30 Gorffennaf 2021

Cefndir

Ym mis Chwefror 2021, cysylltodd Chwaraeon Cymru â’r Ganolfan i weld sut gallem eu cynorthwyo i ddatblygu eu system grantiau cymunedol a hefyd eu helpu ar eu taith gweddnewid digidol. Os nad oeddech eisoes yn gwybod, Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Mae eu strategaeth yn canolbwyntio ar alluogi chwaraeon i ffynnu yng Nghymru. Mae’r sefydliad wedi cydnabod bod angen cynnwys pobl a deall yr hyn sy’n eu hysgogi wrth ddatblygu cyfleoedd i fod yn egnïol.

Pam?

Ar ôl rhai trafodaethau cychwynnol gwych rhyngom, fe benderfynon ni mai’r her a oedd yn werth ei harchwilio yn ystod cam darganfod oedd “sut gall Chwaraeon Cymru gynyddu cyrhaeddiad ac effaith eu (grantiau) buddsoddiadau cymunedol”, a byddai dull partneriaeth yn golygu y byddem yn cydweithio, gyda’r Ganolfan yn darparu sgwad i weithio ochr yn ochr â phobl o Chwaraeon Cymru.

Mae’r ffordd newydd hon o weithio ar gyfer Chwaraeon Cymru yn golygu nad ydym yn neidio i ddatrysiadau ar y dechrau, ond yn hytrach yn dechrau trwy ddarganfod a deall anghenion y defnyddwyr a’r sefydliad trwy ymchwil defnyddwyr. Dim ond pan fyddwn yn llwyr ddeall eu hanghenion y byddwn yn rhoi cynnig ar syniadau i gyflawni eu hanghenion trwy ddarpariaeth ailadroddus a graddol. Mae cynnwys defnyddwyr yn rhan gyson a hollbwysig o lwyddiant unrhyw ddatrysiad, p’un a oes elfen ddigidol ai peidio.

Erbyn diwedd y cam darganfod, ein nod yw cael dealltwriaeth glir o ba glybiau chwaraeon, sefydliadau neu grwpiau cymunedol a ddylai dderbyn grantiau cymunedol, eu hanghenion a sut gall Chwaraeon Cymru a’u grantiau wneud gwahaniaeth go iawn iddynt. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y bydd yr ymchwil defnyddwyr yn cynnwys cysylltu ag ymgeiswyr llwyddiannus, ymgeiswyr aflwyddiannus a’r rhai hynny nad ydynt erioed wedi ymgeisio o’r blaen (y rhai anoddaf i ddod o hyd iddynt).

Y tîm

Tîm amlddisgyblaethol yw sgwad, sy’n golygu bod amrywiaeth o arbenigeddau yn y tîm i ddeall y nodau a’r rhwystrau sefydliadol, yn ogystal â deall anghenion defnyddwyr.

Daeth aelodau’r tîm craidd, sy’n gyfrifol am gyflawni, o Chwaraeon Cymru a’r Ganolfan, sef:

  • Alys Cowdy (y Ganolfan) – Ymchwilydd Defnyddwyr
  • Maria Carmo (y Ganolfan) – Rheolwr Cyflawni / Hyfforddwr Ystwyth
  • Matt Leary (y Ganolfan) – Rheolwr Cynnyrch
  • Owen Burgess (Chwaraeon Cymru) – Arweinydd Dylunio Gwasanaeth (sy’n cynnal ymchwil defnyddwyr hefyd)
  • Rebecca Pudsey (Chwaraeon Cymru) – Uwch Arweinydd Tîm Buddsoddi (arbenigwr pwnc ar y system grantiau bresennol)
  • Steffan Berrow (Chwaraeon Cymru) – Swyddog Mewnwelediad a Pholisi (sy’n cynnal ymchwil defnyddwyr hefyd)

Er ein bod ni ar y camau cynnar, rydyn ni’n gweithio’n dda iawn gyda’n gilydd, gan ddysgu trwy wneud, cymryd cyfrifoldeb a chydweithio i gyrraedd cytundeb barn a chyflawni gwaith. Un o amcanion gweithio gyda’n gilydd mewn tîm clòs yw rhannu gwybodaeth a helpu’r tîm i uwchsgilio. Un o’r ffyrdd y gellir cyflawni hyn yw trwy baru, sy’n golygu bod dau unigolyn yn mynd trwy ddarn o waith, gan rannu gwybodaeth am sut i’w wneud a chaniatáu i’r unigolyn arall roi cynnig arno.

"Dyma fy mhrofiad cyntaf o weithio mewn sgwad ac roeddwn ychydig yn nerfus i ddechrau, gan nad oeddwn yn gwybod beth i’w ddisgwyl. Ond ers gweithio gyda’r tîm am y pythefnos diwethaf, rwy’n teimlo’n gyfforddus iawn yn cyfrannu fy meddyliau a’m safbwyntiau, ac rwy wir wedi gwerthfawrogi’r cyfle i ddysgu rhai sgiliau newydd a gweithio mewn ffordd gwbl wahanol. Byddaf yn ceisio gweithredu rhai o’r ffyrdd newydd hyn o weithio yn fy nhîm." Rebecca

‘’Bu’n fuddiol iawn ac yn agoriad llygad i siarad yn uniongyrchol â phobl sy’n defnyddio ac nad ydynt yn defnyddio grantiau Chwaraeon Cymru a chlywed eu straeon a’u profiadau fy hun. Bydd yr adborth hwn yn hollbwysig i’n helpu i ddeall anghenion defnyddwyr o ddifrif.’’ Owen

Beth fyddwn ni’n ei wneud nesaf?

Dechreuodd y cam darganfod ar 12 Gorffennaf a bydd yn para 8 wythnos. Rydyn ni eisoes yn ymgysylltu ac yn cynnal gwaith ymchwil gyda defnyddwyr presennol y grantiau cymunedol a phobl nad ydynt yn eu defnyddio trwy arolygon a chyfweliadau un i un.

Dyma’r postiad cyntaf mewn cyfres a byddwn yn parhau i flogio am yr hyn rydyn ni’n ei ddysgu drwy gydol y cam darganfod.

A allwch chi gymryd rhan?

Ydych chi’n grŵp cymunedol yng Nghymru sy’n hyrwyddo gweithgarwch corfforol a/neu chwaraeon?

Os felly, fe allech ein helpu, p’un a ydych wedi cael grantiau cymunedol gan Chwaraeon Cymru yn y gorffennol ai peidio. Cysylltwch â ni. info@digitalpublicservices.gov.wales

Postiad blog gan: Tîm Darganfod Chwaraeon Cymru