Adolygiad blwyddyn CDPS 2021-22: arweinyddiaeth ddigidol
5.3 Gweithgaredd: Datblygu arweinyddiaeth ddigidol
Fe wnaethom ddweud y byddem yn datblygu arweinyddiaeth ddigidol yng Nghymru drwy sicrhau bod y CDOs a’r CDPS yn gweithio gyda’i gilydd i sbarduno gwelliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus digidol
Mae ein Prif Weithredwyr ar y cyd, Harriet Green a Myra Hunt, yn cael sgyrsiau rheolaidd gyda phrif swyddogion digidol y sector cyhoeddus yng Nghymru. Rydym yn gweld y sgyrsiau hyn fel y cnewyllyn ar gyfer grŵp arweinyddiaeth traws-CDO posibl. Byddai’r grŵp yn llywio dull gwasanaethau cyhoeddus Cymru o ymdrin â hunaniaeth, llwyfannau, cydrannau cyffredin a phrosiectau trawsnewid.
Rydym hefyd wedi datblygu arweinyddiaeth ddigidol drwy ddarparu hyfforddiant arweinyddiaeth pwrpasol gan rai o’r addysgwyr uchaf eu parch yn y maes. (Gweler y gweithgaredd nesaf, Darparu hyfforddiant arweinyddiaeth, isod.)
5.4 Gweithgaredd: Darparu hyfforddiant arweinyddiaeth
Fe wnaethom ddweud y byddem yn datblygu ac yn darparu hyfforddiant arweinyddiaeth ddigidol a sgiliau ymarferol
Mae CDPS wedi cynnal 14 cwrs unigol yn 2021-22. Rydym wedi hyfforddi mwy na 600 o bobl o 80 o sefydliadau, dros fwy na 50 o sesiynau cwrs, mewn sgiliau dylunio Ystwyth sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
Mae mwy na 200 o arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus wedi mynychu neu wedi cofrestru ar gyfer cyrsiau gan gynnwys:
- Hyfforddiant Arweinyddiaeth Weithredol sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr
- Perchnogaeth Gwasanaeth sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr
Mae cyrsiau ar gyfer staff gwasanaethau cyhoeddus yn cynnwys:
Mae ein cyrsiau poblogaidd yn darparu’r sylfaen sgiliau ar gyfer trawsnewid gwasanaethau’r sector cyhoeddus yn ddigidol yng Nghymru.
5.4.1 Hyfforddiant: wedi’i gynllunio drwy gyd-greu ac ymgynghori






Gan ddechrau gyda hyfforddiant arweinyddiaeth, adeiladodd CDPS ein rhaglen sgiliau yn yr un modd ag y byddem yn ei wneud gydag unrhyw wasanaeth: gyda chyfnod ymchwil dwys gyda darpar ddefnyddwyr. Cynhaliodd tîm sgiliau a gallu CDPS ddarganfyddiad gan gynnwys 75 o gyfweliadau gyda chynrychiolwyr o 9 sefydliad sector cyhoeddus yng Nghymru.
Drwy eu hymchwil, nododd y tîm fod angen i’r defnyddiwr arweinyddiaeth ysgrifennu cyfres o straeon defnyddwyr fel hwn:
‘Fel arweinydd mewn sefydliad sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, mae angen i mi ddeall potensial trawsnewidiol digidol a phwysigrwydd ystwythder sefydliadol, felly rwyf mewn sefyllfa well i arwain yr agenda ddigidol’
Roedd straeon defnyddwyr staff yn cynnwys:
‘Fel rhywun sy’n helpu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus Cymru, mae angen i mi ddeall hanfodion dylunio gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr a ffyrdd Ystwyth o weithio, fel y gallaf gyflawni fy rôl wrth helpu fy sefydliad i drawsnewid yn ddigidol’
5.4.2 Hyfforddiant: prentisiaethau
Comisiynodd CDPS adroddiad yn 2021 ar ba mor dda y mae prentisiaethau digidol yng Nghymru yn cyd-fynd â rolau Digidol, Data a Thechnoleg (DDaT). Dangosodd yr adroddiad aliniad cryf mewn meysydd fel seiberddiogelwch, peirianneg data a meddalwedd. Roedd bylchau mewn dylunio, cynnyrch a chyflenwi sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, profion sicrhau ansawdd a gweithrediadau TG.
Mewn ymateb i’r adroddiad, mae CDPS wedi archwilio gyda rhanddeiliaid gan gynnwys darparwyr addysg bellach ac uwch sut i lenwi’r bwlch sgiliau DDaT a adnabuwyd yn yr adroddiad. Roedd prentisiaethau digidol yn un ffordd o ddarparu’r sgiliau hynny.
Bydd CDPS yn codi ymwybyddiaeth o fanteision sgiliau DDaT i bobl sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Byddwn hefyd yn helpu i greu llwybrau gyrfa i bobl ymuno â’r proffesiynau DDaT.
5.4.3 Hyfforddiant: cystadleuaeth agored i ddarparwyr
Cynhaliodd CDPS gystadleuaeth agored i ddarparwyr hyfforddiant ateb yr anghenion y gwnaethom eu hadnabod wrth ddarganfod. Ymhlith y darparwyr yr ydym wedi defnyddio eu gwasanaethau y mae:
- awdurdod datblygu digidol Cymru Perago
- Llibertat, sy’n cael ei redeg gan gyn-bennaeth cynnwys GOV.UK Padma Gillen
- yr Ysgol Gwasanaethau Da, dan arweiniad cyn-bennaeth dylunio llywodraeth y DU Lou Downe
5.4.4 Hyfforddiant: adnodd parhaol yn Campws Digidol
Mae’r cyrsiau y mae CDPS wedi’u cynnal hyd yma wedi dechrau ateb yr anghenion uniongyrchol am hyfforddiant digidol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Y cam nesaf posibl yw sefydlu corff hyfforddi parhaol. Byddai ganddo gwricwlwm cynhwysfawr a rheolaidd sy’n cwmpasu sgiliau datblygu gwasanaethau, dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr a gweithio Ystwyth i arweinwyr a staff y sector cyhoeddus.
Ym mis Tachwedd 2021, dyfarnodd CDPS gontract i’r asiantaeth dylunio a strategaeth ddigidol This Is Milk i ddarparu cam alpha – archwiliadol – y corff hyfforddi parhaol hwn. Am y tro, rydym yn galw’r darparwr hyfforddiant yn Campws Digidol.
Byddai’r campws yn rhan o raglen hyfforddi ehangach. Gallai cymell a mwy o gymunedau ymarfer a diddordeb fynd gydag ef.
5.4.5 Hyfforddiant: adborth cadarnhaol
Mae ein cyrsiau wedi denu llawer o adborth cadarnhaol gan gyfranogwyr, gan ein hannog i wneud mwy. Mewn ffurflenni adborth ac ar Twitter, dywedodd pobl bethau fel:
‘Rydw i fel arfer yn casáu cyrsiau hyfforddi ond gyda’r un yma roeddwn i’n wirioneddol yn edrych ymlaen i ymuno â phob sesiwn’
‘Caru’r cwrs… cydbwysedd da o ymarferol a theori’
‘Dwi eisoes wedi dechrau defnyddio hyn gyda’r tîm ehangach’
Gwyliwch: Lou Downe, cyn-Bennaeth Dylunio llywodraeth y DU, sy’n disgrifio’r cyrsiau y mae eu (y rhagenw a ffefrir gan Lou) Hysgol Gwasanaethau Da yn eu rhoi ar gyfer CDPS.
Darllen mwy