapio’r dirwedd polisi sero net, sut y caiff allyriadau eu mesur a’u hadrodd ar hyn o bryd ac unrhyw gymorth sydd eisoes yn bodoli.

Canolbwyntio ar bobl a gwasanaethau digidol

Mae ffocws eang i’r darganfyddiad hwn – sut mae ystod eang o bobl (gweithwyr proffesiynol ym meysydd digidol a thechnoleg, cynaliadwyedd, masnachol a meysydd eraill) ar draws y sector cyhoeddus gyfan yng Nghymru yn ystyried allyriadau carbon wrth wneud penderfyniadau am y defnydd o dechnoleg ddigidol?

Buom yn trafod a ddylem ganolbwyntio ar elfen benodol megis sut y mae gweision cyhoeddus yn lleihau ôl troed carbon eu technoleg ddigidol neu sut y gallent ddefnyddio technoleg ddigidol i leihau ôl troed eu gwasanaeth ehangach.

Ond, ar ôl llawer o sgyrsiau, fe ddaethom i'r penderfyniad y dylai'r ffocws fod yn eang.

Mae'r tîm darganfod yn mapio tirwedd polisi newid hinsawdd Cymru, gan gynnwys sut i fesur allyriant © Pexels

Gadael meysydd sydd wedi'u hymchwilio'n dda o'r neilltu

Felly, rydym yn cadw’r ddwy agwedd hon o fewn y cwmpas gwaith ond fyddwn ni ddim yn treulio gormod o amser ar feysydd sydd eisoes wedi’u hymchwilio’n dda, megis canolfannau data a chynaliadwyedd.

Rydym hefyd am ganolbwyntio, yn bennaf, ar wasanaethau digidol, neu wasanaethau a allai fod yn ddigidol, a sut y gallai newidiadau digidol i’r gwasanaethau a’r penderfyniadau hyn leihau allyriadau. Y nod yw adnabod cyfleoedd i greu gwasanaethau sy'n well i ddinasyddion ac yn amgylcheddol gynaliadwy.

Yn olaf, buom yn trafod a ddylem edrych ar y cwmwl storio data a chaledwedd (fel argraffwyr a gliniaduron). Gan fod y meysydd hyn eisoes wedi cael eu hystyried yn fanwl, penderfynasom beidio â'u cynnwys yn y darganfyddiad.

Cymhellion

Y cwestiynau rydyn ni bob amser yn eu gofyn ar ddechrau darganfyddiad yw:

‘Pam ydyn ni’n ceisio datrys y broblem hon?’

a

‘Pa ganlyniadau ydym ni’n chwilio amdanynt?’

Mae angen ystyried y cwestiynau hyn ymlaen llaw, gan y byddwn yn mesur atebion i'r broblem a ddiffinnir gennym yn y cyfnod darganfod yn erbyn yr atebion.

Ar gyfer y prosiect hwn, rydym yn ceisio helpu i leihau allyriadau carbon yn y sector cyhoeddus yng Nghymru drwy dechnoleg ddigidol.

Fodd bynnag, gwelwn fod cyfle i ddylanwadu ar allyriadau yng Nghymru y tu hwnt i’r sector cyhoeddus drwy ddarparu canllawiau ac arwain drwy esiampl.

Allbynnau

Allbwn y darganfyddiad fydd penderfynu a ydym wedi dod o hyd i broblem sy'n werth ei datrys.

Roedd gennym allbynnau mewn golwg i ddechrau megis safonau, canllawiau a phecynnau cymorth newydd, a allai helpu gweithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru i wneud dewisiadau mwy cynaliadwy am dechnoleg ddigidol.

Fodd bynnag, fe wnaethom benderfynu y byddai'n gynamserol creu cynnyrch newydd fel rhan o'r cam darganfod. Yn lle hynny, byddwn yn tynnu sylw at y canllawiau a'r offer sy'n bodoli eisoes ac yn datgelu bylchau y gallai CDPS eu llenwi yng nghamau nesaf y prosiect.

Rydym angen pobl i gymryd rhan yn ein ymchwil! Cwblhewch ein harolwg (Arolwg yn Gymraeg / Arolwg yn Saesneg) os ydych yn gweithio yn y sectorau technoleg neu amgylcheddol yng Nghymru ac yn dymuno cymryd rhan neu e-bostiwch jess.neely@perago.wales