Ffyrdd o wella’ch cynnwys

Bydd ysgrifennu ar gyfer defnyddwyr mewn ffordd y maent yn ei ddeall yn gwella eich gwasanaeth. 

Mae defnyddwyr yn cael eu heffeithio gan y ffordd rydym yn dweud pethau: iaith, naws, hygyrchedd, a chynwysoldeb ein cynnwys. 

Gall cynnwys ddyrchafu neu ddifetha gwasanaeth. Gall fod y gwahaniaeth rhwng pobl yn deall gwasanaeth neu gynnyrch, neu beidio.  

Mae cynnwys da hefyd yn helpu eich sefydliad i gyflawni ei nodau. 

Pan fydd pobl yn deall gwybodaeth ac yn cyrchu gwasanaethau yn hawdd, mae ganddynt berthynas well gyda’ch sefydliad. Efallai na fydd angen iddynt gysylltu â chi dros y ffôn na gwneud cwyn. 

Mae helpu pobl i ddatrys eu problemau ar-lein hefyd yn arbed amser gwerthfawr i’ch staff. Mae’n fwy cost-effeithiol na dulliau eraill o ddarparu gwasanaeth, megis dros y ffôn neu wyneb yn wyneb. 

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael fel cyflwyniad:

Ysgrifennu ar gyfer anghenion defnyddwyr

Mae ysgrifennu ar gyfer angen defnyddiwr bob amser yn sicrhau bod pwrpas i’r cynnwys a’i fod yn datrys problem i’ch defnyddwyr. 

Dyma’r prif wahaniaeth rhwng ysgrifennu cynnwys a dylunio cynnwys. Mae bod yn ddylunydd cynnwys yn golygu canolbwyntio’ch gwaith ar anghenion defnyddwyr.  

Bydd yr anghenion defnyddwyr hyn wedi’u canfod mewn ymchwil defnyddwyr. Fel dylunydd cynnwys, gallwch wneud eich ymchwil eich hun wrth y ddesg. Os oes gennych chi ymchwilydd defnyddwyr o fewn eich gafael, gallant eich helpu i wneud ymchwil mwy manwl i ddarganfod pa broblemau sydd gan eich defnyddwyr, a pha gefnogaeth sydd ei hangen ar eich defnyddwyr i ddatrys eu problemau.  

Dysgwch fwy am anghenion defnyddwyr

Darganfyddwch pa eiriau mae eich defnyddwyr yn eu defnyddio

Trwy ddysgu am y geiriau a’r ymadroddion y mae eich defnyddwyr eisoes yn eu defnyddio, gallwch greu cynnwys mewn ffordd berthnasol y gallant ei ddeall. 

Mae hyn yn helpu i enwi’ch cynnwys yn gywir fel y gall pobl ddod o hyd iddo. Mae hefyd yn sicrhau eich bod chi’n defnyddio’r un derminoleg y mae defnyddiwr yn gyfarwydd â hi ac yn gyfforddus â hi.  

Y ffordd orau o glywed a deall yr iaith y mae eich defnyddwyr yn ei defnyddio yw trwy gynnal ymchwil defnyddwyr. 

Gall yr ymchwil hwn fod ar sawl ffurf, gan gynnwys: 

Defnyddio offer gwrando cymdeithasol a thactegau megis cynnal chwiliad boolean i ddarllen yr iaith a’r cynnwys y mae eich defnyddwyr yn eu defnyddio wrth drafod pwnc. 

Mae Google yn prosesu tua 8.5 biliwn o chwiliadau’r dydd (Internet Live Stats, 2022). Gallwch ddefnyddio geiriau allweddol a data chwilio i weld pa iaith y mae pobl yn ei defnyddio wrth wneud chwiliad.  

Yn hollbwysig, gall ymchwilio allweddeiriau hefyd ddweud wrthych os na all cynnwys ddatrys problem defnyddiwr. Os nad yw rhywun yn chwilio am y pwnc ar-lein, mae’n annhebygol y medrwch ddatrys y broblem gyda chynnwys ar-lein. 

