Adolygiad blwyddyn CDPS 2021-22: pensaernïaeth technoleg

Cynnwys

5.7 Gweithgaredd: Datblygu pensaernïaeth technoleg fodern

Fe wnaethom ddweud y byddem yn cymryd camau i ddatblygu a chael cydsyniad ar gyfer dull modern o ymdrin â phensaernïaeth technoleg

Mae pensaernïaeth technoleg yn golygu’r galluoedd meddalwedd a chaledwedd sy’n sail i wasanaethau digidol. Heb bensaernïaeth technoleg fodern, dim ond mewn ffordd gyfyngedig iawn y gall sector cyhoeddus Cymru gynllunio gwasanaethau digidol sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr – os o gwbl.

Mae CDPS wedi defnyddio’r Adolygiad o’r Dirwedd Ddigidol i adnabod y seilwaith TG presennol sy’n cael ei ddefnyddio ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Dyma’r cam cyntaf tuag at flaenoriaethu systemau etifeddol ar gyfer newid. Rydym yn cyflogi Pennaeth Technoleg yn 2022-23 i fwrw ymlaen â’r gwaith hwn.

5.8 Gweithgaredd: Mapio cynhwysiant digidol

Fe wnaethom ddweud y byddem yn casglu mewnwelediad i weithgareddau cynhwysiant digidol ledled Cymru a gwneud argymhellion yn seiliedig ar ganfyddiadau

ydd trawsnewid digidol yng Nghymru yn methu i’r graddau ei fod yn gadael rhai pobl ar ôl. Mae prosiect mapio cynhwysiant digidol CDPS, a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cymru, yn sylwi ar edefyn penodol o’r Adolygiad o’r Dirwedd Ddigidol – pa mor hygyrch yw gwasanaethau cyhoeddus digidol i holl drigolion Cymru.

Nod y prosiect hwn yw cynhyrchu cyfeiriadur o weithgarwch cynhwysiant digidol ledled Cymru. Bydd y cyfeiriadur yn rhoi cyfle i ni weld gweithgareddau cynhwysiant tebyg a gweld a ellid eu cydgysylltu. Ynghyd â CDPS, prif randdeiliaid y prosiect yw Dyfodol Llewyrchus Llywodraeth Cymru a Bwrdd y Rhaglen Cynhwysiant Digidol.

5.8.1 Cynhwysiant digidol: golwg fanwl

Mapiodd CDPS weithgareddau cynhwysiant digidol yng Nghymru ar draws pob maes o gwmpas y prosiect:

Siaradodd y tîm cynhwysiant digidol â 18 o sefydliadau am sut yr oeddent yn gwella cynhwysiant digidol yng Nghymru. O’r ymchwil hon ac ymchwil bellach, crëwyd un cyfeirlyfr yn ymdrin â gweithgareddau cynhwysiant digidol yng Nghymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Bydd y cyfeiriadur yn caniatáu i bobl ddod o hyd i weithgareddau cynhwysiant yn eu hardal a gweld beth mae rhannau eraill o’r wlad yn ei wneud.

Darllen mwy

Pontio’r rhaniad digidol yng Nghymru

5.9 Gweithgaredd: Cefnogi BBaChau yng Nghymru

Fe wnaethom ddweud y byddem yn cymryd camau i gefnogi busnesau bach a chanolig yng Nghymru i ddatblygu gwasanaethau cyhoeddus digidol i’r safon uchaf

Cymru lewyrchus

Gan weithio yn yr un ysbryd cydweithredol ag y mae’n ei wneud gyda sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, mae CDPS wedi ffurfio partneriaeth â mentrau bach a chanolig yng Nghymru yn 2021-22 i ddatblygu gwell gwasanaethau cyhoeddus digidol.

Rydym wedi:

Nesaf: Y ffordd ymlaen i CDPS