Profi mewn dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr

Mewn dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, mae profi yn weithgaredd rydych chi’n ei wneud gyda defnyddwyr i wirio sut maen nhw’n defnyddio, canfod, neu ryngweithio â rhywbeth.

Gallai hyn fod yn gysyniad dylunio, cynnwys, taith, neu rywbeth arall yr ydych am gael mewnwelediad defnyddwyr arno.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael fel cyflwyniad:

Pryd dylech chi brofi

Mae profi yn bwysig trwy gydol cylch bywyd cynnyrch neu wasanaeth. Mae hyn yn golygu profi cynnyrch neu wasanaeth o syniadau cyfnod cynnar drwodd i’r gwasanaeth byw sydd ar gael i’r cyhoedd.

Mae’r ffordd mae pobl yn defnyddio ac yn rhyngweithio â gwasanaeth yn newid yn gyson. Mae hyn yn golygu bod angen gwaith cynnal ac adborth parhaus arno i sicrhau ei fod:

Byddwch yn glir ynglŷn â pham rydych chi’n profi

Cyn i chi brofi rhywbeth bydd angen i chi ddiffinio’r hyn sydd angen i chi ei ddysgu. Gallai hyn ddod o broblem, damcaniaeth, neu dybiaeth.

Mae profi yn ymwneud â dod o hyd i’r ffyrdd gorau o ddatrys problem. Nid yw ar gyfer ceisio dod o hyd i dystiolaeth i gyd-fynd â’r hyn yr hoffech i ddefnyddiwr ei ddweud.

Profi defnyddioldeb

Mae profi defnyddioldeb yn eich helpu i ddeall sut mae pobl yn defnyddio cynnyrch neu wasanaeth sy’n bodoli eisoes.

Mae’r dull hwn yn fwyaf defnyddiol ar gyfer:

Cynnal profion defnyddioldeb

Wrth redeg profion defnyddioldeb, dylech:

Mae Chris Sutton, ymchwilydd defnyddwyr a oedd yn arfer gweithio yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wedi ysgrifennu’r canllaw hwn ar gyfer cynnal sesiwn awr o hyd i brofi defnyddioldeb.

Profi syniadau neu gysyniadau newydd

Prototeipio

Mae prototeipiau’n frasfodel o syniad. Maen nhw’n caniatáu i chi brofi’r syniad cyn ei wneud yn fyw i’r cyhoedd.

Nid yw prototeipiau i fod yn berffaith. Maen nhw’n gallu bod yn gyflym ac yn fras, ond maen nhw’n gallu cyfleu’r syniad yn ddigon da i chi gael adborth gan ddefnyddwyr.

Pryd i brototeipio

Gallwch brototeipio rhywbeth pan nad yw’n glir beth yw gofynion y cynnyrch, neu maen nhw’n newid yn gyflym.

Efallai y bydd angen i chi greu prototeip os ydych chi’n profi syniad neu gysyniad nad yw’n bodoli eto.

Sut i brototeipio

Gallwch wneud prototeip ar gyfer:

Gellir profi cynnyrch ffisegol ar gardfwrdd. Gellir profi gwefan neu ap drwy ffrâm wifren wedi’i dynnu â llaw. Gellir profi rhyngweithiad gwasanaeth gyda chwarae rôl.

Y peth gorau i’w wneud yw dechrau profi syniadau mewn cywair isel yn gyntaf i sicrhau nad ydych yn treulio llawer o amser yn adeiladu rhywbeth nad yw’n diwallu anghenion defnyddwyr.

Gallech:

  1. ddefnyddio papur i fynd â’ch tîm drwy gamau defnyddio eich ap gyda pheth cynnwys sylfaenol
  2. gwneud fersiwn digidol sylfaenol a’i brofi gyda defnyddwyr
  3. ei adeiladu’n fersiwn cywair uchel gyda brandio a chynnwys wedi’i brofi, y gallwch fod â hyder ynddo

Mae’r ddelwedd isod yn dangos gwahanol lefelau o gyweiriau mewn prototeipiau i brofi gyda defnyddwyr a chael eu hadborth.

Credyd llun: Anami Chan

Wrth weithio gyda phrototeipiau, dylech bob amser:

Teclynnau ar gyfer prototeipio

Cynhyrchion digidol

Os gallwch chi ddefnyddio meddalwedd dylunio penodol, mae Figma, Sketch ac Adobe XD yn declynnau y gallech chi eu hystyried.

