Adolygiad blwyddyn CDPS 2021-22: gweithgareddau
5. Ein gweithgareddau cyflawni
Mae gweithgareddau cyflawni CDPS drwy gydol 2021-22 yn dangos yn bendant sut rydym wedi cyflawni ein hamcanion. Yn erbyn pob gweithgaredd, rydym hefyd yn arddangos eiconau o Lesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r eiconau hyn yn dangos lle mae’r gweithgaredd CDPS yn cyd-fynd â 7 nod llesiant y ddeddf a’r 5 ffordd o weithio.
Mae’r eiconau hyn yn dangos lle mae gweithgaredd CDPS yn cyd-fynd â 7 nod llesiant a 5 ffordd o weithio’r ddeddf.
Allwedd eicon: Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol – 7 nod llesiant







Allwedd eicon: Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol – 5 ffordd o weithio





5.1 Gweithgaredd: Hyrwyddo trawsnewid digidol
Fe wnaethom ddweud y byddem yn ymgymryd ag ystod o gamau gweithredu a darganfyddiadau, gan weithio gyda phartneriaid gwasanaethau cyhoeddus, i fwrw ymlaen â thrawsnewid ledled Cymru. Byddai hyn yn cynnwys gwaith megis darparu gwaelodlin i wasanaethau, cyflawni uniongyrchol ac adnabod meysydd blaenoriaeth ar gyfer buddsoddiad


Er mwyn hyrwyddo trawsnewidiad digidol, rydym wedi:
- 1) lansio Adolygiad cynhwysfawr o’r Dirwedd Ddigidol i greu gwaelodlin o ddarparu gwasanaethau ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru ac i flaenoriaethu meysydd ar gyfer CDPS i gefnogi trawsnewid digidol


