Dylunio mewn dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr

Pan fydd y mwyafrif yn meddwl am ddylunio, maen nhw’n meddwl am bethau gweledol – celf, lluniau, lliwiau neu fformatio. 

Ond mae dylunio o fewn dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn gymaint mwy na lluniau tlws.  

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael fel cyflwyniad:

Math o ddylunio

Rydym yn aml yn clywed am dri math o ddylunio: 

Dylunio rhyngweithio

Yn llywodraeth ganolog y DU, mae rôl swydd o’r enw Dylunydd Rhyngweithio. Mae Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth yn diffinio dyluniad rhyngweithio fel: 

Mae dylunydd rhyngweithio yn datrys y ffordd orau o adael i ddefnyddwyr ryngweithio â gwasanaethau, o ran llif cyffredinol ac ar lefel yr elfennau dylunio unigol.

Wrth ddylunio gwasanaethau i ganolbwyntio ar y defnyddiwr, mae dylunio rhyngweithio yn golygu gwybod pethau megis:

Yn syml, swydd dylunydd rhyngweithio yw helpu person ar hyd ei daith trwy sicrhau bod y penderfyniadau dylunio yn reddfol ac nad ydynt yn gwneud i’r defnyddiwr weithio’n rhy galed.

Mae llawer o debygrwydd rhwng dylunio rhyngweithio a dylunio UX.

Darllenwch fwy am ddylunio rhyngweithio

Profiad y defnyddwyr (UX)

Mae’r gwyddonydd gwybyddol, Don Norman, yn derbyn clod am fathu’r term, “profiad defnyddiwr” yn ôl yn y 1990au cynnar, pan oedd yn gweithio i Apple ac yn ei ddiffinio fel:

Mae ‘profiad defnyddiwr’ yn cwmpasu pob agwedd rhyngweithio’r defnyddiwr o’r dechrau i’r diwedd, â’r cwmni, ei wasanaethau, a’i gynhyrchion.

Dysgwch fwy am ddylunio profiad y defnyddwyr (UX) ar wefan y Sefydliad Dylunio Rhyngweithiol.  

Rhyngwyneb defnyddwyr (UI)

Mae rhyngwyneb defnyddwyr (UI), yn cyfeirio at yr holl rannau o gynnyrch neu wasanaeth y bydd defnyddiwr yn rhyngweithio â nhw.

Cymharu UX ac UI

Yn aml, defnyddir UX ac UI yn gyfnewidiol. Ond beth yw’r gwahaniaethau rhyngddynt?

Ffordd syml o gymharu UX ac UI yw cyfeirio at UX fel y ‘pam’, a’r UI fel y ‘sut’.

Dysgwch fwy am y gwahaniaethau rhwng UX ac UI ar Nielsen Norman Group.  

Pwysigrwydd dylunio UX / UI

Mwy o ystadegau UX gan 99 Firms.

Ffyrdd o wella eich penderfyniadau dylunio

Creu llif defnyddwyr

Mae llif defnyddiwr yn ddiagram sy’n mapio pob cam y mae defnyddiwr yn ei gymryd wrth ddefnyddio cynnyrch neu wasanaeth. 

Fel arfer, maent ynghlwm wrth bersona a phwynt mynediad penodol. 

Felly, wrth ddefnyddio’r math hwn o siart llif, efallai y bydd gennych lawer o wahanol senarios sy’n dechrau mewn gwahanol leoedd, gyda gwahanol grwpiau defnyddwyr yn dilyn llwybrau gwahanol. 

Hyd yn oed pan fod llif defnyddwyr â llwybrau lluosog, mae’r brif dasg neu gyflawniad fel arfer yr un peth bob amser. 

Nid oes rhaid i hyn fod yn berffaith, ond gall fod yn ddefnyddiol i sicrhau cysondeb yn y dyluniad a helpu’r defnyddiwr ar hyd y daith, yn enwedig os yw’r gwasanaeth neu’r cynnyrch yn rhychwantu timau lluosog. 

Ffynhonnell: Career Foundry 

Creu fframiau gwifren, brasfodeli a phrototeipio

Eich fframiau gwifren, brasfodeli a phrototeipiau yw’r ffordd orau i brofi eich dyluniadau, dal camgymeriadau, neu ddod o hyd i ffyrdd o wella eich cynnyrch neu wasanaeth. Y gwahaniaeth rhwng y tri yw:

Ffynhonnell: Aha!

