Cadwch bethau’n syml… Dylunio cynnwys
‘I wneud ein gwaith, mae’n rhaid i ni i gyd ddarllen toreth o bapurau. Mae bron pob un ohonynt yn llawer rhy hir. Mae hyn yn gwastraffu amser, tra bod yn rhaid gwario egni yn chwilio am y pwyntiau hanfodol’ – Winston Churchill
1 Mawrth 2022
Roedd ein gweminar rhannu gwybodaeth ym mis Chwefror, a oedd yn canolbwyntio ar thema dylunio cynnwys, wedi’i bwriadu ar gyfer gweithwyr cyfathrebu proffesiynol sy’n gweithio ym maes gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Dywedodd uwch ddylunydd cynnwys yn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS), Simon Busch, wrthym am yr egwyddorion ar gyfer ysgrifennu cynnwys effeithiol sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
Dylunio cynnwys yw un o’r rolau swydd sy’n tyfu gyflymaf yn y Deyrnas Unedig, yn ôl arolwg diweddar gan LinkedIn. Mae’r sgiliau’n cynnwys edrych ar anghenion defnyddwyr, ysgrifennu ar gyfer yr anghenion hynny a gwneud cynnwys yn hygyrch.
Mae’r themâu hyn hefyd yn rhan fawr o’r Safonau Gwasanaeth Digidol. Nod y safonau yw creu gwasanaethau gwell, ac mae dylunio cynnwys yn ganolog i’r nod hwnnw.
… a chadwch bethau’n fyr
Rhoddodd Simon enghreifftiau o bwysigrwydd iaith syml i ddylunio cynnwys ac esboniodd pam mae dylunwyr cynnwys yn osgoi jargon ac yn ysgrifennu mewn brawddegau byrion. Argymhellodd ap Hemingway fel ffordd o wella arddull ysgrifennu.
Mae canllaw arddull LLYW.CYMRU yn fan cychwyn da wrth ysgrifennu ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Soniodd Simon hefyd am ddatblygu straeon a theithiau defnyddwyr. Mae’r rhain yn ffyrdd i ddylunwyr cynnwys ganolbwyntio ar y wybodaeth y mae ei hangen ar ddefnyddiwr i gwblhau tasg. Rydym wedi blogio’n flaenorol am sut mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi defnyddio’r dull hwn i sicrhau bod ei gwasanaethau’n canolbwyntio mwy ar y defnyddiwr.

Peidiwch â dweud:
- grymuso (defnyddiwch ‘caniatáu’)
- cymell (defnyddiwch ‘annog’)
- hwyluso (defnyddiwch ‘cynnal’)
- wrth symud ymlaen (defnyddiwch ‘o hyn ymlaen’)
- teneuo (defnyddiwch ‘gwneud yn llai’)
Dylunio cynnwys yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ar ôl Simon, fe glywson ni gan y tîm dylunio cynnwys yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Dywedodd y tîm wrthym am y rhwystrau rhag dylunio cynnwys yr oedden nhw wedi’u goresgyn, gan gynnwys gorfod eu sefydlu eu hunain fel arbenigwyr yn y sefydliad. Roedd angen iddyn nhw annog staff i ystyried anghenion defnyddwyr wrth ysgrifennu cynnwys a dilyn canllawiau arddull cyson. Roedd hygyrchedd yn faes arall pwysig yr oedden nhw angen cymorth staff gydag ef.
Fe wnaeth cyflwyniad yr ONS ganolbwyntio ar sut roedd y tîm wedi cymhwyso egwyddorion dylunio cynnwys i ddwy agwedd ar eu gwaith: bwletinau ystadegol a data cyfrifiad. Mae adnabod pwy yw eu cynulleidfa, ac yna gwneud rhagor o waith ymchwil gyda’r defnyddwyr hyn, wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’r ffordd y mae pobl yn ymgysylltu â chynnwys yr ONS.

Ymchwil defnyddwyr feintiol
Fe greon ni ddangosfyrddau sy’n cyflwyno dadansoddeg, data chwilio, oedran darllen a dyfnder mewn un man.
Rydym wedi rhoi stamp amser ar y recordiad fel y gallwch neidio i’r rhannau y mae gennych ddiddordeb ynddynt.
Bydd ein gweminar rhannu gwybodaeth nesaf yn cael ei chynnal ar 16 Mawrth, 11.30am – 12.30pm.
Trafodaeth banel fydd hon, yn cynnwys y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, ar y strategaeth ddigidol i Gymru – flwyddyn yn ddiweddarach.