2. adeiladu 7 tîm amlddisgyblaethol i weithio gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ar datblygu gwasanaethu digidol
5.1.1 Yr Adolygiad o’r Dirwedd Ddigidol
Y nod
Nod yr Adolygiad o’r Dirwedd Ddigidol (DLR) yw datblygu gwell dealltwriaeth o wasanaethau cyhoeddus digidol presennol yng Nghymru er mwyn:
- adnabod lle gall CDPS gysylltu timau a gwasanaethau
- blaenoriaethu meysydd i’w datblygu a buddsoddi
Anghenion defnyddwyr
Hyd yma, nid oes darlun cynhwysfawr o gyflwr gwasanaethau cyhoeddus digidol yng Nghymru wedi bod. Mae tîm y DLR wedi siarad â thimau gwasanaeth ledled y wlad am ba mor dda y mae eu gwasanaethau:
- yn diwallu anghenion y bobl sy’n eu defnyddio
- yn cyd-fynd â Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru
Bydd y data a gasglwyd gan y tîm drwy gydol 2021-22 yn helpu CDPS ac eraill, megis y prif swyddogion digidol, i flaenoriaethu gwaith yn 2022-23. Byddwn yn canolbwyntio ein cefnogaeth ar lle y bydd yn cael yr effaith fwyaf ar ddefnyddwyr gwasanaethau.
Pwy oedd ynghlwm?
Amrywiaeth eang o sefydliadau o awdurdodau lleol i gyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru (fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chwaraeon Cymru) a sefydliadau iechyd a gofal.
Yr hyn rydym wedi’i gyflawni
Drwy gamau darganfod ac alpha’r prosiect, mae tîm y DLR:
- wedi adnabod cannoedd o wasanaethau sector cyhoeddus Cymru
- wedi siarad â channoedd o bobl o fewn mwy na 30 o sefydliadau sector cyhoeddus
- wedi cynnal gweithdai i ddatgelu problemau cyffredin ar draws gwasanaethau
- wedi creu meini prawf ar gyfer lle gall CDPS gael yr effaith fwyaf
O’r dystiolaeth a ddeilliodd o hynny, daeth y tîm i’r casgliad bod angen mwy o gymorth ar sefydliadau i fabwysiadu Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru a’u hymgorffori yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Mae heriau eang eraill yn cynnwys:
- dylunio gwasanaethau dwyieithog, Cymraeg-Saesneg go iawn yn hytrach na chyfieithu’r Saesneg i’r Gymraeg yn unig
- annog defnydd eang o ddadansoddeg gwasanaeth
- ymgorffori seiberddiogelwch a diogelwch gwybodaeth da
- ehangu ymchwil defnyddwyr y tu hwnt i arolygon syml
- gwneud gwasanaethau’n fwy hygyrch, fel nad oes neb yn cael ei adael ar ôl drwy drawsnewid digidol
- annog diwylliant o welliant parhaus, hyd yn oed pan fydd gwasanaeth yn fyw
Beth sydd nesaf?
Mae’r DLR bellach ymhell i’w gyfnod beta. O restr o 16 o feysydd gweithredu posibl a adnabuwyd gan y DLR, ymgynghorodd bwrdd y CDPS ag eraill ynghylch pa feysydd i’w blaenoriaethu. Rhoddodd y bwrdd flaenoriaeth i 7 maes:
- aeddfedrwydd digidol ym maes iechyd
- rheoli achosion
- caffael digidol
- ail-lwyfannu cwmwl
- cyhoeddi
- cyfrifon defnyddwyr
- ffurflenni ar-lein
- mesur ac olrhain
Mae CDPS, gyda’r prif swyddogion digidol, bellach yn edrych ar sut i weithredu ar y blaenoriaethau hyn.
Darllen mwy
Dileu rhwystrwyr yn y cam beta: y cam nesaf ar gyfer yr Adolygiad o’r Dirwedd Ddigidol
Adolygiad o’r tirwedd digidol – blas o’n trafodaethau diweddar
5.1.2 Timau amlddisgyblaethol sy’n gweithio gyda phartneriaid
Mae gweithio gydag eraill yn hanfodol i ddull CDPS o ddatblygu gwasanaethau. Rydym yn ffurfio partneriaethau gyda thimau o sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus i adnabod anghenion defnyddwyr ac adeiladu gwasanaethau o’u cwmpas. Nid ydym yn defnyddio ein harbenigedd i geisio dweud wrth sefydliadau eraill beth i’w wneud.
Gan weithio i egwyddorion Ystwyth, mae ein timau amlddisgyblaethol o arbenigwyr digidol yn cynnwys rolau fel rheolwr cyflawni, dylunydd gwasanaeth, ymchwilydd defnyddwyr, dylunydd cynnwys, dadansoddwr busnes a datblygwr.
Mae llawer o’n timau amlddisgyblaethol wedi bod yn gweithio ar ‘ddarganfyddiadau’ (cam ymchwil cyntaf dylunio gwasanaeth Ystwyth) yn 2021-22. Roedd gennym 7 tîm amlddisgyblaethol ar:
- darganfyddiad gwasanaethau gofal sylfaenol
- mynediad at beta gofal cymdeithasol i oedolion
- darganfyddiad gwastraff peryglus Cyfoeth Naturiol Cymru
- darganfyddiad ‘hybiau’ gweithio o bell
- darganfyddiad ac alpha grantiau Chwaraeon Cymru
- prawf o gysyniad data tir ac eiddo Awdurdod Cyllid Cymru
- Cynllun Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus
1) Tîm amlddisgyblaethol: darganfyddiad gwasanaethau gofal sylfaenol

Y nod
Drwy gyfweliadau eang, i ddeall profiad defnyddwyr (cleifion) a darparwyr (meddygon teulu a staff practis) o ofal iechyd sylfaenol yng Nghymru ac, yn arbennig, o ryngweithio digidol.
Anghenion defnyddwyr
Fe wnaeth pandemig COVID-19 i lawer ohonom ryngweithio â’n meddygon teulu o bell, gan wneud yr angen am wasanaethau gofal iechyd digidol da yn bwysicach.
Mae’r darganfyddiad hwn wedi helpu sefydliadau iechyd a gofal i ddeall anghenion cleifion a darparwyr gofal iechyd yng Nghymru yn well. Bydd hynny’n helpu’r sefydliadau hynny i wneud penderfyniadau cadarn wrth ddatblygu gwasanaethau digidol i’r cyhoedd.
Pwy arall oedd ynghlwm?
Gwasanaethau Digidol i Gleifion a’r Cyhoedd (DSPP) oedd noddwr y prosiect.
Cymerodd defnyddwyr a darparwyr systemau digidol sy’n wynebu cleifion, gan gynnwys Fy Iechyd Ar-lein, yn ogystal â meddygon teulu a nyrsys practis meddygon teulu, rheolwyr a staff gweinyddol i gyd ran yn yr ymchwil.
Yr hyn rydym wedi’i gyflawni
Cynhaliodd y tîm darganfod:
- cyfweliadau 60 i 100 munud gyda 14 o ymatebwyr wedi’u cofrestru mewn practisau yng Nghymru
- mwy na 35 awr o gyfweliadau staff practisau meddygon teulu a meddygon teulu, gyda 23 o gyfranogwyr, ar draws y 7 bwrdd iechyd yng Nghymru – o bractisau bach i rai mawr mewn ardaloedd trefol a gwledig, tua un rhan o bump ohonynt yn ddifreintiedig
Sgriniodd y tîm am nodweddion amrywiol ar gyfer yr holl ymatebwyr, gan ymdrin ag anghenion iechyd meddwl, materion symudedd a chyflyrau iechyd eang. Y canlyniad oedd golwg lawn iawn ar brofiadau cleifion ac ymarferwyr o wasanaethau gofal sylfaenol yng Nghymru.