Offer i ddod o hyd i eiriau allweddol ymchwil

Dysgwch fwy am ymchwil allweddair

Defnyddiwch iaith glir

Mae defnyddio iaith glir yn sicrhau eich bod yn diwallu anghenion mwy o ddefnyddwyr oherwydd bydd mwy o bobl yn deall eich cynnwys.

Mae wedi cael ei esbonio fel hyn: “Nid dweud diniwed ydyw, ond dweud yn agored yw.”

Gall hyn fod yn anodd pan fydd arbenigwyr pwnc yn ysgrifennu cynnwys.

Ystyriwch, i reolwr cyfryngau cymdeithasol, y byddai hashnod, argraff neu retweet yn iaith bob dydd. I rywun sy’n newydd i’r cyfryngau cymdeithasol, nid yw hon yn iaith sy’n golygu dim.

Sgoriau darllenadwyedd a darllen

Gall ysgrifennu ar gyfer sgôr darllen isel helpu i sicrhau bod eich cynnwys yn fwy cynhwysol ac yn haws ei ddarllen. 

Mae sgôr darllen yn ganllaw i’w ddilyn. Anaml y bydd dilyn sgôr darllen o dan anfantais i ddefnyddwyr â lefel uwch o lythrennedd. Fodd bynnag, profi eich cynnwys yw’r unig ffordd i sicrhau bod eich cynnwys yn addas ar gyfer eich cynulleidfaoedd.  

Peidiwch â defnyddio idiomau, ystrydebau, jargon, bratiaith, a gorgwrteisi

Isod mae rhestr o ddiffiniadau’r geiriau yma: 

Mae idiomau yn ymadroddion nad oes iddynt ystyr llythrennol. 

Mae ystrydebau yn ymadroddion sydd yn gyffredin ac yn cael eu gorddefnyddio fel nad ydyn nhw’n cael unrhyw effaith wirioneddol ar eich brawddeg. 

Jargon yw’r iaith arbenigol, yn aml yn dechnegol, a ddefnyddir gan bobl mewn maes, proffesiwn neu grŵp cymdeithasol penodol. 

Bratiaith yw iaith anffurfiol sgwrsio, negeseuon testun, a chyfathrebu cymdeithasol achlysurol arall ymhlith ffrindiau.  

Gorgwrteisi yw geiriau neu ymadroddion mwynach a ddefnyddir i bylu effaith geiriau neu ymadroddion mwy uniongyrchol neu annymunol. 

Os byddwch yn osgoi defnyddio’r rhain yn eich gwaith ysgrifennu, bydd yn gliriach, yn fwy cynhwysol ac yn haws i bobl ei ddeall.  

Defnyddiwch acronymau yn gynnil

Mewn gwasanaethau sector cyhoeddus, anaml y bydd pobl sy’n rhyngweithio â gwasanaeth yn deall acronymau lle cânt eu defnyddio. 

Mae Grammarly yn diffinio acronym fel: 

“math penodol o fyrfodd sy’n ffurfio gair ynganadwy o lythyren neu sillaf gyntaf pob gair mewn ymadrodd. Er enghraifft, mae’r gair LASIK yn acronym ar gyfer laser-assisted in situ keratomileusis.”  

Defnyddiwch acronymau dim ond pan fydd yr acronym yn fwy adnabyddus na’r geiriau y maent yn sefyll drostynt. Maent eisoes yn gynhwysol ac yn haws eu deall. Rhai enghreifftiau o’r rhain yw:  

Ceisiwch osgoi defnyddio unrhyw acronym arall lle bo modd. Mae’n ychwanegu at y llwyth gwybyddol ar gyfer y person sy’n ceisio deall y cynnwys.  