Os nad oes gennych fynediad at declynnau dylunio y telir amdanynt, defnyddiwch declynnau fel:

Gallech hefyd ddefnyddio teclynnau adeiladu gwefannau fel Squarespace, Wix, WordPress neu Marvel. Mae’r teclynnau hyn yn wych ar gyfer prototeipio cyflym a phrofi cynnwys mewn porwr.

Cynnyrch ar bapur

Gallai cynhyrchion ar bapur gynnwys llythyrau, llyfrynnau, taflenni, adroddiadau, neu ddeunyddiau marchnata.

I brototeipio’r rhain, defnyddiwch feddalwedd prosesu geiriau megis Microsoft Word neu Google Docs.

Gallwch hefyd ddefnyddio Canva, meddalwedd dylunio, neu offeryn cyflwyno.

Argraffwch gynnyrch ar bapur bob amser i weld sut y byddai’n edrych pan gaiff ei argraffu.

Gwasanaethau

Os ydych chi’n prototeipio gwasanaeth, mae’n syniad da prototeipio gyda sgript neu fwrdd stori.

Gwrthrychau

Gallwch weithio gyda gwrthrychau ffisegol neu ddefnyddio offer digidol i brototeipio’r marchnata ar gyfer cynnyrch.

Er enghraifft, os ydych chi’n gweithio ar ddyluniad swyddfa newydd, efallai y bydd defnyddio modelau ffisegol yn ddefnyddiol.

Gallech hefyd brototeipio gyda lluniau o sut y gallai’r swyddfa edrych a defnyddio hyn i gasglu adborth.

Wrth brototeipio gwrthrychau ffisegol, gallwch hefyd newid gwrthrych sy’n bodoli eisoes. Rydym wedi canfod bod teganau plant, fel Lego neu playdough, yn ddefnyddiol wrth greu’r mathau hyn o brototeipiau.

Dysgu mwy am brototeipio

Dulliau o brofi rhywbeth sy’n bodoli eisoes

Didoli cardiau

Mae didoli cardiau yn ffordd wych o ddeall sut mae defnyddwyr yn grwpio cynnwys. Gall y dull hwn helpu i strwythuro gwefan.

Sut i ddidoli cardiau

Gellir didoli cardiau gan ddefnyddio cardiau ffisegol neu gardiau ar sgrin (megis mewn Mural neu Miro).  

Mae pob cerdyn wedi’i labelu â chysyniad neu air a gofynnir i’r cyfranogwr drefnu’r cardiau mewn ffordd sy’n gwneud synnwyr iddynt.

Enghraifft

Wrth brofi strwythur eich gwefan. Os yw’r rhan fwyaf o gyfranogwyr yn rhoi’r cerdyn wedi’i labelu “oriau gweithredu” o dan “gwasanaethau”, yn hytrach nag o dan “lleoliadau”, yna mae’n gwneud synnwyr i ddylunio’r safle gydag oriau fel is-bennawd o dan gwasanaethau.

Dysgu mwy am ddidoli cardiau

Dilyn trywydd

Dilyn trywydd yw’r term Cymraeg a awgrymwn ar gyfer tree-jacking neu tree testing.

Mae dilyn trywydd (tree testing) yn ffordd o ddiffinio strwythur hierarchaidd gwybodaeth. 

Gall y dull hwn o brofi fod yn ddefnyddiol i: 

Gallwch ei ddefnyddio i brofi gwefan gyfan neu eich helpu i ddeall pensaernïaeth gwybodaeth gwasanaeth.  

Sut i ddilyn trywydd

Mae dilyn y trywydd (tree testing) yn cynnwys: 

  1. dangos man cychwyn i rywun gwblhau tasg 
  1. gofyn iddyn nhw lle bydden nhw’n clicio i’w helpu i gyrraedd eu nod 
  1. tracio’r daith y byddai’r person yn dewis ei theithio, o’r dudalen gyntaf i gwblhau’r dasg 

Dysgu mwy am ddilyn trywydd

Prawf Dewin Gwlad yr Os

Mae’r dull Dewin Gwlad yr Os (Wizard of Oz) yn cynnwys rhyngweithio â rhyngwyneb ffug sy’n cael ei reoli y tu ôl i’r llenni gan berson. 

Gallwch ei ddefnyddio i brofi cysyniadau costus yn rhad ac i ddiffinio problem. 