Sut wnaethom ni rannu sgiliau?
Gwnaeth y tîm hyfforddiant 1-i-1 gyda rheolwr cyflawni DSPP i droi eu prosiect ‘rhaeadr‘ traddodiadol yn un Ystwyth. Roeddent hefyd yn dangos ffyrdd Ystwyth o weithio ym maes gofal iechyd gyda hyfforddiant ysgafn mewn cyflwyniadau.
Gwelodd rhanddeiliaid sesiynau ymchwil defnyddwyr a llunio mapiau dylunio gwasanaethau, lle’r oeddent yn gweld yn uniongyrchol werth dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Ers hynny maent wedi gwneud fideos ac wedi helpu i ysgrifennu blogs i hyrwyddo egwyddorion Ystwyth.
Beth sydd nesaf?
Mae mewnwelediadau o’r darganfyddiad gofal sylfaenol wedi helpu DSPP i greu darlun o dirwedd gofal sylfaenol ehangach Cymru. Mae’r tîm darganfod wedi cyflwyno eu hymchwil i fwrdd DHCW, i helpu i lunio dyfodol gwasanaethau gofal sylfaenol yng Nghymru.
Darllen mwy
Beth all technoleg ddigidol ei wneud? Archwilio tirwedd gofal iechyd sylfaenol Cymru
Ffôn, fideo, ymweliad? Themâu sy’n dod i’r amlwg o’r prosiect darganfod ar fynediad at Feddygon Teulu
2) Tîm amlddisgyblaethol: mynediad at beta gofal cymdeithasol i oedolion

Y nod
Defnyddio negeseuon testun i wella cyfathrebu â defnyddwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion Cyngor Castell-nedd Port Talbot (CNPT).
Anghenion defnyddwyr
Dengys ymchwil fod angen i ddarpar ddefnyddwyr gofal cymdeithasol i oedolion o CNPT, ymhlith pethau eraill, wneud y canlynol:
- gwybod pa mor hir y byddai’n rhaid iddynt ymdopi heb gymorth fel y gallent wneud trefniadau addas
- cael eu diweddaru’n rheolaidd ar gynnydd eu cais fel eu bod yn gwybod ei fod yn dal i gael ei ystyried
- cael y lefel gywir o wybodaeth ar gyfer eu hamgylchiadau