Fe wnaethom gyhoeddi canllaw i brototeipio ar wahanol lefelau o ffyddlondeb yn ein canllaw profi. 

Dysgu cyfathrebu gweledol a UI

Gall ciwiau gweledol gael effaith fawr ar sut mae pobl yn defnyddio’ch cynnyrch neu wasanaeth.

Fel dylunydd, dylech ddeall cysyniadau cyfathrebu gweledol megis: 

Dyma rai cwestiynau i’ch helpu i wirio am gyfathrebu gweledol da:

Dysgwch fwy am ddylunio gweledol

Dysgu ysgrifennu a chynnwys UX

Mae ysgrifennu UX yn wahanol i ddylunio cynnwys. Mae ysgrifennu UX yn cyfeirio at y darnau bach o gynnwys sy’n rhan o’r dyluniad, y darnau sydd ddim yn rhan o’r prif gynnwys ar y dudalen honno. Bydd y rhain yn dylanwadu ar ba mor hawdd yw hi i bobl lywio’r rhyngwyneb a pha mor debygol ydynt o barhau i’w ddefnyddio. 

Wrth weithio ar brif gynnwys y dudalen, dilynwch ddulliau ac egwyddorion dylunio cynnwys. Darllenwch sut i wella eich cynnwys yn ein canllaw ar-lein

Os ydych chi’n gweithio ar ddyluniad, mae’n bwysig ystyried y microcopi yn ofalus. Mae microcopi yn cynnwys pethau fel: 

Wrth wneud penderfyniadau dylunio dylech ystyried cynnwys ac ysgrifennu:

Mae dylunwyr yn defnyddio saernïaeth gwybodaeth i sicrhau bod gwybodaeth bwysig ar gael yn hawdd i ddefnyddwyr.

Ymchwil defnyddwyr a phrofion ar gyfer dylunwyr 

Dylai pob dyluniad ddechrau gydag ymchwil neu brofi gyda phobl go iawn sy’n defnyddio’ch cynnyrch neu wasanaeth. 

Mae casglu gwybodaeth o ansawdd gan eich defnyddwyr wrth iddynt ryngweithio â gwasanaeth neu gynnyrch yn sgil hanfodol sydd angen ar ddylunydd i’w datblygu. 

Wrth brofi’ch gwasanaethau gyda defnyddwyr, gallwch wahanu UX ac UI yn ôl y mathau o gwestiynau rydych chi’n eu gofyn.  

Bydd dylunwyr yn gweithio’n agos gydag ymchwilwyr defnyddwyr i ddeall ymddygiad defnyddwyr, modelau meddyliol ac anghenion yn well. 

Os nad oes gennych chi fynediad at ymchwilydd defnyddwyr, mae gennym ni ganllaw defnyddiol i’ch helpu chi i ddechrau gydag ymchwil defnyddwyr, a chanllaw arall i helpu gyda phrofion

Mae arsylwi’r ffordd y mae pobl yn rhyngweithio â’ch dyluniadau yn gwneud eich cynnyrch neu wasanaeth yn well – i’ch defnyddwyr ac i chi. Mae hyn yn golygu profi beth maen nhw’n ei hoffi, ddim yn ei hoffi, neu ble maent yn ceisio goresgyn her yn y broses. 

I brofi UI, gallwch ofyn cwestiynau technegol i ddefnyddwyr am ryngwynebau, er enghraifft: 

I werthuso UX, mae angen mwy o gwestiynau ac atebion emosiynol a seicolegol arnoch. 

Codio a datblygu

Mae gan lawer o ddylunwyr rhyngweithio rai sgiliau rhaglennu i’w helpu i ddeall beth yw’r cyfyngiadau mewn dyluniadau. 

Bydd llawer o ddylunwyr, pan fo angen, yn prototeipio mewn côd i roi profiad i ddefnyddwyr yn ystod profion sydd mor agos â phosib at brofiad gwirioneddol y defnyddiwr 

Ni fyddwn yn eich dysgu i godio yma, ond dyma drosolwg cyflym o’r gwahanol fathau o godau pen blaen i’w deall, er mwyn eich helpu gyda sgyrsiau dylunio: 

Dysgwch fwy am HTML ar W3 Schools