Offer darllenadwyedd

Dysgwch fwy am ddarllenadwyedd

Strwythuro a fformatio cynnwys

Strwythuro a fformatio testun i gyfeirio defnyddwyr at y cynnwys sy’n berthnasol ac sydd bwysicaf iddynt. 

Ar-lein, mae pobl yn darllen mewn gwahanol ffyrdd. Mae hyn yn aml yn golygu sganio i ddod o hyd i’r wybodaeth fwyaf perthnasol iddynt. Anaml iawn y mae’n golygu darllen holl gynnwys tudalen.  

Yn aml gall gwasanaethau cyhoeddus fod yn gymhleth gyda llawer o wybodaeth. Ond mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i’w symleiddio ar gyfer eich defnyddwyr. 

Ysgrifennwch y cynnwys sydd ei angen ar y defnyddiwr i ddatrys ei broblem yn unig. Efallai nad dyma’r cyfan y credwch sydd ei angen arnynt. Mae unrhyw beth arall yn fewnol i’ch sefydliad.  

Tips cynnwys

Osgówch waliau o destun. Os yw’ch cynnwys yn edrych fel wal, mae angen ei docio.

Defnyddiwch is-benawdau i rannu’ch cynnwys yn glir a helpu pobl i lywio i’r wybodaeth sy’n berthnasol iddyn nhw.

Mae rhestrau bwled neu restrau wedi’u rhifo yn fwy uniongyrchol.

Mae brawddegau a pharagraffau byrion yn haws eu darllen a’u deall.

Ysgrifennwch yn gynhwysol a diragfarn

Bydd ysgrifennu cynnwys yn gynhwysol ac yn ddiragfarn yn diwallu anghenion amrywiol eich defnyddwyr.

Mae’n hawdd ysgrifennu o’n profiadau a’n safbwyntiau ein hunain. Yn aml, gall hyn wneud i bobl sydd ddim fel ni deimlo eu bod wedi’u heithrio gan ein hysgrifennu.

Gofynnwch bob amser, peidiwch byth â chymryd yn ganiataol

Pan fyddwn yn ysgrifennu am bobl, ni ddylem wneud unrhyw ragdybiaethau.

Pan fydd yn bosib, dylen ni ofyn i’r person rydyn ni’n ysgrifennu am sut y byddai’n well ganddyn nhw gael eu disgrifio.

Ysgrifennwch ar gyfer cyd-destun

Pan fyddwn yn ysgrifennu am berson neu bobl, darganfyddwn gymaint ag y gallwn am eu cyd-destun, fel y gallwn ddeall ac adlewyrchu eu profiad bywyd yn llawn.

Gall cyd-destun person fod yn gysylltiedig â’i hil, rhyw, neu brofiad bywyd. Gall hefyd fod yn rhywun sy’n delio â galar, problemau iechyd meddwl neu bryderon ariannol.

Ysgrifenwch gyda gofal, sensitifrwydd, parch a chywirdeb.

Offer i wirio cynhwysiant eich cynnwys

Darllenwch fwy am iaith gynhwysol

Peidiwch â defnyddio cwestiynau cyffredin

Anaml y bydd cwestiynau cyffredin (FAQs) yn eich helpu i ddiwallu anghenion eich defnyddwyr.

Maent yn aml yn haws eu hysgrifennu ond dyma ddigon o dystiolaeth i ddangos nad yw cwestiynau cyffredin yn ddefnyddiol i ddefnyddwyr.

Dewisiadau eraill yn lle cwestiynau cyffredin

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dod o hyd i ba eiriau mae’ch defnyddwyr yn eu defnyddio. Bydd hyn, ynghyd â chael swyddogaeth chwilio ar eich gwefan, yn sicrhau bod modd dod o hyd i’ch cynnwys yn hawdd.

Dysgwch fwy am gwestiynau cyffredin

Profi eich cynnwys

Profi defnyddioldeb

Mae profi defnyddioldeb yn eich helpu i ddeall sut mae pobl yn defnyddio cynnyrch neu wasanaeth sy’n bodoli eisoes.