Pwy arall oedd ynghlwm?
Cyngor CNPT oedd prif bartner CDPS yn y prosiect hwn. Bu’r tîm hefyd yn gweithio’n gynharach gyda Chynghorau Torfaen a Blaenau Gwent.
Yr hyn rydym wedi’i gyflawni
Gweithiodd CDPS gyda CNPT i nodi anghenion defnyddwyr, drwy ymchwil, ac i brofi gwasanaethau negeseuon testun prototeip.
Fe wnaethom:
- 2 rownd o ymchwil defnyddwyr gyda 19 o ddefnyddwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion CNPT
- cyfweld â thrigolion o Gymru a oedd wedi cael gofal cymdeithasol i oedolion o fewn y 12 mis diwethaf
‘Byddwn wedi gwerthfawrogi neges destun fel hyn ar ôl cael fy nghyfeirio’
– Ymateb ymchwil defnyddwyr i brototeip gwasanaeth CDPS
Sut wnaethom ni rannu sgiliau?
Mae staff o awdurdodau lleol CNPT, Torfaen a Blaenau Gwent wedi gweithio mewn partneriaeth â’r tîm o CDPS.
Cynhaliodd ein harweinydd technegol sesiynau gyda datblygwyr CNPT a dadansoddwyr busnes i ddatblygu rhyngwyneb rhaglennu’r gwasanaeth testun.
Gwnaeth aelod o sgwad CDPS hefyd hyfforddiant un-i-un gydag aelod o staff cyngor CNPT i’w helpu i symud i’w rôl rheolwr cyflawni cyntaf.
Beth sydd nesaf?
Mae CNPT wedi cymryd yr awenau ar y gwasanaeth ‘Olrhain fy nghais’. Ar ôl gweithio gydag arweinydd technoleg CDPS, roedd tîm technoleg NPT yn gallu ailysgrifennu sylfaen cod y gwasanaeth i integreiddio â’u gwasanaeth negeseuon testun presennol.
Rhoddodd CDPS hefyd ganllawiau i CNPT ar sut i ysgrifennu negeseuon testun i ddiwallu anghenion defnyddwyr sy’n datblygu.
Darllen mwy
Geiriau â phwrpas … gwasanaeth negeseuon testun i fodloni anghenion defnyddwyr
3) Tîm amlddisgyblaethol: Darganfyddiad gwastraff peryglus Cyfoeth Naturiol Cymru

Y nod
Defnyddio triniaeth gwastraff peryglus fel cyfle i adeiladu gwasanaeth digidol sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, ar egwyddorion Ystwyth, mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Anghenion defnyddwyr
Ar hyn o bryd, mae CNC yn sefydliad ‘sy’n cael ei arwain gan TG’ sy’n defnyddio dulliau traddodiadol, rhaeadr o reoli prosiectau ond mae am ganolbwyntio ar y defnyddiwr gan ddarparu gwell gwasanaethau.
Roedd triniaeth gwastraff peryglus CNC yn ticio sawl blwch ar gyfer gweithio gyda CDPS:
- gwasanaeth darniog yn bodoli, ac roedd pwyntiau poen yn glir
- bod gofyniad cyfreithiol ar ddefnyddwyr i ddweud wrth y llywodraeth eu bod yn delio â gwastraff peryglus
Byddai gwasanaeth gwastraff peryglus sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr nid yn unig yn gwasanaethu cwsmeriaid CNC yn well. Gallai hefyd roi mwy o incwm i’r sefydliad a’i helpu i ddangos manteision gweithio Ystwyth.

Pwy arall oedd ynghlwm?
Mae CDPS wedi bod yn gweithio gyda thimau polisi a gweithredol CNC i ymchwilio i’r gwasanaeth gwastraff peryglus.
Yr hyn a wnaethom
Fel rhan o’r darganfyddiad, mae’r tîm amlddisgyblaethol ar y cyd wedi:
- ymchwilio i anghenion defnyddwyr gydag arbenigwyr pwnc CNC a defnyddwyr gwasanaethau gwastraff peryglus CNC
- dadansoddi data cwsmeriaid a metrigau gwefan CNC
- cynnal gweithdai i ddiffinio anghenion CNC a rhanddeiliaid
Mae’r tîm wedyn wedi gallu ffocysu’r broblem i:
- wella’r ‘gwasanaeth’ o’r dechrau i’r diwedd (nid yw gwasanaeth llawn yn bodoli eto) ar gyfer defnyddwyr
- gwneud trin gwastraff peryglus yn fwy effeithlon i ddefnyddwyr a CNC
- cynyddu cydymffurfiaeth â deddfau trin gwastraff
Sut wnaethom ni rannu sgiliau?
Roedd cydweithwyr CNC yn rhan o’r tîm darganfod drwy gydol y prosiect. Roedd aelodau tîm CDPS yn eu hyfforddi mewn egwyddorion Ystwyth ac arferion ymchwil defnyddwyr. Hefyd, cynhaliodd y tîm sesiynau cinio a dysgu ar bynciau fel gweithio yn agored i staff CNC nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â’r prosiect.
Beth sydd nesaf?
Ar ddiwedd y darganfyddiad, roedd gan y tîm set eang o anghenion defnyddwyr. O amgylch yr anghenion hynny, gallent ddechrau adeiladu prototeipiau gwasanaeth yn y cam alpha nesaf o’r datblygiad Ystwyth.
Darllen mwy
Dim gwastraff… datguddio’r cynnwys y mae ei angen ar ddefnyddwyr yn un o wasanaethau Cyfoeth Naturiol Cymru
Palu’n ddwfn: rôl dylunio wrth ddarganfod
4) Tîm amlddisgyblaeth: darganfyddiad hybiau gweithio o bell


