Yn eu cofnod cyntaf ar y blog, mae prif swyddogion digidol Cymru a CDPS yn amlinellu eu blaenoriaethau ar gyfer Cymru dros y misoedd nesaf

28 Hydref 2022

Mae prif swyddogion digidol Cymru'n cynnwys pobl sy'n gweithio ar draws Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol ac iechyd

Mae ein prif swyddogion gweithredol (CEO) Myra Hunt a Harriet Green, yn aml yn cyfarfod â'r prif swyddogion digidol yng Nghymru, Sam Hall (prif swyddog digidol mewn llywodraeth leol) a Glyn Jones (prif swyddog digidol Llywodraeth Cymru).  

Mae Mike Emery newydd gael ei benodi'n brif swyddog digidol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, a bydd yn ymuno â'r grŵp yn y flwyddyn newydd.   

Mae'r grŵp yn trafod ac yn cytuno ar flaenoriaethau'r agenda digidol yng Nghymru, ac wedi ymrwymo i weithio yn yr agored.   

Dyma beth fuon nhw’n ei drafod yn eu cyfarfod diweddaraf: 


Harriet a Myra: 

Y mis hwn fe wnaeth Harriet a Myra drafod argyfwng costau byw, gwella gwefannau'r sector cyhoeddus a'r heriau o ddenu a chadw talent ddigidol yng Nghymru

Un o'r prif bethau ar ein hagenda oedd edrych ar gynnig gan CDPS i sefydlu 'labordai CDPS - dysgu trwy greu’. Gallwn wella ein gwefannau ar draws Cymru, trwy ganolbwyntio ar ein cynnwys a'n ffurflenni ar-lein. Bydd hyn yn gwneud hi’n llawer haws i bobl ddod o hyd i'r hyn maen nhw'n chwilio amdano, i gael mynediad i'r gwasanaethau y maent eu heisiau, ac i fewnbynnu gwybodaeth amdanynt eu hunain.   

Felly, yn ein labordai, byddwn yn gwahodd pobl o bob rhan o'r sector cyhoeddus i weithio gyda ni er mwyn gwella cynnwys eu gwefan, a gwella'r ffurflenni maen nhw'n eu defnyddio. Rydyn ni'n mynd i rannu'r dysgu a'r offer rydyn ni'n eu datblygu, yn ogystal â sicrhau eu bod ar gael i bobl eraill, er mwyn gwella'r profiad i bobl sy’n defnyddio gwefannau'r sector cyhoeddus.  


Sam: 

Photograph of Sam Hall of WLGA and Myra Hunt of CDPS. They are sat side-by-side, with Sam on the left. Myra smiles warmly while looking at Sam, who is speaking.

Un o'r pethau eraill rydyn ni'n gweithio arno yw sut i ddenu, recriwtio a chadw talent ddigidol a data. Dyma'r frwydr y mae llawer o bobl yn y sector cyhoeddus ar draws Cymru yn ei hwynebu.  

Rydym wedi sefydlu grŵp llywio er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn canolbwyntio ar y pethau cywir. Byddwn yn gwneud rhywfaint o waith i ddatblygu disgrifiadau swydd i chi eu defnyddio fel rhan o’ch proses recriwtio, ac rydym wedi dechrau sgwrsio ynglŷn â sut i gyflwyno'r swyddi hyn ar y lefel gywir er mwyn denu'r bobl gywir.  

Mae hynny'n golygu defnyddio'r iaith y bydd pobl yn ei hadnabod fel swydd y credant gallen nhw ei gwneud, neu eisiau ei gwneud. Mae'n ddarn o waith pwysig iawn gan fod y rhan fwyaf o bethau hoffwn eu gwneud, yn amhosib heb y bobl iawn. Rydyn ni’n gwbl ymwybodol bod yna bobl allan yna, ond dydyn ni ddim o reidrwydd yn eu denu i'r lle cywir, ar yr adeg gywir, er mwyn sicrhau'r effaith fwyaf. 


Glyn: 

Photograph of Glyn Jones of Welsh Government. Glyn is mid-speech, looking off to the left of the image.

Un o'r pethau pwysicaf sydd angen i ni wneud fel prif swyddogion digidol, yw sicrhau ein bod ni'n gweithio ar bethau sy'n bwysig i bobl Cymru, ac i'n gweinidogion.    

Heddiw, un o flaenoriaethau mwyaf ein gweinidogion a gweddill y sector gyhoeddus yw'r argyfwng costau byw. Rydym wedi bod yn siarad am sut y gallwn gydweithio fel arweinwyr digidol i gefnogi'r camau sydd eu hangen yn yr argyfwng hwnnw. Rydym wedi bod yn gwneud rhywfaint o ymchwil gyda defnyddwyr i ddeall beth mae cyrff cyhoeddus eraill yn ei wneud, a ble maen nhw'n credu y dylid gwella.    

Un maes rydyn ni'n canolbwyntio arno wrth symud ymlaen, yw gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill ar gynnwys ar gyfer eu gwefan. Byddwn yn sicrhau bod y cynnwys yma’n hygyrch, bod dinasyddion yn gallu deall pa gymorth sydd ar gael iddyn nhw, a sut y gallan nhw gael mynediad ato. Rydyn ni eisiau ei gwneud mor hawdd a hygyrch i bobl â phosib.   

Rydym hefyd am edrych ar rannu data. Clywsom gan awdurdodau lleol fod rhannu data yn rhwystr gwirioneddol o ran nodi pwy y mae angen iddyn nhw eu cefnogi. Hoffem siarad ag awdurdodau lleol am y rhwystrau hynny, er mwyn rhoi rhywfaint o gyngor ac arweiniad iddynt ynghylch sut y gellir goresgyn hyn, a rhoi cynlluniau gweithredu mewn lle i'w helpu. Mi fydd hyn yn sicrhau nad yw rhannu data yn rhwystr rhag rhoi gwasanaethau da i bobl.  

Yn y tymor hir, hoffwn edrych ar sut y gallwn ddysgu o'r argyfwng hwn, a datblygu ffyrdd newydd o weithio, a chreu gwasanaethau digidol newydd i'r dyfodol.  


Bydd y grŵp yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd, a byddant yn gweithio yn yr agored, er mwyn rhoi gwybod i bobl beth maen nhw'n gweithio arno, a beth yw'r blaenoriaethau.