Sut i ddefnyddio ymchwil i wella eich gwasanaeth

Dulliau a thechnegau ymchwil y gallwch eu defnyddio i helpu dylunio a gwella gwasanaeth.  

Mae gwneud ymchwil yn ystod pob cam o brosiect yn eich galluogi i ddeall anghenion eich defnyddwyr a gwirio eich bod yn bodloni gofynion y busnes a’r defnyddwyr. 

Mae ymchwil hefyd yn helpu i sicrhau bod cynhyrchion a gwasanaethau sydd eisoes yn cael eu defnyddio yn aros yn berthnasol ac wedi’u hoptimeiddio.  

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael fel cyflwyniad:

Dechrau arni 

Yn ddelfrydol, byddech yn gweithio gydag ymchwilydd defnyddwyr i ddeall yn well: 

Rydym yn gwybod nad yw hyn bob amser yn bosibl, ond mae yna ffyrdd y gallwch chi barhau i ddefnyddio ymchwil i helpu dylunio gwasanaethau.  

Cyn i chi ddechrau, mae’n werth gweithio gyda’ch tîm i ysgrifennu a diffinio 3 i 5 amcan ar gyfer yr hyn rydych chi eisiau ei ddysgu o’ch ymchwil. Yna gallwch ddewis yr ymchwil orau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion.  

Darllenwch fwy am ysgrifennu amcanion ymchwil 

Ymchwil eilaidd 

Ymchwil eilaidd yw’r arfer o gasglu a chyfosod data a gwybodaeth sy’n bodoli eisoes. 

Mae’n bwysig dysgu a chael dealltwriaeth o’r wybodaeth bresennol cyn gwneud ymchwil newydd (gelwir gwneud ymchwil newydd yn ymchwil sylfaenol  

Bydd hyn yn eich helpu i wneud yn siŵr nad ydych chi’n dyblygu gwybodaeth sydd eisoes yn bodoli.  

Dyma rai dulliau a thechnegau ar gyfer gwneud ymchwil eilaidd. 

Adolygiad llenyddiaeth 

Mae adolygiad llenyddiaeth yn rhan bwysig o ymchwil. Mae’n rhoi sylfaen gadarn i chi ynghylch y pwnc. Gall gwneud hyn cynnig cipolwg ar: 

Gall y llenyddiaeth hon gynnwys cofnodion blog, papurau gwyn, erthyglau, llawlyfrau, neu lyfrau.  

Yn y byd academaidd, ar ddechrau pob prosiect ymchwil, mae adolygiad llenyddiaeth. Byddech yn darllen, arolygu, beirniadu, dadansoddi a chrynhoi popeth sydd eisoes wedi’i ysgrifennu am y pwnc rydych chi’n ei ymchwilio. 

Mae gan Sefydliad Datblygu Academaidd Prifysgol Caeredin ganllaw cyffredinol ar sut i gynnal ac ysgrifennu adolygiad llenyddiaeth

Mae’r Gronfa Lenyddol Frenhinol wedi ysgrifennu erthygl wych yn amlinellu ‘beth yw adolygiad llenyddiaeth?’

Adolygu cynnyrch presennol 

Os oes cynhyrchion neu wasanaethau presennol tebyg i’r un rydych chi’n gweithio arno, gallwch adolygu eu cysyniadau, rhyngweithiadau, iaith, a phrofiadau. 

Edrychwch ar gynhyrchion a gwasanaethau tebyg sy’n cael eu cynnig yn fewnol (o fewn eich sefydliad) ac yn allanol (gan gystadleuwyr, partneriaid, neu gyrff annibynnol). Mae’r ddau’r un mor werthfawr. 

Adolygu ystadegau 

Cyn penderfynu ar y dadansoddeg rydych chi am ei ddadansoddi, mae’n bwysig gwybod beth rydych chi’n ceisio ei gyflawni. Mae hyn er mwyn bod y data’n cyd-fynd â’ch prosiect, ac yn eich helpu i ddeall y gwaith. Er enghraifft, os ydych chi’n gweithio ar arolwg, gall nifer yr arolygon sydd wedi’u dechrau a’u cwblhau, fod yn ddata defnyddiol i edrych arno. 

Mae llawer o wahanol lwyfannau dadansoddi ar gael, gyda ffyrdd gwahanol o gyflwyno data. Google Analytics yn llwyfan analytics cyffredin, maent yn cynnig cwrs Google Analytics am ddim i ddechreuwyr.  

Fodd bynnag, wrth ddewis offeryn, byddwch yn ofalus nad ydych yn defnyddio metrigau gwagedd a allai edrych yn dda, ond nad ydynt o reidrwydd yn helpu i gyflawni’ch nodau. 

Defnyddio chwiliad Boolean  

Mae chwiliad Boolean yn fformiwla i chwilio’r we sy’n eich galluogi i fireinio’ch chwiliad drwy gyfuno geiriau allweddol i gynhyrchu canlyniadau mwy perthnasol. Er enghraifft: 

“Tafarn” AND “Llundain” 

Byddai hyn yn cyfyngu’r canlyniadau chwilio i eitemau gyda’r ddau allweddair hynny yn unig. 

Mae chwiliad Boolean yn gweithio ar 

Bydd ein canllaw i gynnal chwiliad Boolean yn dweud mwy wrthych am sut i wneud hyn. 