Y nod
Dysgu mwy am anghenion y cyhoedd – a rhai o staff y sector preifat – sydd am archebu lleoedd mewn swyddfeydd gwaith o bell, ‘hybiau’, yng Nghymru yn syml ac yn hawdd.
Anghenion defnyddwyr
Mewn ymchwil CDPS, dywedodd defnyddwyr yr hybiau wrthym am:
- pam y byddent yn defnyddio hwb – er enghraifft, ar gyfer cyfarfodydd ar-lein, i weithio yn ystod gwyliau’r ysgol, er mwyn osgoi tynnu sylw eraill gartref neu oherwydd wifi gwan gartref
- eu hangen am breifatrwydd a lle tawel i weithio – dywedodd rhai gweithwyr yn y sector cyhoeddus fod angen iddynt gadw eu gwaith yn gyfrinachol, gan gynnwys ar gyfer cyfarfodydd ac arddangos gwybodaeth sensitif ar eu sgriniau
- cyfleusterau yr oedd eu hangen arnynt mewn hwb – gan gynnwys mynediad i argraffydd, sganiwr ac, yn bwysig, digon o socedi gwefru ar gyfer dyfeisiau

Pwy arall oedd ynghlwm?
Tîm Gweithio o Bell Llywodraeth Cymru oedd partner CDPS yn y darganfyddiad hwn.
Yr hyn a wnaethom
Cyfwelodd y tîm darganfod â 14 o ddarpar ddefnyddwyr hybiau mewn ardaloedd gwledig, trefol a maestrefol ledled Cymru. Roeddent yn wrywaidd a benywaidd, ac roedd rhai yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf. Roedd rhai yn anabl, ac roedd gan rai anghenion iechyd meddwl.
Siaradodd y tîm hefyd â 10 darparwr hybiau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.
O’r sylfaen hon o ddefnyddwyr a darparwyr, casglodd y tîm set eang o anghenion defnyddwyr. Mae CDPS wedi defnyddio’r anghenion hynny i wneud argymhellion i Llywodraeth Cymru ynghylch dewis darparwr archebu hybiau ar-lein.
Sut wnaethom ni rannu sgiliau?
Dangosodd aelodau tîm CDPS egwyddorion Ystwyth a dull sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr – gan gynnwys cyfweliadau â defnyddwyr, personas ac anghenion defnyddwyr – i dîm ehangach y prosiect.
Daeth CDPS hefyd ag arbenigedd caffael (prynu nwyddau a gwasanaethau) i’r prosiect, gan helpu i ddangos llwybrau i’r farchnad.
Beth sydd nesaf?
Yn seiliedig ar ein hymchwil, mae CDPS wedi rhoi arweiniad i Llywodraeth Cymru ar beth i’w ystyried wrth ddewis darparwr archebu hybiau ar-lein. Mae’r canllawiau hynny’n cynnwys pa mor hygyrch yw’r llwyfan, yn ogystal â’r cynllun a’r cyfleusterau y dylai’r hybiau eu hunain eu cael.
Darllen mwy
‘Hybiau’ yn dŷ hanner ffordd rhwng gweithio mewn swyddfa a gweithio gartref
5) Tîm amlddisgyblaethol: Grantiau cymunedol Chwaraeon Cymru


