Beth sydd mewn cyfieithiad?
by Angharad Prys, Communications Officer
15 Chwefror 2021
Yn ystod ein cyfarfod cyntaf o’r Gymuned Arfer Adeiladu Gwasanaethau Dwyieithog, mi drafodwyd llawer am yr angen i beidio cyfieithu wrth ddylunio gwasanaethau digidol dwyieithog, ond yn hytrach ddrafftio yn ddwyieithog. Ein nod yw gwneud gwasanaethau cyhoeddus yn hawdd i’w defnyddio, yn y Gymraeg neu’r Saesneg.
Mae hyn yn dipyn o sialens, a pe byddai gennym ein miliwn o siaradwyr Cymraeg, fe fyddai’n haws. Ond dydyn ni ddim yna eto, ac felly rhaid meddwl am ateb arall, gan gofio fod canran uchel o’r sector gyhoeddus yn dibynnu ar gyfieithwyr i ddarparu cynnwys Cymraeg.
Rhoi ein hunain yn esgidiau’r cyfieithydd
Beth am gychwyn trwy roi ein hunain yn esgidiau’r cyfieithwyr. Bydd y mwyafrif yn cyfieithu 3,000 – 5,000 gair y diwrnod. Rhai yn gweithio i’r sefydliad ond eraill yn gweithio i nifer o gleientiaid gwahanol bob dydd. Os ydyn nhw yn cael darn o waith sy’n frith o jargon, efallai mai cyfieithiad llythrennol yw’r unig opsiwn ymarferol.
Cymrwch enw’r gymuned hon fel enghraifft – ‘Community of Practice’. Roedd yn derm newydd i mi, ac ar ôl pendroni, dyma setlo i’w gyfieithu fel ‘Cymuned o Ymarferwyr’. Yna, mi welais y term yn cael ei ddefnyddio rhywle arall a sylweddoli mai beth ddylwn i fod wedi ei ddefnyddio oedd ‘Cymuned Arfer’.
Ond beth am ei gyfieithu yn ôl i’r Saesneg – ‘Community of Habit’? Os ydych chi’n ystyried beth mae’r gymuned yn ceisio ei gyflawni, oni fyddai rhywbeth fel ‘Cymuned Drafod’ yn fwy addas, neu hyd yn oed, ‘Melin Drafod’?
Amser i feddwl?
Rŵan, mae gen i’r amser i feddwl, ystyried ac ail-feddwl wrth ysgrifennu y darn yma. Ac mi welwch o’r enghraifft uchod pam ei bod yn haws setlo am gyfieithiad uniongyrchol. Os ydy’r cyfieithydd yn gorfod cysylltu gyda’r cleient dro ar ôl tro i ddeall ystyr, bydd creu cyfieithiad clir yn troi yn broses cymhleth a drud.
Tra’n ystyried hyn, cefais olwg ar ein gwefan ni a dod ar draws y linell yma:
“….This means following an iterative or incremental approach, adjusting as we go along always focusing on delivering solutions that meet the needs of the users of the service…”
Wedi ei gyfieithu i:
“Mae hyn yn golygu dilyn ymagwedd ailadroddol neu fesul cam, gan addasu wrth i ni fynd a chanolbwyntio bob amser ar gyflawni datrysiadau sy’n bodloni anghenion defnyddwyr y gwasanaeth.”
Y prawf teulu a ffrindiau
Does dim o’i le ar y cyfieithiad – mae’n gywir, ac os ydych chi yn gweithio yn y sector gyhoeddus, mae’n debygol eich bod wedi gallu ei ddarllen heb fawr o drafferth. Ond beth os gwnewch chi ei roi o flaen trwyn eich teulu neu ffrindiau? Ydy hwn yn enghraifft ble bydden nhw yn chwilio am y botwm bach na ym mrig dde y dudalen i droi i’r Saesneg?
Tybed a ddylem ni hefyd fod yn edrych ar y Saesneg gwreiddiol i weld os gallwn ni wneud gwaith y cyfieithwyr ychydig yn haws? Beth mae ‘iterative and incremental approach’ yn ei olygu go iawn? Ai:
“This means testing and re-testing as we go along, making changes and always finding the answers that makes the journey easier for the user.”
“Mae hyn yn golygu profi ac ail-brofi wrth ddatblygu, gan wneud newidiadau a dod o hyd i atebion sy’n ei gwneud hi’n haws i ddefnyddio’r gwasanaeth.”
Pawb a’i farn
Pan mae’n dod i ddefnyddio iaith glir, mae amrywiaeth barn a theimladau cryf. Byddai amryw yn dadlau nad yw’r ail fersiwn yn cynnwys yr iaith gorfforaethol / swyddogol sydd ei hangen i adlewyrchu statws a’i bod yn or-syml.
Mi fyddwn i yn dadlau mai prif bwrpas iaith ydy gwneud yn siŵr fod pobl yn gyfforddus yn ei defnyddio – ac os ydy’r Gymraeg (neu’r Saesneg) yn defnyddio iaith ddieithr, rydych wedi colli’r darllenwr cyn dechrau.
Bydd rhain yn sialensau y bydd y gymuned yn edrych arnynt. Mae’n hanfodol ein bod yn cymryd hoe ac yn ystyried sut allwn ni ei gwneud hi’n haws defnyddio gwasanaethau cyhoeddus, trwy’r Gymraeg neu Saesneg. Ein her ni wedyn ydy gwneud y newidiadau a sicrhau fod adeiladu gwasanaethau dwyieithog, sy’n gweithio yn y ddwy iaith, yn rhan annatod o’n gwaith.
Os hoffech ymuno yn y sgwrs yn trafod adeiladu gwasanaethau cyhoeddus dwyieithog, mae croeso i chi gysylltu gyda ni. Gallwch gysylltu trwy: info@digitalpublicservices.gov.wales