Rheolwr Cyflawni
Cyflog: £43,000 – £47,000 (yn dibynnu ar brofiad)
Lleoliad: Cymru. Byddwch yn gweithio o bell ond disgwylir i chi fynychu rhai cyfarfodydd wyneb yn wyneb.
Cyfnod: Rôl barhaol yw hon am weddill tymor y Senedd (tan fis Mai 2026) gyda’r opsiwn o’i hymestyn yn y dyfodol.
Mae’r rôl yma hefyd ar gael fel secondiad i weithwyr sector cyhoeddus Cymru. Dilynwch bolisi eich sefydliad ynglŷn â hysbysu a chael caniatâd gan reolwyr llinell.
Mae’r gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg, neu barodrwydd i ddysgu Cymraeg, yn ddymunol. Byddwn yn barnu ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu Saesneg yn gyfartal.
Amdano’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol
Mae’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) yn helpu i ddylunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell ar gyfer Cymru.
Rydym yn un o gyrff hyd braich Llywodraeth Cymru a sefydlwyd er mwyn helpu cyflawni’r Strategaeth Ddigidol i Gymru.
Rydym yn canolbwyntio ar:
- greu safonau digidol a rennir (gan gynnwys ar gyfer gwasanaethau a thechnoleg), ffurfio cymunedau proffesiynol a rhannu gwybodaeth
- datblygu sgiliau a gallu, a llif o dalent ddigidol
- creu ‘sgwadiau digidol’: timau amlddisgyblaethol sy’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau i ddylunio a darparu gwasanaethau gwell o amgylch anghenion y bobl sy’n eu defnyddio
Rydym yn dîm amrywiol o arbenigwyr digidol sy’n cynnwys staff parhaol, penodiadau cyfnod penodol, secondiadau o’r sector cyhoeddus yng Nghymru a chyflenwyr.
Y rôl
Mae rheolwyr cyflenwi CDPS yn gweithio wrth galon timau i gynnig cyfeiriad, a sicrhau bod ganddynt yr amgylchedd cywir i gyflenwi eu cynnyrch a’u gwasanaethau mewn ffordd ailadroddol.
Byddwch yn atebol dros gwblhau tasgau, ysgogi a chefnogi timau, a chael gwared ar atalyddion.
Bydd gennych ddealltwriaeth ddofn o arferion Ystwyth a Darbodus, ac yn defnyddio’ch barn eich hun i benderfynu ar offer a thechnegau priodol.
Byddwch yn fedrus wrth ddarparu prosiectau digidol cymhleth, gan chwalu rhwystrau i’n timau ac ein cynllunio – y ddau ar lefel uwch, yn ogystal â bod yn fanwl pan fo angen.
Byddwch yn greiddiol i’r penderfyniadau y mae’r tîm yn eu gwneud, ac yn creu amgylchedd lle maen nhw’n gyffrous am eu gwaith.
Byddwch yn rhan o gymuned ehangach rheolwyr cynnyrch a chyflenwi CDPS sy’n darparu hyfforddiant sgiliau a gallu, dosbarthiadau meistr a digwyddiadau cymunedol.
Cynnydd hyd yma
Mae CDPS wedi ymrwymo i weithio yn yr agored. Rydym yn blogio ac yn trydar yn rheolaidd, a byddem yn eich annog i edrych ar y gwaith rydyn ni’n ei wneud gyda phartneriaid.
Dyma rai enghreifftiau rydyn ni’n arbennig o falch ohonyn nhw:
- prawf o Gysyniad Data Tir ac Eiddo awdurdod cyllid Cymru
- gwaith Chwaraeon Cymru i gynyddu cyrhaeddiad eu cronfeydd buddsoddi yn y gymuned
- ein cyfnod darganfod ‘Technoleg Sero Net’
- deall heriau mynediad i feddygfeydd yng Nghymru
- ein hymchwil i ddeall y tirlun technoleg gyffredin yng Nghymru
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Fel rheolwr cyflawni byddwch yn:
- darparu prosiectau a chynhyrchion gan ddefnyddio methodoleg rheoli prosiect Ystwyth priodol, wrth ddysgu ac itereiddio’n aml
- gweithio gyda’r rheolwr cynnyrch i ddiffinio’r map ffordd ar gyfer unrhyw gynnyrch penodol, a chyfieithu hyn i straeon defnyddwyr
- arwain y broses gydweithredol, gynllunio deinamig – blaenoriaethu’r gwaith sydd angen ei wneud yn erbyn capasiti a gallu’r tîm
- rheoli tîm amlddisgyblaethol mewn dull matrics
- sicrhau bod yr holl gynhyrchion yn cael eu hadeiladu i lefel briodol sydd o ansawdd ar gyfer y platfform (alffa / beta / byw)
- mynd ati i gymryd rhan yn y gymuned gyflenwi a chynnyrch, rhannu ac ail-gymhwyso sgiliau a gwybodaeth, a chymhwyso arfer gorau
- rheoli’r rheolwr cyflawni cyswllt, gan eu cefnogi i ddysgu a thyfu i rolau rheolwr cyflawni
Pwy ydych chi
Mae ein gweithwyr proffesiynol cyflenwi yn gweithio ar ystod amrywiol o brosiectau, cynhyrchion a gwasanaethau o fewn CDPS, ynghyd â’n partneriaid ar draws y sector cyhoeddus. Rydym yn chwilio am bobl sydd â sgiliau rhyngbersonol cryf, sy’n mwynhau gweithio mewn amgylchedd Ystwyth â phroffil uchel.