Mae’r dull hwn yn fwyaf defnyddiol ar gyfer:

Cynnal profion defnyddioldeb

Wrth redeg profion defnyddioldeb, dylech:

Mae Chris Sutton, ymchwilydd defnyddwyr a oedd yn arfer gweithio yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wedi ysgrifennu’r canllaw hwn ar gyfer cynnal sesiwn awr o hyd i brofi defnyddioldeb.

Profi cynnwys drwy amlygu

Profi cynnwys drwy brofi amlygu. Mae’n ffordd gyflym a hawdd o gael adborth ar eich cynnwys a sut mae’n gwneud i bobl deimlo.

Sut i wneud profi amlygu

I brofi’r cynnwys, rydych chi’n rhoi darn o gynnwys i grŵp o ddefnyddwyr ac yn gofyn iddyn nhw amlygu’r testun.

Gallwch ddefnyddio amlygwr gwahanol liwiau i ddeall gwahanol emosiynau, er enghraifft:

Pan fyddwch wedi casglu’r holl ymatebion, bydd gennych syniad clir o sut mae’r cynnwys wedi gwneud i bobl deimlo a dylai fod gennych rai themâu a meysydd clir i weithio arnynt.

Teclynnau

Mae modd gwneud y math yma o brofi ar-lein gan ddefnyddio teclyn fel Microsoft Word neu Google Docs.

Mae hefyd yn effeithiol pan mae’r dudalen wedi ei hargraffu, ac mae pobl yn cwblhau’r dasg yn ffisegol.

Dysgu mwy am brofi amlygu

Crits 

Crit yw pan mae grŵp o bobl yn dod at ei gilydd i siarad am, rhannu a gwella cynnyrch. 

Fe’u defnyddir i: 

Rheolau sesiwn crit

Dysgu mwy am crits

Didoli cardiau

Mae didoli cardiau yn ffordd wych o ddeall sut mae defnyddwyr yn grwpio cynnwys. Gall y dull hwn helpu i strwythuro gwefan.

Sut i ddidoli cardiau

Gellir didoli cardiau gan ddefnyddio cardiau ffisegol neu gardiau ar sgrin (megis mewn Mural neu Miro).  

Mae pob cerdyn wedi’i labelu â chysyniad neu air a gofynnir i’r cyfranogwr drefnu’r cardiau mewn ffordd sy’n gwneud synnwyr iddynt.

Enghraifft

Wrth brofi strwythur eich gwefan. Os yw’r rhan fwyaf o gyfranogwyr yn rhoi’r cerdyn wedi’i labelu “oriau gweithredu” o dan “gwasanaethau”, yn hytrach nag o dan “lleoliadau”, yna mae’n gwneud synnwyr i ddylunio’r safle gydag oriau fel is-bennawd o dan gwasanaethau.

Dysgu mwy am ddidoli cardiau

Dilyn trywydd

Dilyn trywydd yw’r term Cymraeg a awgrymwn ar gyfer tree-jacking neu tree testing.

Mae dilyn trywydd (tree testing) yn ffordd o ddiffinio strwythur hierarchaidd gwybodaeth. 

Gall y dull hwn o brofi fod yn ddefnyddiol i: 

Gallwch ei ddefnyddio i brofi gwefan gyfan neu eich helpu i ddeall pensaernïaeth gwybodaeth gwasanaeth.  

Sut i ddilyn trywydd

Mae dilyn y trywydd (tree testing) yn cynnwys: 

  1. dangos man cychwyn i rywun gwblhau tasg 
  2. gofyn iddyn nhw lle bydden nhw’n clicio i’w helpu i gyrraedd eu nod 
  3. tracio’r daith y byddai’r person yn dewis ei theithio, o’r dudalen gyntaf i gwblhau’r dasg 

Dysgu mwy am ddilyn trywydd