Mae'r asiantaeth ddigidol Perago a'r parc gwyddoniaeth M-SParc yn ymuno â'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol i ymchwilio i sut gall technoleg gefnogi nodau Cymru ar gyfer yr hinsawdd

29 Ebrill 2022

Bydd y CDPS yn defnyddio'r darganfyddiadau technoleg sero net i greu safonau sy'n lleihau effaith amgylcheddol gwasanaethau © Lisa Baker/Unsplash

Mae’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) yn falch o gyhoeddi ei bod wedi dyfarnu contract i’r asiantaeth ddigidol Perago a’r parc gwyddoniaeth M-SParc i weithio gyda ni ar gam darganfod ynglŷn â rôl technoleg wrth helpu Cymru i gyrraedd allyriadau carbon sero net.

Gyda CDPS, bydd Perago ac M-SParc yn ffurfio tîm amlddisgyblaethol ar gyfer y cam darganfod ‘technoleg sero net’. (Cam darganfod yw cam ymchwil cyntaf prosiect Ystwyth.) Mae nodau’r tîm ar gyfer y cam darganfod, a fydd yn para 12 wythnos, yn cynnwys deall:

  • sut gellir defnyddio technoleg i helpu darparu gwasanaethau cyhoeddus yn well, ar yr un pryd â chyrraedd nodau sero net a bodloni anghenion defnyddwyr  
  • yr ystyriaethau cynaliadwyedd sy’n ymwneud â dylunio a darparu gwasanaethau digidol 
  • yr hyn y mae gwledydd eraill yn ei wneud i gyflawni targedau sero net yn y maes digidol a thechnoleg ehangach 
  • pa ganllawiau sydd eisoes yn bodoli ynglŷn â rôl technoleg wrth gyrraedd sero net  

Dewisiadau cynaliadwyedd

Rydym eisoes yn gwybod am rai dewisiadau cynaliadwyedd y gall gwasanaethau unigol eu gwneud. Er enghraifft, gallai sefydliad asesu’r allyriadau carbon sy’n deillio o’i drefniadau lletya technoleg. Neu fe allai bwyso a mesur effaith amgylcheddol defnyddio sianeli penodol (er enghraifft, rhaglenni ar-lein neu ffôn) wrth ddarparu gwasanaeth.

Dwy enghraifft yn unig yw’r rhain – gobeithiwn y bydd y cam darganfod hwn yn amlygu llawer mwy, yn ogystal â pha ddewisiadau y gellir eu gwneud ar lefel sefydliadol. Gallai’r cam darganfod hefyd ddatgelu sefyllfaoedd lle nad yw technoleg yn ddatrysiad iawn i gyrraedd sero net.

Bydd y tîm yn gweithio mewn ffordd Ystwyth, ailadroddus, gan rannu ein gwaith yn gyhoeddus wrth i ni fynd a siarad â phobl o bob rhan o’r sector cyhoeddus yng Nghymru i gasglu gwybodaeth a dealltwriaeth.

Perago ac M-SParc

Mae gan Perago, sef asiantaeth ddigidol yng Nghymru, brofiad hir o helpu sefydliadau i greu gwasanaethau cyhoeddus gwell. M-SParc yw’r parc gwyddoniaeth cyntaf yng Nghymru, sy’n gweithredu o Brifysgol Bangor. Mae’n hyrwyddo gwyddoniaeth, gan ganolbwyntio ar ynni carbon isel a’r sector technoleg gwybodaeth a chyfathrebu. Mae M-SParc yn bwriadu bod y parc gwyddoniaeth cyntaf yng Nghymru i gyflawni allyriadau carbon sero net.

Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, rheolwr gyfarwyddwr M-SParc:

‘Rydym yn falch o ffurfio partneriaeth â Perago i gyflawni’r prosiect cyffrous hwn. Mae gennym ni yn M-SParc nod uchelgeisiol o fod y parc gwyddoniaeth sero net cyntaf yn y wlad, ac rydym eisoes yn archwilio sut gallwn arloesi … i … gyrraedd y targedau hynny.

‘Yr hyn sy’n gwneud y prosiect hwn gyda Perago yn arbennig o gyffrous yw’r disgwyliad o archwilio’r rolau a’r cyfleoedd yn y sector technoleg a’r sector digidol ehangach i sbarduno Cymru tuag at ein nodau sero net … ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’n partneriaid i gyflawni hyn yn ystod y 12 wythnos nesaf.’

Mae rhai atebion technolegol i newid hinsawdd yn hysbys iawn – mae’r bartneriaeth ddarganfod rhwng CDPS, Perago ac M-SParc yn addo datgelu llawer mwy © Caspar Rae/Unsplash

Sut 3 = 0

Mae gan Gymru gynllun 3 cham i gyrraedd statws sero net erbyn 2030. Mae’r rhan gyntaf o’r daith hon tuag at Gymru wyrddach a chryfach yn rhychwantu 2021 tan 2025. Bydd y cam darganfod technoleg sero net yn cefnogi’r cam hwn o’r cynllun (ac ymhellach) trwy ymchwilio i sut gall arloesedd a thechnoleg leihau allyriadau carbon yn y sector cyhoeddus. 

Canfu un astudiaeth, er enghraifft, y bydd ôl troed carbon canolfannau data’r byd yn fwy nag ôl troed carbon y diwydiant hedfanaeth cyfan yn fuan – un arwydd bod rhaid i ni fanteisio ar dechnoleg yn y ffordd iawn i leihau ei heffaith. 

Wrth hyrwyddo’r newid i ddigidol, mae gan y sector cyhoeddus yng Nghymru gyfrifoldeb i fynd i’r afael â goblygiadau amgylcheddol gweddnewidiad o’r fath yn uniongyrchol. Dyna’n union beth fydd y cam darganfod hwn yn ei wneud.

Safonau sero net

Bydd CDPS yn defnyddio canfyddiadau’r cam darganfod i greu safonau, polisïau a chanllawiau ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru ar ddefnyddio technoleg i leihau effaith amgylcheddol gwasanaethau.

Rydyn ni’n awyddus iawn i ddechrau arni a chroesawu Perago ac M-SParc i ymuno â ni ar y cam darganfod cyffrous a phwysig hwn.

Bydd y tîm darganfod yn blogio’n rheolaidd, felly cadwch lygad amdanynt!