Y nod
Cynyddu cyrhaeddiad ac effaith grantiau buddsoddi cymunedol Chwaraeon Cymru.
Anghenion defnyddwyr
Mae’r broses bresennol o wneud cais am grant gan Chwaraeon Cymru yn creu rhwystrau sylweddol i bobl sydd am wneud cais am gyllid chwaraeon cymunedol.
Drwy gyfweliadau darganfod, canfu tîm y prosiect fod defnyddwyr:
- heb lawer o wybodaeth yr oedd ei hangen arnynt am wneud cais, yn enwedig ynghylch cymhwysedd (p’un a allent wneud cais)
- yn cael eu rhwystro gan iaith gymhleth yn y broses ymgeisio
Drwy gydol y cam alpha (arbrofol) o ddatblygu gwasanaethau, mae tîm ar y cyd CDPS-Chwaraeon Cymru wedi bod yn defnyddio dyluniad sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr i:
- ddarparu gwybodaeth dim ond lle a phryd y mae ar ddefnyddwyr ei hangen yn y broses ymgeisio
- defnyddio iaith syml y mae defnyddwyr yn ei deall
Bydd gwasanaeth mwy cynhwysol yn lleihau’r baich ar ddefnyddwyr, gan ddiwallu anghenion sefydliadol Chwaraeon Cymru. Mae’n addo gwneud grantiau’n hygyrch i bawb sy’n gymwys – fel y gall cyllid chwaraeon wneud y gwahaniaeth gwirioneddol y dylai ei wneud.
Pwy arall oedd ynghlwm?
Prif bartner CDPS yn y prosiect hwn yw Chwaraeon Cymru.
Mae’r tîm ar y cyd hefyd wedi dibynnu’n drwm ar gyfranogiad y bobl y mae’n rhaid i’r gwasanaeth ddiwallu eu hanghenion – clybiau chwaraeon ar lawr gwlad, cymdeithasau a chymunedau ledled Cymru, gan ganolbwyntio’n arbennig ar grwpiau anodd eu cyrraedd.
Yr hyn a gyflawnodd y tîm
Mewn darganfyddiad, fe wnaeth y tîm:
- arolwg o ymgeiswyr presennol a darpar ymgeiswyr grant Chwaraeon Cymru, gan dderbyn 228 o ymatebion
- 59 o gyfweliadau gydag ymgeiswyr presennol a darpar ymgeiswyr
Yn y wedd alpha, gwerthusodd y tîm 4 prototeip cais am grant ar-lein, mewn 15 sesiwn, gydag ymgeiswyr grant blaenorol.
Sut wnaethom ni rannu sgiliau?
Roedd cydweithwyr Chwaraeon Cymru yn rhan o’r tîm datblygu gwasanaeth, ochr yn ochr â CDPS. Cynyddodd y profiad hwn eu dealltwriaeth o waith tîm Ystwyth ac amlddisgyblaethol.
Yn benodol, fe wnaeth tîm CDPS:
- hyfforddi arbenigwr pwnc Chwaraeon Cymru i fod yn rheolwr cynnyrch
- baru ymchwilwyr defnyddwyr CDPS gydag ymchwilwyr Chwaraeon Cymru i gynyddu eu sgiliau
Hefyd, cynhaliodd aelodau tîm CDPS ddosbarthiadau meistr mewn pynciau Ystwyth (camau darganfod, alpha, beta, byw; beth yw anghenion defnyddwyr; sut i ‘fethu’) a sesiynau galw heibio Ystwyth ar gyfer cydweithwyr yn Chwaraeon Cymru.
Beth sydd nesaf?
Mae’r tîm bellach yn cynllunio ac yn profi taith defnyddwyr o’r dechrau i’r diwedd ar gyfer ceisiadau am grantiau chwaraeon, i’w lansio eleni.
Darllen mwy
Un tro … mewn tîm gwasanaeth Ystwyth
Ceisiadau sain? Helpu i fwrw’r rhwyd grantiau yn ehangach
6) Tîm amlddisgyblaethol: Awdurdod Cyllid Cymru – prawf o gysyniad data

Y nod
Adeiladu prawf gweithredol o gysyniad i ddangos sut y gall data gefnogi trethiant tir ac eiddo datganoledig symlach, tecach a mwy effeithlon.
Anghenion defnyddwyr
Uchelgais Awdurdod Cyllid Cymru yw dod yn sefydliad treth gwbl ddigidol i Gymru. Mae gan wasanaethau sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, sy’n seiliedig ar egwyddorion Ystwyth, y potensial i wneud trethiant yn symlach, yn decach ac yn fwy effeithlon.
Archwiliodd tîm CDPS-WRA ar y cyd sut y gallai llwyfan data ar gyfer tir ac eiddo yng Nghymru gefnogi trethi daearyddol amrywiol. Ystyriwyd hefyd sut y gallai llwyfan o’r fath fod yn ddefnyddiol i sefydliadau eraill yng Nghymru mewn llywodraeth leol neu’r trydydd sector.
Ers mis Ionawr 2022, mae’r tîm wedi:
- egluro graddfa’r uchelgais a ble i ddechrau
- dod â chyfleoedd a heriau yn fyw
- rhoi opsiynau polisi posibl i weinidogion
- dangos ffyrdd newydd o weithio