Dadansoddiad geiriau allweddol 

Yr offeryn chwilio allweddair mwyaf poblogaidd yw Google AdWords

Mae’r offeryn yma’n dweud wrthych beth yw’r geiriau allweddol mwyaf poblogaidd y mae pobl yn eu defnyddio mewn chwiliadau ar-lein sy’n ymwneud â’ch pwnc. 

Mae’r dull hwn yn arbennig o werthfawr wrth adolygu eich cynnwys a’ch dealltwriaeth: 

Adolygiadau cwsmeriaid 

Edrychwch ar adolygiadau cwsmeriaid ar eich gwefan, ar fforymau, neu ar gyfryngau cymdeithasol. Bydd y rhain yn helpu gyda’ch ymchwil ddesg.  

Adolygiad hygyrchedd 

Gall adolygiad hygyrchedd roi cipolwg cyflym i chi ar eich prosiect os oes cynnwys presennol ar gael. 

Gallwch ei wneud yn gyflym, ar eich pen eich hun, o’ch desg. 

Gwiriwch darllenadwyedd eich cynnwys gan ddefnyddio 

Edrychwch ar hygyrchedd eich cynnwys trwy ddefnyddio offeryn gwirio cyferbyniad lliw ar-lein, neu ddefnyddio gwefannau hygyrchedd ar-lein i asesu eich cynnwys. 

Archwiliad cynnwys 

Mae archwiliad cynnwys yn rhoi golwg glir i chi ar y cynnwys sydd eisoes yn bodoli ar wefan, platfform neu wasanaeth.  

Gallwch ddarganfod beth yw archwiliad cynnwys a sut i wneud un, drwy ddarllen ‘How to Conduct a Content Audit’ ar flog UX Mastery’ 

Adolygiad cyfryngau cymdeithasol 

Cyfryngau cymdeithasol yw’n aml y lle mae cwsmeriaid neu ddinasyddion yn mynd i wneud cwyn neu i siarad yn onest am wasanaeth maen nhw wedi’i ddefnyddio. 

Chwiliwch am eich sefydliad neu bwnc penodol ar sianeli megis Twitter a YouTube i ddod o hyd i’w mewnwelediadau di-fflach am bwnc penodol.  

Ymchwil cynradd 

Ymchwil cynradd yw’r arfer o gasglu a chynhyrchu data a mewnwelediad. Dylid defnyddio ymchwil cynradd pan fydd gennych gwestiynau neu ragdybiaethau heb eu hateb am eich gwasanaeth neu gynnyrch. 

Os nad oes gennych fynediad at ymchwilydd defnyddwyr ond bod gennych fynediad at sampl o’ch defnyddwyr, gallwch gynnal rhywfaint o ymchwil cynradd drwy anfon arolwg byr atynt. Bydd hyn yn rhoi gwell cipolwg i chi ar anghenion y defnyddwyr yma.  

Gallwch ddylunio’r arolwg ar declyn megis Microsoft Forms neu Google Forms. Wedyn ei rannu trwy ddefnyddio: 

Mae hwn hefyd yn ddull cyffredin i’w defnyddio os yw eich cynulleidfa’n fewnol. 

Dyma rai technegau a dulliau eraill i’w defnyddio ar gyfer ymchwil cynradd. 

Gwybodaeth fewnol 

Rhwydweithiwch, ymchwiliwch a gofynnwch gwestiynau o fewn eich sefydliad eich hun. 

Efallai y bydd hen ffolderi ar yriant a rennir y gallwch gael mynediad atynt. Efallai bod pobl yn eich canolfan gyswllt â chwsmeriaid sydd wedi delio ag ymholiadau tebyg (mae data gwasanaethau cwsmeriaid ac ymholiadau cwsmeriaid yn ffynhonnell wych o ddata ar gyfer ymchwil desg). Mae’n bosib hefyd bod yna dimau eraill sydd wedi gweithio ar brosiectau tebyg.  

Galwch ar brofiadau oddi mewn i’ch sefydliad i gasglu gwell mewnwelediadau i’ch prosiect eich hun. 

Casglu data cynradd 

Dyma ambell ffordd o redeg eich ymchwil cynradd eich hun: 

Peidiwch byth â defnyddio un ffynhonnell ddata yn unig 

Mae yna hen ddywediad, “dwy ochr i’r geiniog”, ac mae hyn yr un fath ar gyfer unrhyw ddata rydych chi’n ei gasglu. Boed yn ddata ansoddol neu feintiol, mae mwy i’w ddarganfod bob amser. 

Gweler pob darn o ddata fel rhan o bos jig-so, nid oes angen iddo fod yn gyflawn i weld y llun, ond mae angen mwy nag un darn arnoch i ddechrau deall ei arwyddocâd. 

Mae cyfraddau bownsio yn enghreifftiau o un darn o ddata y gellid ei ddehongli mewn sawl ffordd. Mae cyfradd bownsio uchel yn gallu dangos bod rhywun: 

Trwy ddefnyddio data arall i adeiladu naratif, gall eich helpu i ddysgu pa un ydyw.  

Bydd defnyddio dulliau ymchwil lluosog yn rhoi tystiolaeth gyflawn i chi ac yn helpu’ch tîm i deimlo’n fwy hyderus i wneud penderfyniadau am eich gwasanaeth neu’ch cynnyrch.