Cadeirydd ac aelodau bwrdd

Sharon Gilburd
Cadeirydd

Mae Sharon Gilburd yn strategydd digidol sydd wedi gweithio gyda busnesau sefydledig a busnesau newydd i drawsnewid eu ffyrdd o weithio, drwy ddefnyddio dylunio a thechnoleg ddigidol.

Ar ôl treulio bron i ddau ddegawd yn gweithio ym maes marchnata, newid ac arloesi ar gyfer brandiau a busnesau newydd gwerth miliynau o bunnoedd, mae Sharon yn gwybod pa mor bwysig yw gwneud y dewisiadau technoleg cywir i redeg gwasanaethau hanfodol. Gan weithio gyda chwmnïau fel Visa, Orange a Barclaycard, mae Sharon bob amser yn ymwybodol mai’r defnyddiwr sydd angen bod yn seren y sioe bob amser, gyda thechnoleg yn y rôl gefnogol.

Ar ôl astudio ar gyfer BA mewn masnach ym Mhrifysgol Napier yng Nghaeredin, recriwtiwyd Sharon i weithio i Sefydliad Masnach y Byd yng Ngenefa, lle datblygodd gariad at ystadegau ac ieithoedd. O’r pwynt hwn yn ei gyrfa, mae Sharon wedi chwilio am gyfleoedd i weithio mewn gweithleoedd amlddiwylliannol ac amlieithog. Ar ôl tyfu i fyny yn Shetland, mae Sharon bellach wedi ymgartrefu yn Llandwrog yng Ngwynedd, a’r Gymraeg yw ei phrosiect iaith diweddaraf.

Mae Sharon yn edrych ymlaen yn fawr at ymgymryd â rôl Cadeirydd Bwrdd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol a chwarae rhan allweddol yn nyfodol digidol Cymru.


Sam Ali
Aelod o’r Bwrdd

Mae Sam yn arbenigwr ar atebion digidol, gyda dros 15 mlynedd o brofiad. Mae ei chefndir wedi bod mewn meddalwedd yn bennaf fel gwasanaeth, gan weithio gyda chynhyrchion sy’n cwmpasu cylch oes y cyflogai cyfan. Ar hyn o bryd mae hi’n gyfrifol am y strategaeth ddigidol ar gyfer Cyngor Dinas Casnewydd ac mae’n eiriolwr dros gynhwysiant digidol, sgiliau a hygyrchedd ledled y ddinas. Mae Sam wedi adnewyddu achrediad Cyngor Dinas Casnewydd ar gyfer Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru.

Mae Sam newydd orffen ei thymor fel aelod o’r bwrdd yn Nhŷ Tredegar – yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a’i rôl ar y bwrdd prosiect oedd gwneud yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn fwy cynhwysol. Y tu allan i’r gwaith, mae Sam yn Llysgennad Cymorth i Ferched ac mae’n aelod o grŵp ymgynghori Ymgysylltu â Goroeswyr Llywodraeth Cymru. Yn ei hamser hamdden, mae hi’n gwirfoddoli i’r elusennau FareShare Cymru ac Eden Gate.


Dr John-Mark Frost
Aelod o’r Bwrdd

John-Mark (a elwir yn JM) yw Cyfarwyddwr Cyflawni Trawsnewid yn Nhŷ’r Cwmnïau, un o asiantaethau gweithredol yr Adran Busnes, Menter a Strategaeth Ddiwydiannol. Ymgymerodd â’r rôl hon ym mis Chwefror 2021, ar ôl bod yn gyfarwyddwr gweithrediadau ers sawl blwyddyn. Mae ei gefndir yn cynnwys rolau cyflawni gweithredol ar raddfa fawr yn Nhŷ’r Cwmnïau a’r Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae gan JM brofiad o weithio gyda thimau arweiniol o fewn cyflawni gweithredol, ymchwil gymdeithasol a phroffesiynau data. Mae wedi gweithio ar brosiectau a rhaglenni yn y DU ac yn rhyngwladol ar gyfer y Swyddfa Ystadegau Gwladol, y Comisiwn Ewropeaidd, y Swyddfa Dramor a Chymanwlad a Swyddfa’r Cabinet.

Ar hyn o bryd mae’n gyfrifol am wasanaethau i filiynau o ddefnyddwyr, gyda biliynau o chwiliadau data bob blwyddyn. Mae’n atebol am y timau Portffolio, Rhaglenni a Phrosiectau yn Nhŷ’r Cwmnïau ac mae’n uwch berchennog cyfrifol ar gyfer y rhaglen drawsnewid. Ymunodd â’r Gwasanaeth Sifil yn 2008, ar ôl amser yn y byd academaidd a’r sector preifat.

Mae JM yn siarad Cymraeg (er ei fod ychydig yn rhydlyd) ac yn byw yng Nghaerdydd gyda’i wraig, eu dwy ferch a’u dau gi.


Andrea Gale
Aelod o’r Bwrdd

Andrea yw Pennaeth Gwella Busnes a Llywodraethu Cymdeithas Tai Linc-Cymru. Mae ei phrofiad yn cynnwys darparu ystod eang o raglenni a newid yn y sector tai. Mae wedi gweithio ym maes tai cymdeithasol ers dros 28 mlynedd, mewn meysydd fel cynllunio strategol, datblygu busnes a dylunio gwasanaethau. Mae Andrea yn eiriolwr dros wasanaethau digidol i gefnogi cyfle cyfartal yng Nghymru a llwyddiant economaidd y genedl.


Neil Prior
Aelod o’r Bwrdd

Wedi’i ethol yn gynghorydd sir annibynnol yn 2017, mae Neil yn Aelod Cabinet dros Wella Corfforaethol a Chymunedau yng Nghyngor Sir Penfro. Gan helpu i arwain rhaglen wella’r cyngor, mae wedi sicrhau buddsoddiad sylweddol mewn arloesi ym maes technoleg. Mae hefyd wedi bod yn arwain ar ‘Raglen Weinyddu’ gyntaf erioed y cyngor, gan nodi’r dyheadau gwleidyddol ar gyfer cabinet clymblaid.

Yng ngyrfa broffesiynol Neil, mae wedi gweithio i sefydliadau technoleg o’r radd flaenaf, yn ogystal ag ymgynghori o fewn y sector cyhoeddus, cyn symud adref i Sir Benfro.

Mae Neil yn aelod ac yn ddirprwy gadeirydd Bwrdd Gwella ac Arloesi’r Gymdeithas Llywodraeth Leol, yn gyfarwyddwr anweithredol gyda’r sefydliad tai dielw Pobl Group, yn gadeirydd ei gyngor cymuned lleol ac yn llywodraethwr ysgol. Mae’n falch o fod yn was cyhoeddus.


Ben Summers
Aelod o’r Bwrdd

Mae Ben yn beiriannydd meddalwedd ac yn entrepreneur. Mae’n gyd-sylfaenydd Haplo, llwyfan ar gyfer darparu gwasanaethau digidol yn gyflym, ac arweiniodd dîm technoleg a’i defnyddiodd i drawsnewid y gwaith o weinyddu ymchwil mewn prifysgolion ledled y byd. Ei ddiddordebau proffesiynol yw trawsnewid digidol, diogelwch gwybodaeth ac amrywiaeth a chynhwysiant yn y diwydiant technoleg.