Pwy arall oedd ynghlwm?
Ynghyd â’r Awdurdod, gweithiodd CDPS gyda’r ymgynghoriaeth TG Kainos.
Yr hyn sydd wedi’i gyflawni
Mae’r tîm prawf cysyniad wedi dechrau drwy:
- ddeall rheolau’r Dreth Trafodion Tir a’r data y mae angen ar y dreth i weithio, gan gynnwys creu enghreifftiau cam wrth gam
- cyhoeddi gwefan prosiect a nodiadau wythnosol – i egluro eu ffordd o feddwl drostynt eu hunain a, gweithio yn agored, i roi gwybod i bawb arall beth maen nhw’n ei wneud
Mae’r tîm wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil defnyddwyr gyda thimau darparu gwasanaethau Awdurdod Cyllid Cymru i ddeall sut y maent yn cynllunio gwasanaethau ar hyn o bryd. Maent hefyd wedi cynnal gweithdai gyda thimau polisi i ddeall anghenion posibl sy’n dod i’r amlwg.
Sut wnaethom ni rannu sgiliau?
Trosglwyddodd CDPS sgiliau i gydweithwyr Awdurdod Cyllid Cymru drwy:
- eu hyfforddi mewn cyflwyno cynnyrch Ystwyth, sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr
- rhoi hyfforddiant Ystwyth iddynt
Beth sydd nesaf?
Bydd y tîm yn creu 2 neu 3 prototeip gwasanaeth sy’n enghreifftio dull sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac yn rhoi opsiynau i weinidogion am wasanaethau y gallent fwrw ymlaen i’w hadeiladu.
Darllen mwy
Helpu Awdurdod Cyllid Cymru i ddod yn gwbl ddigidol
7) Tîm amlddisgyblaeth: Cynllun Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus

Y nod
Cefnogi digwyddiad gyda gwasanaeth hidlo ar y we a ddarperir i ysgolion drwy Gydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA) a’i atal rhag digwydd eto.
Anghenion defnyddwyr
Roedd angen i Lywodraeth Cymru ddeall y materion technegol sy’n sail i ddigwyddiad gwasanaeth pwysig sy’n effeithio ar sut roedd dysgwyr yn defnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel mewn ysgolion. Roedd angen i ysgolion barhau i addysgu drwy’r digwyddiad mewn ffordd nad oedd yn effeithio’n negyddol ar ddysgu plant.
Pwy arall oedd ynghlwm?
Yn ogystal â thîm Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chyflenwyr.
Yr hyn a wnaethom
Darparodd CDPS:
- arbenigwr cyfathrebu mewn argyfwng i wella cyfathrebu am y digwyddiad PSBA a rhoi gwybodaeth fwy defnyddiol i awdurdodau lleol ei dosbarthu i ysgolion
- rheolwr digwyddiadau i helpu i ddeall y materion technegol dan sylw a herio’r cyflenwr
Gan weithio’n agos gyda phartneriaid a chyflenwyr, helpodd yr arbenigwyr hyn i adfer y gwasanaeth yn llawn ac i ailadeiladu ymddiriedaeth gydag awdurdodau lleol.
Ochr yn ochr â hyn, llwyddodd CDPS i reoli ‘post mortem di-fai‘ (archwiliad manwl) o’r digwyddiad, gan gynnwys cyfathrebu, pensaernïaeth dechnegol, trefniadau masnachol, contractau a datrys.
Sut wnaethom ni rannu sgiliau?
Fe wnaeth ein harbenigwyr baru â staff Llywodraeth Cymru i drosglwyddo sgiliau a gwybodaeth i gefnogi’r gwasanaeth yn well yn y dyfodol.
Darparodd y post mortem wersi i helpu i atal digwyddiadau yn y dyfodol a’u trin yn well pan fyddant yn digwydd.
Beth sydd nesaf?
Rydym yn cynnal darganfyddiad o sut y gallai gwasanaeth hidlo gwe yn y dyfodol ddiwallu anghenion ysgolion, dysgwyr a’r Cwricwlwm newydd i Gymru yn y dyfodol.