Adolygiad blwyddyn CDPS 2021-22: gweithio yn agored
5.2 Gweithgaredd: Gweithio yn agored
Fe wnaethom ddweud y byddem yn mabwysiadu egwyddor sylfaenol o weithio yn agored

Mae ‘Gweithio yn agored’ yn ganolog i ddatblygiad Ystwyth – yn enwedig mewn cyd-destun sector cyhoeddus lle mae llawer o’r wybodaeth yn eiddo cyhoeddus yn y pen draw. Drwy weithio yn agored, rydym yn golygu rhannu diweddariadau a chanfyddiadau ein prosiect gyda chynulleidfa mor eang â phosibl – a gwahodd sylwadau yr ydym yn barod i weithredu arnynt.
Mae CDPS wedi gweithio yn agored drwy gydol 2021-22 drwy:
- gyhoeddi negeseuon blog ar bob cam o’r broses o ddatblygu gwasanaethau
- siarad mewn cyfarfodydd diwydiant a digwyddiadau eraill
- cynnal gweminarau rhannu gwybodaeth ar gyfer cynulleidfa eang o’r sector cyhoeddus yng Nghymru
- rhyddhau llawer o’n ‘cyflwyniadau‘ (cyflwyniadau cynnydd) yn gyhoeddus ar YouTube
- cyhoeddi nodiadau wythnosol CDPS
- dosbarthu cylchlythyr CDPS
- ehangu ein presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol ar Twitter, YouTube a LinkedIn

5.2.1 Gweithio yn agored: blogiau
Mae CDPS yn cyhoeddi, ar gyfartaledd, 2 flog yr wythnos. Mae dros 6,000 o bobl wedi ymweld â safle CDPS yn 2021-22, gan edrych ar dudalennau 55,000 o weithiau. Mae’r ffigurau hyn yn dangos diddordeb sylweddol yn ein gwaith gan bobl sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt.
Ar y blog, rydym yn cyhoeddi diweddariadau prosiect a phostiadau mwy cyffredinol sy’n ymdrin â phynciau fel dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr a gweithio Ystwyth.
Seilir diweddariadau’r prosiect ar gamau datblygu Ystwyth darganfod, alpha, beta a byw – er enghraifft:
- Dileu rhwystrwyr yn y cam beta: y cam nesaf ar gyfer yr Adolygiad o’r Dirwedd Ddigidol
- ‘Hybiau’ yn dŷ hanner ffordd rhwng gweithio mewn swyddfa a gweithio gartref
- ‘Pryd mae fy niwrnod casglu biniau?’ Sut aeth un cyngor yng Nghymru ati i ganolbwyntio ar y defnyddiwr
Mae’r pynciau ehangach wedi cynnwys:
- Pontio’r rhaniad digidol yng Nghymru
- Creu diogelwch seicolegol… a phedair gwers arall am gynnwys Ystwyth
5.2.2 Gweithio yn agored: digwyddiadau
Mae CDPS wedi siarad mewn 30 o ddigwyddiadau yn 2021-22. Rydym wedi mynd i’r afael â chynulliadau diwydiant megis Wythnos Technoleg Cymru, Arweinwyr Digidol, Cynhadledd Comisiwn Bevan a Chynhadledd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Rydym wedi ymddangos yn y DU mewn cynadleddau fel GovX Digital. Yn rhyngwladol, er enghraifft yn Uwchgynhadledd GovTech, rydym wedi siarad ochr yn ochr â chyfoedion rhyngwladol fel llywodraeth Estonia.
Rydym wedi codi proffil CDPS yn y digwyddiadau siarad hyn, gan hefyd fynd i’r afael â heriau digidol penodol gwlad ddwyieithog fel Cymru.
5.2.3 Gweithio yn agored: gweminarau
Mae CDPS yn cynnal ‘gweminarau’ misol (seminarau ar y we) ar bynciau sy’n codi o’n gwaith o ddatblygu gwasanaethau digidol sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Mae tua 220 o bobl, o bob rhan o’r sector cyhoeddus yng Nghymru, wedi mynychu. Rydym yn cyhoeddi ein holl weminarau i’r cyhoedd ar YouTube.
