Adolygiad blwyddyn CDPS 2021-22: hamcanion
4. Ein hamcanion cyflawni
Mae pedwar amcan CDPS yn ehangu ar ein cenhadaeth o helpu i drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru mewn ffordd ddigidol sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Mae’r adran hon o’r adolygiad o’r flwyddyn yn ailddatgan ein hamcanion ac yn eu mapio i’n gweithgareddau yn 2021-22. Mae’r adran nesaf yn disgrifio’r gweithgareddau hynny’n fanwl.
4.1 Amcan: Helpu pobl yng Nghymru i ddefnyddio gwasanaethau digidol modern
Helpu i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn gallu defnyddio gwasanaethau cyhoeddus digidol modern, syml, diogel ac effeithlon sy’n defnyddio data’n briodol ac yn foesegol
Helpodd CDPS i ddod â manteision gwasanaethau digidol modern, wedi’u cynllunio o amgylch anghenion pobl sydd wedi’u hymchwilio a’u profi, i Gymru yn 2021-22, drwy:
- ddefnyddio timau amlddisgyblaethol o arbenigwyr digidol i ddatblygu gwasanaethau mewn partneriaeth â sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus
- datblygu a hyrwyddo Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru ac adnoddau digidol eraill
Drwy ei bartneriaethau a’i waith safonau digidol, mae CDPS wedi dod i gael ei weld fel cynghorydd dibynadwy wrth drawsnewid gwasanaethau digidol sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
4.2 Amcan: Paratoi arweinwyr ar gyfer trawsnewid digidol
Ysbrydoli ac uwchsgilio arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru ym maes trawsnewid digidol
Dim ond os yw arweinwyr y sector cyhoeddus, yn gyntaf, wedi’u hargyhoeddi o fanteision trawsnewid y gall gwasanaethau cyhoeddus Cymru gael eu trawsnewid yn ddigidol. Yna, rhaid iddynt wybod sut i gyflawni trawsnewidiad o’r fath ar raddfa ac annog y newidiadau diwylliannol i’w gefnogi.
Y nodau hynny yw rhai o’r canlyniadau y mae CDPS yn eu bwriadu ar gyfer y cyrsiau digidol poblogaidd i arweinwyr a staff yr ydym wedi’u cyflwyno yn 2021-22 ac ar gyfer ein gweminarau a’n cymunedau ymarfer.
Mae arweinwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru wedi ymgysylltu’n gryf â’n cyrsiau lefel uwch a chyda’n ffyrdd eraill o ddysgu. Maent wedi datgelu drwy’r cyfryngau cymdeithasol ac adborth arall eu bod wedi cael eu hysbrydoli i roi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio ac annog y newid hwnnw ymhlith cydweithwyr.
4.3 Amcan: Ysgogi’r economi ddigidol
Cyfrannu at ysgogi arloesedd yn ein heconomi drwy helpu eraill i gefnogi busnesau i ddatblygu’r gwydnwch sydd ei angen arnynt i lwyddo mewn byd digidol
Mae CDPS yn aml yn gweithio y tu ôl i lenni trawsnewid, gan bweru sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus i helpu eraill yn eu tro. Ein nod yw i fusnesau Cymru gydnabod cyfleoedd masnachol wrth drawsnewid sector cyhoeddus Cymru yn ddigidol. Gobeithiwn yn y ffordd honno annog marchnad cyflenwyr sy’n datblygu ym maes digidol.
Gwnaeth CDPS hwyluso’r llwybr i gyflenwyr o Gymru wneud cais am gontractau digidol yn y sector cyhoeddus drwy, er enghraifft, ddylunio templedi caffael Saesneg clir. Yn aml, nid oes gan gwmnïau bach a chanolig yr adnoddau, megis timau ceisiadau mewnol, sydd gan rai cwmnïau mwy. Dylai’r dogfennau symlach hyn ei gwneud yn haws i gwmnïau llai dendro am waith.
Mae busnesau bach a chanolig hefyd wedi cymryd rhan yn rhwydd yn y 2 gymuned ymarfer y mae CDPS wedi’u sefydlu, gan gynnwys cwmnïau fel Athensys, Dai: lingual ac YPod Cymru.
4.4 Amcan: Meithrin sgiliau ar gyfer ymgysylltu digidol
Helpu eraill i sicrhau bod pobl Cymru yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ymgysylltu â gwasanaethau cyhoeddus digidol
Mae trawsnewid digidol yn golygu trawsnewid i bawb – nid dim ond pobl sydd eisoes â’r sgiliau digidol i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein. Nid yw hygyrchedd gwasanaethau cyhoeddus yn rhywbeth braf i’w gael yn unig – mae gwasanaethau’n methu i’r graddau eu bod yn eithrio rhannau o’r cyhoedd sydd â rhwystrau anabledd neu iaith, er enghraifft.
Mae cynwysoldeb (gan gynnwys pobl) yn hanfodol i ddull CDPS o gynllunio gwasanaethau. Yn 2021-22, rydym wedi:
- cynhyrchu cyfeiriadur cynhwysiant digidol i Gymru
- defnyddio dylunwyr cynnwys, sy’n arbenigo mewn creu cynnwys hygyrch sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, mewn timau amlddisgyblaethol
- hyrwyddo Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru, gan gynnwys safon 5 – ‘Gwnewch yn siŵr bod pawb yn gallu defnyddio’r gwasanaeth’
Mae’r ymagwedd hon mewn sawl maes yn dangos pa mor bwysig y mae CDPS yn gweld hygyrchedd a chynhwysiant wrth ddylunio gwasanaethau.