Profi A/B

Gall profion A/B (a elwir weithiau yn profi hollt) fod yn ffordd arbrofol o brofi dwy ffordd o gwblhau tasg neu weld gwybodaeth.  

Gallwch ddangos fersiwn A o ddyluniad i hanner eich cynulleidfa, a dangos fersiwn B i’r hanner arall. 

Mae hyn yn caniatáu i chi brofi a mesur pa syniad dylunio sydd fwyaf effeithiol. 

Dysgu mwy am brofi A/B 

Profi cynnwys drwy amlygu

Profi cynnwys drwy brofi amlygu. Mae’n ffordd gyflym a hawdd o gael adborth ar eich cynnwys a sut mae’n gwneud i bobl deimlo.

Sut i wneud profi amlygu

I brofi’r cynnwys, rydych chi’n rhoi darn o gynnwys i grŵp o ddefnyddwyr ac yn gofyn iddyn nhw amlygu’r testun.

Gallwch ddefnyddio amlygwr gwahanol liwiau i ddeall gwahanol emosiynau, er enghraifft:

Pan fyddwch wedi casglu’r holl ymatebion, bydd gennych syniad clir o sut mae’r cynnwys wedi gwneud i bobl deimlo a dylai fod gennych rai themâu a meysydd clir i weithio arnynt.

Teclynnau

Mae modd gwneud y math yma o brofi ar-lein gan ddefnyddio teclyn fel Microsoft Word neu Google Docs.

Mae hefyd yn effeithiol pan mae’r dudalen wedi ei hargraffu, ac mae pobl yn cwblhau’r dasg yn ffisegol.

Dysgu mwy am brofi amlygu

Gwerthuso hewristig

Gwerthusiad hewristig yw pan fydd arbenigwr digidol yn defnyddio gwybodaeth am arferion gorau i werthuso cynnyrch neu wasanaeth.

Gall hyn fod yn ddefnyddiol i ddysgu am faterion adnabyddus, er enghraifft:

Ni ddylech ddefnyddio’r math hwn o brofi os nad oes gennych chi’r arbenigwyr cywir i arwain a chwblhau’r profi

Byddwch yn ymwybodol nad yw’r profi hwn byth cystal â phrofi gyda phobl go iawn.

Dim ond ychydig o adborth a gewch chi ar y rhyngwyneb a’r cynnwys wrth brofi blwch gwirio gan ddefnyddio dull hewristig. Ni fydd yn rhoi cipolwg i chi ar brofiad cyffredinol y defnyddiwr.

Dysgu mwy am werthusiadau hewristig

Adolygiad dadansoddeg

Mae defnyddio data meintiol i weld sut mae eich cynnyrch neu wasanaeth yn perfformio yn ffordd dda o ddysgu am ymddygiadau, materion, neu bwyntiau poen pobl sy’n defnyddio eich gwasanaethau digidol.

Sut i ddefnyddio adolygiad dadansoddeg

Wrth ddefnyddio dadansoddeg ar gyfer profi, mae’n bwysig ystyried gwybodaeth gyd-destunol i gefnogi’r data. 

Er enghraifft, mae cyfradd bownsio yn dangos faint o bobl sy’n dod i’ch gwefan a ‘bownsio’ yn ôl i ffwrdd eto, heb glicio ar unrhyw dudalennau eraill ar eich safle.  

Gallai cyfradd bownsio uchel, sy’n golygu bod llawer o bobl ond yn ymweld ag un dudalen o’ch gwefan, fod yn dda neu’n ddrwg, yn dibynnu ar y cyd-destun a’r nod.  

Ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, gallai’r rhain fod yn wasanaethau sy’n gystadleuol iawn fel aelodaeth canolfannau hamdden neu faethu.

Offer ar gyfer adolygiadau dadansoddeg

Gyda theclynnau fel Google Analytics, a’r nifer o becynnau meddalwedd dadansoddeg eraill sydd ar gael, gallwch ddysgu am: 

Mae Nielsen Norman Group wedi cyhoeddi cyngor ac arweiniad am ‘three ways to use analytics in user-centred design’. 

Crits 

Crit yw pan mae grŵp o bobl yn dod at ei gilydd i siarad am, rhannu a gwella cynnyrch. 

Fe’u defnyddir i: 

Rheolau sesiwn crit

Dysgu mwy am crits