Mae pynciau eang wedi cynnwys:
- adeiladu timau amlddisgyblaethol
- defnyddio data i wneud penderfyniadau
- gwneud y dewisiadau technoleg cywir
Mae’r gweminarau’n dechrau gyda chyflwyniadau arbenigol ac yn cael eu dilyn gan drafodaethau gweithredol fel arfer. Rydym wedi cael siaradwyr o Llywodraeth Cymru (fel y Dirprwy Weinidog Lee Waters), elusennau (gan gynnwys Barnardo’s) a sefydliadau masnachol (yr asiantaeth datblygu digidol Perago, er enghraifft).
Mae cynulleidfaoedd wedi cynnwys cynrychiolwyr o gynghorau, sefydliadau tai, y sector elusennol, cyrff Llywodraeth Cymru a phrifysgolion Cymru.
5.2.4 Gweithio yn agored: cyflwyniadau
Mae ‘Cyflwyniadau’ yn un o’r ‘seremonïau’ Ystwyth – arferion sydd wedi’u hanelu at weithio mewn tîm mwy myfyriol. Maent yn sesiynau rheolaidd lle mae tîm datblygu yn cyflwyno i grŵp ehangach am eu cynnydd a’u canfyddiadau diweddar ac yn annog adborth.
Ar gyfer cyflwyniadau CDPS, mae’r grŵp ehangach yn cynnwys nid yn unig CDPS ond hefyd gynrychiolwyr o bob rhan o’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae llawer o staff meddygol, er enghraifft, wedi cymryd rhan yn ein cyflwyniadau gofal sylfaenol – gan leisio syniadau a sbarduno cydweithio a allai arwain at ganlyniadau addawol i’r sector cyhoeddus.
Unwaith eto, rydym yn cyhoeddi’r rhan fwyaf o’n cyflwyniadau yn gyhoeddus ar YouTube – fel yr enghreifftiau hyn gan y timau y tu ôl i’r:
5.2.5 Gweithio yn agored: nodiadau wythnosol
Mae llawer o dimau CDPS yn cyhoeddi crynodeb o waith eu hwythnos flaenorol – nodiadau wythnosol – yn gyhoeddus. Mae’r tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu, er enghraifft, yn cyhoeddi ei nodiadau wythnosol ar Notion – llwyfan y mae ei gynllun clir, syml yn cyd-fynd ag egwyddor hygyrchedd y CDPS. Rydym yn e-bostio casgliad o’r nodiadau wythnosol hyn, sy’n dangos ehangder gweithgareddau arloesol CDPS, i gynulleidfa sy’n tyfu yng Nghymru a thu hwnt.
5.2.6 Gweithio yn agored: cylchlythyrau
Mae cylchlythyrau wedi mynd allan o ffasiwn mewn rhai sefydliadau, o blaid y cyfryngau cymdeithasol. Fodd bynnag, mae cylchlythyr misol CDPS wedi bod yn boblogaidd. Mae ein cyfraddau agor a chlicio, ymhlith ein 350 o danysgrifwyr, yn y drefn honno, yn 37% a 32% – yn y ddau achos, tua dwbl cyfartaledd y sector cyhoeddus yn y DU.
5.2.7 Gweithio yn agored: cyfryngau cymdeithasol
Mae CDPS wedi cyhoeddi 1,600 o negeseuon trydar yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda nifer tebyg o aildrydariadau, ac wedi casglu mwy na 1,900 o ddilynwyr – unwaith eto, nifer sylweddol o ystyried y gynulleidfa bosibl.
Rydym yn bresenoldeb cryf ar YouTube, gan ryddhau mwy na 100 o fideos o’n cyflwyniadau Ystwyth, seminarau a sesiynau hyfforddi.
Rydym hefyd yn defnyddio’r llwyfan mwy newydd LinkedIn. Denodd ein tua 400 o bostiadau LinkedIn yn 2021-22 tua 850 o ddilynwyr. Mae ein cyfradd twf, sef 6.6%, ar y sianel 3 gwaith y gyfradd twf LinkedIn gyfartalog ar gyfer sefydliadau.