Deall ‘Ystwyth’

Mae datblygiad ystwyth yn profi fersiynau gweithiol o wasanaeth gyda defnyddwyr terfynol cyn gynted â phosibl. Mae’r ffordd hon o weithio yn cynnig adborth cyflym i dimau datblygu ac yn helpu i sicrhau bod y gwasanaeth sy’n mynd yn fyw yn diwallu anghenion gwirioneddol defnyddwyr.

Mae defnyddio dull Ystwyth yn caniatáu i dimau gwasanaeth ymdrin â chymhlethdod mewn ffordd agored, gydweithredol ac ailadroddol.

Camau datblygu ystwyth: darganfod/alffa/beta/byw

Mae darganfod yn ymwneud â deall problem cyn ymrwymo i adeiladu gwasanaeth i’w datrys. Mae’n cynnwys dysgu am eich defnyddwyr a’r hyn y maent am ei wneud, pa gyfyngiadau y gallech fod yn eu hwynebu a’r cyfleoedd i wella sut mae pethau’n cael eu darparu heddiw.

Mae Alffa yn ymwneud â rhoi cynnig ar atebion gwahanol i’r broblem a nodwyd gennych yn ystod y cyfnod darganfod. Erbyn diwedd alpha, dylech fod mewn sefyllfa i wybod pa rai, os o gwbl, o’ch atebion yr hoffech eu symud ymlaen i’r cam beta.

Mae Beta yn ymwneud â chymryd eich syniad gorau o alpha a dechrau ei adeiladu fel gwasanaeth.

Mae byw yn ymwneud â chefnogi eich gwasanaeth newydd a gwrando’n barhaus ar eich defnyddwyr i wneud newidiadau a gwelliannau.

[diagram o gamau Agile: Discovery, Alpha, Beta, Live] Mae Discovery yn dangos bwlb golau, Alpha yn dangos beiro, Beta yn eiconau mecanyddol ac mae Live yn amlinelliad o ffôn

Seremonïau Ystwyth

Cyfarfod ar eich sefyll yw cyfarfod dyddiol er mwyn i’r tîm drafod yr hyn maen nhw wedi bod yn gweithio arno a ph’un a oes unrhyw broblemau neu rwystrau y mae arnynt angen cymorth â nhw. Dylai’r cyfarfodydd hyn fod yn fyr ac yn benodol.

Cynhelir cyfarfodydd cynllunio cyflym er mwyn i’r tîm benderfynu beth i weithio arno nesaf a sut y byddant yn mynd ati.

Mewn cyfarfod dangos a dweud, mae aelodau’r tîm yn cael arddangos eu gwaith. Mae’r cyfarfodydd hyn yn gyfle gwych i wahodd rhanddeiliaid, uwch arweinwyr a chyflenwyr i gael gwybod mwy am y gwaith rydych wedi bod yn ei wneud. Gallech hyd yn oed agor eich cyfarfod dangos a dweud i weddill eich sefydliad.

Cyfarfodydd rheolaidd yw ôl-sylliadau sy’n rhoi cyfle i’r tîm cyfan drafod beth sy’n mynd yn dda a beth nad yw’n mynd cystal. Cânt eu defnyddio i ddatrys unrhyw broblemau a chynnal y pwyslais ar y pethau sy’n gweithio.

Mae hanesion defnyddwyr yn disgrifio defnyddiwr a’r rheswm pam mae angen iddo ddefnyddio’r gwasanaeth rydych chi’n ei greu.

Darllen pellach