Rydym yn chwilio am bobl sy’n angerddol dros weithio Ystwyth, sy’n gwybod sut i helpu timau i lwyddo, a gofalu am wella bywydau dinasyddion yng Nghymru. Hoffwn fod ein gweithwyr yn ystyried bod y ffordd rydych chi’n gweithio, yr un mor bwysig â’r hyn rydych chi’n ei gyflawni.
Mae gennym ddiddordeb mewn pobl sydd â phrofiad profedig yn:
- darparu cynhyrchion a gwasanaethau digidol
- cymryd arweiniad dros hyrwyddo dull sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, i gyflawni cynhyrchion a gwasanaethau
- defnyddio ystod o ddulliau rheoli prosiect Ystwyth
- defnyddio offer a thechnegau i nodi a thrwsio materion mewn dynameg tîm, dewis y dulliau cywir o gefnogi datblygiad timau cyfunol
- timau amlddisgyblaethol sy’n rheoli matrics
- meithrin diwylliannau cynhwysol a chyflwyno sgiliau a dulliau newydd i sefydliadau
- hyfforddi, mentora a darparu hyfforddiant mewn amrywiaeth o ffurfiau
Rydyn ni eisiau clywed gan bobl sy’n cael eu cyffroi gan Strategaeth Ddigidol Cymru, sydd wrth wraidd gwella bywydau pobl Cymru.
Darllenwch ymlaen
Mae ymchwil yn dangos, tra bo dynion yn gwneud cais am swyddi y maen nhw’n bodloni 60% o’r meini prawf ar eu cyfer, bod menywod a phobl eraill ar yr ymylon yn tueddu i ymgeisio dim ond pan fyddant yn ticio pob blwch. Felly, os ydych chi’n credu eich bod yn addas i’r rôl, ond nid ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt ar y swydd ddisgrifiad, daliwch ati i gysylltu â ni. Byddem yn falch iawn o gael sgwrs i weld a fyddech yn gweddu i’r rôl.
Rydym yn frwd ynglŷn â chreu gweithlu amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau sydd wedi’u tangynrychioli. Rydym yn croesawu cyfle cyfartal ni waeth am anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, rhywedd a chyflwyniad rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant a chrefydd.
Buddion
- Cyfraniad uwch at ein pensiwn gweithle – 7% o gyfraniad gan y cyflogwr
- Gwyliau hael: 28 niwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau cyhoeddus
- Wythnos 37.5 awr ar gyfer holl aelodau amser llawn y tîm
- Polisi gweithio hyblyg
- Buddion hyblyg: prynu a gwerthu gwyliau blynyddol, yswiriant deintyddol, aelodaeth campfa gostyngol ac OpenLearn (dysgu am ddim gan y Brifysgol Agored)
- Diogelwch incwm grŵp – incwm os nad yw gweithiwr yn gallu gweithio oherwydd salwch neu anaf hirdymor
- Diogelwch salwch critigol grŵp – heddwch meddwl ariannol i’n gweithwyr trwy dalu cyfandaliad di-dreth o £100k pan gânt ddiagnosis o salwch critigol diffiniedig
- Yswiriant bywyd grŵp – bydd y budd-dal hwn yn talu swm lwmp (4 gwaith y cyflog) i’ch teulu, neu’r perthynas agosaf pe baech yn huno tra’n cael eich cyflogi gyda ni
- Rhaglen Cymorth i Weithwyr (ymgynghoriad meddyg teulu 24/7)
Sut i ymgeisio
Cyflwynwch eich CV a llythyr eglurhaol i gefnogi’ch cais.
Ni ddylai’r llythyr eglurhaol fod yn hwy na dwy ochr o A4. Bydd angen i’ch llythyr:
- esbonio pam mae gennych ddiddordeb yn y swydd
- rhoi tystiolaeth i ddangos pam rydych yn addas, yn seiliedig ar yr adran ‘Pwy ydych chi’ uchod
- dweud wrthym ble y gwelsoch y swydd yn cael ei hysbysebu
Anfonwch eich cais trwy neges e-bost at gyrfaoedd@gwasanaethaucyhoeddusdigidol.llyw.cymru.