27 Ionawr 2022

Cwestiwn: Beth sydd gan yr Avengers a winwnsyn yn gyffredin? Na, nid crïo (er bod diwedd Avengers: Endgame yn eithaf emosiynol). Yr ateb, fel mae’n digwydd, yw bod y ddau’n gallu dangos i ni pam y gall timau amlddisgyblaethol fod yn allweddol i lwyddiant prosiect.   

Beth yw tîm amlddisgyblaethol? Yn gryno, dylai tîm amlddisgyblaethol:  

  • gael ei drefnu o amgylch un genhadaeth/nod – canlyniad a ddymunir y mae pawb yn gweithio tuag ato (yn hytrach na swyddogaethau busnes penodol, fel marchnata neu werthiannau)
  • bod yn fach, rhwng 5 a 10 o bobl, dyweder (gall hyn gynyddu’n raddol wrth i’r prosiect ddatblygu trwy ei gylch oes)  
  • cynnwys pobl o ddisgyblaethau gwahanol, gyda phob un yn cyfrannu rhywbeth penodol at y prosiect sydd dan sylw

Fe allech ddadlau nad yw hyn yn swnio’n wahanol i strwythur tîm arferol, ond mae cenadaethau/nodau mewn lleoliad ystwyth yn ehangach ac yn fwy targedig na’r nodau busnes y gallai rhai sefydliadau fod yn gyfarwydd â gweithio tuag atynt.  

Rydw i’n rhan o dîm amlddisgyblaethol nawr fel rheolwr cyflenwi ar gyfer Cam Darganfod Gwastraff Peryglus Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). 

Mae ein tîm craidd bach, ond wedi’i ffurfio’n dda, yn cynnwys cymysgedd perffaith o arbenigwyr pwnc CNC ac arbenigwyr digidol (dylunio ac ymchwil defnyddwyr) o’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) sy’n arbenigo mewn clywed llais y bobl sy’n defnyddio polisïau a gwasanaethau.   

Ein cenhadaeth yw deall y daith o’r dechrau i’r diwedd ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth gwastraff peryglus CNC ac amlygu’r meysydd lle gallwn ei wneud yn symlach ac yn haws o lawer.  

Gallwch weld y tîm ar waith yma: 

Ond mae’r ffordd hon o weithio’n newydd i CNC, a’n prosiect yw’r cam cyntaf tuag at ymsefydlu’r arfer hwn ymhellach yn y sefydliad, gobeithio. Dyma beth ddywedodd arweinydd cynnyrch ein tîm, Alex Harris (aelod amser llawn o staff CNC), am y profiad hyd yma:  

“Dyma’r tro cyntaf i CNC sefydlu tîm amlddisgyblaethol yn benodol i gael gwybod beth mae ein defnyddwyr ei eisiau gennym. Rhoddwyd amser i’r tîm craidd ymgysylltu’n llawn â’r broses, sydd wedi bod yn fuddiol iawn yn y gweithdai. Hyd yma, rydyn ni wedi cael ymgysylltiad cadarnhaol iawn gan ein cydweithredwyr allweddol ac arbenigwyr pwnc eraill ar draws y busnes.”  

Yn ogystal â’r tîm amlddisgyblaethol, mae gennym ni hefyd dîm winwnsyn o gydweithredwyr a chefnogwyr o’n hamgylch hefyd.  

Beth yw ystyr hyn a pham mae’n bwysig? Cewch wybod yn ein postiad blog nesaf a fydd yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yr wythnos hon.  

Os hoffech wybod mwy am y pwnc hwn, neu ein prosiect hyd yma, rhowch sylw isod neu cysylltwch ag alex.harris01@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  

Postiad blog gan Pete Stanton, Rheolwr Cyflawni, Cam Darganfod Gwastraff Peryglus CNC.